Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn seilwaith Abertawe ar gyfer y tymor hir

Alun Cairns yn cyhoeddi buddsoddiad newydd gwerth 拢800,000 yn y ganolfan SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Swansea

Swansea

  • Alun Cairns yn galw, mewn araith yn y ddinas, am gynnydd cyflym wrth gyflawni Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe
  • Llywodraeth y DU yn cyhoeddi buddsoddiad newydd gwerth 拢800,000 yn y ganolfan SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer y swyddfa 鈥榶nni-bositif鈥� gyntaf yn y DU
  • Ysgrifennydd Cymru yn ymweld ag oriel yng nghanol y ddinas i ganfod gwybodaeth ar gyfer y ras am deitl Dinas Diwylliant y DU 2021

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn galw ar bob partner i 鈥渄ynnu ynghyd a gwneud gweledigaeth Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertaw yn realiti鈥� pan fydd yn siarad 芒 chynadleddwyr yn nigwyddiad Fforwm Polisi Cymru yn Abertawe heddiw (26 Hydref).

Mae araith Mr Cairns yn rhan o ymweliad ehangach ag Abertawe, lle bydd hefyd yn cyhoeddi bod buddsoddiad gwerth 拢800,000, sy鈥檔 cael ei gefnogi gan y Llywodraeth, yn cael ei roi i Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae鈥檙 cyllid yn cael ei roi gan Innovate UK, a bydd yn cael ei ddefnyddio i godi鈥檙 swyddfa 鈥榶nni-bositif鈥� gyntaf yn y DU, sy鈥檔 gallu cynhyrchu mwy o ynni nag y mae鈥檔 ei ddefnyddio.

Ym mis Mawrth eleni, safodd yr Ysgrifennydd Gwladol wrth ochr y Prif Weinidog a phartneriaid lleol i lofnodi Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe.

Mae disgwyl i鈥檙 fargen arwain at fwy na 9,000 o swyddi a 拢1.3 biliwn o fuddsoddiad drwy 11 o brosiectau targedol, i roi Cymru ar flaen y gad mewn gwyddoniaeth ac arloesi ar lefel fyd-eang.

Saith mis ar 么l llofnodi鈥檙 cytundeb, bydd Mr Cairns yn mynd ar y llwyfan yng Ngwesty鈥檙 Marriott ac yn annog partneriaid i fynd ati nawr i 鈥渟ymud ymlaen at gyflawni鈥� er mwyn i bobl Abertawe allu 鈥済weld y manteision gwirioneddol a鈥檙 buddsoddiad sy鈥檔 cael ei wneud.鈥�

Yn ystod yr araith, bydd yn amlinellu sut bydd Abertawe yn elwa ar y modd y mae Llywodraeth y DU yn blaenoriaethu ei fuddsoddiad mewn seilwaith. Bydd dyfodiad trenau deufoddol arloesol Intercity Express yn ddiweddar o fudd i deithwyr ar draws de Cymru, ac mae鈥檙 Llywodraeth hefyd yn bwriadu gwneud gwelliannau i鈥檙 orsaf yn Abertawe ac edrych ar ffyrdd o ddarparu gwasanaethau uniongyrchol o Lundain i Ddoc Penfro.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Dyma adeg cyffrous i ranbarth Abertawe 鈥� nid yn unig oherwydd natur ddeinamig y prosiectau a fydd yn cael eu cyflawni drwy鈥檙 Fargen Ddinesig, ond hefyd oherwydd y buddsoddiadau eraill sy鈥檔 cael eu gwneud yn y seilwaith ac a fydd yn para blynyddoedd lawer.

Mae gan Lywodraeth y DU uchelgais ar gyfer Abertawe. Dyna pam ein bod yn rhoi鈥檙 p诺er i鈥檙 ardal wneud y penderfyniadau i gefnogi twf economaidd y ddinas, i roi hwb i gyflogaeth ac i ddenu buddsoddiad.

Mae angen i ni fanteisio ar y cyfleoedd sy鈥檔 dod i ran Abertawe. Mae potensial enfawr i鈥檙 rhanbarth, ond rhaid i bob lefel o lywodraeth, y sectorau preifat a chyhoeddus weithio gyda鈥檌 gilydd i鈥檞 hybu ac i sicrhau bod y rhanbarth yn bwerdy arloesi fel y mae鈥檔 haeddu bod.

Bydd yr adeilad yn cael ei greu drwy ddefnyddio technegau cynhyrchu arloesol oddi ar y safle a bydd yn cynnwys technolegau arloesol i gynaeafu, storio a rhyddhau ynni. Bydd yr adeilad wedi cael ei gwblhau erbyn Ebrill 2018, a bydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith gan hyd at 40 o aelodau o staff.

Mae SPECIFIC yn cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe ac mae鈥檔 gweithio gyda mwy na 50 o bartneriaid o鈥檙 byd academaidd, diwydiant a llywodraeth er mwyn gwireddu ei gweledigaeth i wneud adeiladau鈥檔 orsafoedd p诺er. Bydd y Swyddfa Actif yn cael ei chysylltu 芒鈥檙 Ystafell Ddosbarth Actif, sef lle sy鈥檔 darparu gofod addysgu a labordy ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe, yn ogystal 芒 chyfleuster datblygu ar raddfa adeilad ar gyfer SPECIFIC a鈥檌 bartneriaid mewn diwydiant.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i arwain y byd o ran technoleg ynni gl芒n, ac mae鈥檙 buddsoddiad heddiw yn dangos ein bod ni鈥檔 barod i gefnogi arloesedd yn y maes hollbwysig yma.

Mae ymchwil ac arloesi wedi profi eu bod yn helpu i hybu ein heconomi. Mae Prifysgol Abertawe yn gwneud cyfraniad enfawr yn y maes hwn, ac yn cymryd camau breision ymlaen mewn gwyddoniaeth ac ymchwil, gan ddenu canmoliaeth ledled y byd. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld y buddsoddiad hwn yn cael ei wireddu, a gobeithio y bydd yn rhoi hwb arall i鈥檙 ymchwil arloesol sy鈥檔 cael ei wneud gan y Brifysgol.

Dywedodd Ruth McKernan, Prif Weithredwr Innovate UK:

Mae codi鈥檙 adeilad cyntaf yn y DU sy鈥檔 creu mwy o b诺er nag y mae鈥檔 ei ddefnyddio yn gam pwysig, ac rwy鈥檔 falch mai arian gan Innovate UK sy鈥檔 sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae鈥檙 Swyddfa Actif yn arwydd o鈥檙 dyfodol ym maes dylunio adeiladau ac mae鈥檔 brawf o鈥檙 gwaith gwych sy鈥檔 cael ei wneud ym Mhrifysgol Abertawe gan d卯m SPECIFIC. Bydd y prif enghraifft o鈥檙 cysyniad 鈥榓deiladau fel gorsafoedd p诺er鈥� yn denu ymwelwyr o bob rhan o鈥檙 byd a bydd yn rhoi cip ar y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Richard Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

Mae鈥檔 gyffrous gweld cysyniad arloesol SPECIFIC o 鈥榓deiladau fel gorsafoedd p诺er鈥� yn cael ei wireddu. Mae鈥檙 Swyddfa Actif ar Gampws godidog y Bae wedi ymddangos yn fuan ar 么l yr Ystafell Ddosbarth Actif arloesol. Yn ogystal ag arddangos beth sydd nawr yn bosibl oddi-ar-y-grid, bydd yr adeilad newydd yn rhannu ynni gyda鈥檙 Ystafell Ddosbarth Actif, a bydd yn dangos sut gall adeiladau weithio gyda鈥檌 gilydd i greu cymunedau sy鈥檔 wydn o ran ynni.

Tra bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn y ddinas, bydd yn manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am yr achos sy鈥檔 cael ei gyflwyno gan Abertawe yn y ras am deitl Dinas Diwylliant y DU yn 2021.

Bydd yn ymweld ag Oriel Gelf Glyn Vivian lle bydd y curadur Jenni Spencer-Davies yn mynd ag ef ar daith o amgylch yr oriel ac yn rhoi trosolwg o鈥檙 gwaith datblygu gwerth miliynau o bunnau ar y lle.

Sefydlwyd yr oriel restredig Gradd II yn 1911, ac mae hi wedi elwa ar hwb ariannol gwerth 拢576,500 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i鈥檞 helpu i鈥檞 throi鈥檔 oriel gelf arbennig o bwys rhyngwladol, gyda gofodau newydd ar gyfer arddangosfeydd teithiol, arddangosiadau a darlithoedd yn ogystal 芒 mynedfa gwbl hygyrch, caffi a siop.

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Innovate UK yw asiantaeth arloesi y DU. Mae Innovate yn hybu cynhyrchiant a thwf drwy gefnogi busnesau i wireddu potensial technolegau newydd, datblygu syniadau a鈥檜 gwneud nhw鈥檔 llwyddiant masnachol.
  • Mae Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot, ynghyd 芒 Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a phartneriaid o鈥檙 sector preifat.
  • Mae Canolfannau Arloesi a Gwybodaeth wedi cael eu hariannu ar y cyd gan yr EPSRC (Cyngor Ymchwil Ffisegol Peirianneg) ac Innovate UK fel rhan allweddol o鈥檙 modd y mae鈥檙 DU yn masnacholi technolegau datblygol drwy greu mas critigol cyfnod cynnar mewn maes o dechnoleg tarfol. Maen nhw鈥檔 gallu gwneud hyn drwy eu gallu ymchwil o ansawdd ryngwladol a mynediad at dechnolegau ategol sydd eu hangen er mwyn masnacholi ymchwil.
  • Sefydlwyd IKC SPECIFIC yn 2011 gydag ymrwymiadau grant 5 mlynedd gan EPSRC, Innovate UK a Llywodraeth Cymru, gydag ymrwymiad cam II yn Ebrill 2016. Cafwyd rhagor o fuddsoddiadau yn y ddau gam gan Brifysgol Abertawe, partneriaid diwydiannol strategol (BASF, NSG Pilkington a Tata Steel) gyda chymorth ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd. Mae IKC Specific wedi cynhyrchu mwy na 拢40 miliwn o gyllid ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu cyflenwol, megis S锚r Solar a鈥檙 Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu ym Mhrifysgol Abertawe. Mae鈥檙 ganolfan wedi datblygu cysylltiadau ymchwil 芒 nifer o brifysgolion eraill sy鈥檔 gweithio mewn meysydd ymchwil ategol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Hydref 2017