Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Cymru yn lleoliad delfrydol i fuddsoddi mewn gweithgynhyrchu

Alun Cairns i ymweld 芒 chwmn茂au De Cymru i danlinellu bod Cymru ar agor ar gyfer busnes

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
  • Smurfit Kappa yn cryfhau ei ymrwymiad i Gymru gyda buddsoddiad mewn safle yng Nghasnewydd gwerth sawl miliwn o bunnoedd
  • Bydd Ysgrifennydd Cymru yn tanlinellu鈥檙 berthynas fasnach gref rhwng y DU a Japan drwy ymweld ag Olympus Surgical Technologies

Cyn ymweld 芒 de Cymru heddiw (3 Mai), dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns fod y cyflogwyr byd-eang Smurfit Kappa ac Olympus yn arwain y ffordd o ran dangos pam mae Cymru yn lleoliad delfrydol i fuddsoddi ynddo ac i gynnal busnes.

Bydd Alun Cairns yn mynd i Gasnewydd i groesawu buddsoddiad y cwmni pecynnu byd-eang Smurfit Kappa, gwerth 拢2.8 miliwn, yn ei safle yn Abercarn. Bydd hefyd yn tanlinellu enw da Cymru fel lleoliad i gwmn茂au Japaneaidd fuddsoddi ynddo gydag ymweliad ag Olympus Surgical Technologies Europe.

Roedd y newyddion positif heddiw yn gadarnhad gan Smurfit Kappa eu bod wedi gwneud buddsoddiad o 拢2.8 miliwn i brynu鈥檙 safle a鈥檙 adeiladau yn Abercarn. Mae鈥檙 cyhoeddiad yn cael ei weld fel arwydd o ymrwymiad parhaus y cwmni i鈥檞 weithrediadau a鈥檌 staff yng Nghymru.

Mae Smurfit Kappa yn ddarparwyr byd-eang mewn deunyddiau pacio papur, gyda thua 45,000 o weithwyr mewn tua 370 o safleoedd cynhyrchu ar draws 35 o wledydd. Mae ganddynt bortffolio heb ei ail o atebion pecynnu papur, sy鈥檔 cael ei ddiweddaru鈥檔 gyson gyda datblygiadau arloesol yn y farchnad.

Gyda chynaliadwyedd yn ganolog i ethos y cwmni, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn clywed sut mae arloesedd dylunio鈥檙 cwmni yn helpu Llywodraeth y DU i wireddu ei gynllun amgylcheddol 25 mlynedd.

Wrth nodi鈥檙 cyhoeddiad yn ystod yr ymweliad 芒 safle Abercarn, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns:

Mae Smurfit Kappa yn un o lwyddiannau mawr y diwydiant gweithgynhyrchu yn ne Cymru. Mae eu hymrwymiad parhaus i鈥檞 gweithrediadau yng Nghymru yn arwydd clir o鈥檙 ffydd yn ein cenedl fel prif gyrchfan fuddsoddi.

Mae eu buddsoddiad yn eu gweithrediadau yn ne Cymru yn arwydd clir bod y cyfnod yma yn un cyffrous i Smurfit Kappa. Mae eu twf parhaus wedi bod yn sbardun cryf ar gyfer cryfder cyffredinol y sector preifat yma yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth y DU yn gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi鈥檙 sector wrth i ni anelu at sefydlu ein hunain fel canolfan ragoriaeth fyd-eang mewn gweithgynhyrchu ac arbenigwyr blaenllaw wrth ddatblygu atebion cynaliadwy sy鈥檔 gyfeillgar i鈥檙 amgylchedd.

Wrth s么n am gyhoeddiadau heddiw, dywedodd Clive Bowers, Prif Swyddog Gweithredol Smurfit Kappa UK:

Rydym yn falch o groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i gydnabod y buddsoddiad rydym wedi鈥檌 wneud yn ein safle yn Abercarn. Mae鈥檙 buddsoddiad hwn yn amlygu ein hymrwymiad i ddyfodol ein busnes yn Abercarn a鈥檔 cefnogaeth i economi Cymru.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn ymweld ag Olympus Surgical Technologies Europe - cwmni sy鈥檔 cynllunio, datblygu a chynhyrchu dyfeisiadau meddygol o鈥檌 gyfleuster yng Nghaerdydd sydd o safon fyd-eang.

Mae鈥檙 cwmni FTSE yn cyflogi 270 o bobl ar ei safle yn Llaneirwg. Fe鈥檌 sefydlwyd fel Gyrus yn 1989, a thyfodd y cwmni i fod yn enw FTSE llwyddiannus cyn iddo gael ei brynu gan y Japanese Olympus Corporation yn 2008.

Gydag enw da Cymru ar gynnydd, mae鈥檙 cwmni bellach yn chwarae rhan ganolog fel arweinydd byd o ran arbenigedd mewn gwyddorau bywyd.

Bydd Alun Cairns yn cael ei groesawu i Olympus gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, Simon Edwards.

Wrth edrych ymlaen at yr ymweliad, dywedodd Mr Edwards:

Mae ein cyfleuster yng Nghaerdydd yn chwarae rhan bwysig wrth i ni geisio am fwy o dwf cynaliadwy drwy wneud bywydau pobl yn iachach, yn fwy diogel ac yn fwy cyflawn.

Mae gwyddorau bywyd yn un o鈥檙 sectorau sy鈥檔 tyfu gyflymaf yng Nghymru. Mae ganddo drosiant o tua 拢2 biliwn ac mae鈥檔 cyflogi tua 11,000 o bobl mewn dros 350 o gwmn茂au.

Mae cryfderau鈥檙 DU mewn gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesedd hefyd yn ffocws pwysig i strategaeth ddiwydiannol y llywodraeth.

Ychwanegodd Alun Cairns:

Mae Smurfit Kappa ac Olympus yn fuddsoddwyr pwysig yng Nghymru.

Wrth i ni baratoi i adael yr UE, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo, drwy ein Strategaeth Ddiwydiannol, i sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn un o鈥檙 llefydd gorau yn y byd i gynnal busnes. Ein nod yw creu economi gref a bywiog yng Nghymru ac mae鈥檙 sectorau gweithgynhyrchu a gwyddorau bywyd yn ganolog i鈥檙 weledigaeth hon.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Mai 2018