Ysgrifennydd Cymru鈥檔 dymuno lwc dda i D卯m Cymru cyn Gemau鈥檙 Gymanwlad
200+ o athletwyr o Gymru yn anelu am lwyddiant ar yr Arfordir Aur

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn cefnogi T卯m Cymru i ennill medalau wrth i Gemau鈥檙 Gymanwlad ddechrau ar yr Arfordir Aur yfory (4 Ebrill).
Mae t卯m Cymru, sy鈥檔 cynnwys 214 o aelodau, wedi teithio i Awstralia lle y bydd yr athletwyr yn cystadlu mewn 15 o wahanol ddisgyblaethau. Mae鈥檙 sgwad yn cynnwys wyth o gystadleuwyr a fydd yn cymryd seibiant o鈥檜 gwaith ysgol i ymuno yn yr ymgyrch am fedalau draw yn Awstralia.
Wrth siarad cyn seremoni agoriadol y Gemau, dywedodd Alun Cairns:
Mae Cymru鈥檔 gallu cystadlu 芒鈥檙 goreuon ym myd chwaraeon, ac mae nifer yr athletwyr Cymreig sydd wedi teithio i鈥檙 Arfordir Aur eleni鈥檔 dangos y cryfder a鈥檙 angerdd sydd gennym dros gystadlu yn lliwiau T卯m Cymru.
Mae鈥檙 gemau yn gyfle unigryw i athletwyr gystadlu dan eu baner eu hunain ar lefel el卯t, gan gynrychioli ystod eang o chwaraeon o fowlio lawnt i godi pwysau.
Mae鈥檙 genedl yn cefnogi T卯m Cymru ac rwy鈥檔 dymuno鈥檙 lwc orau i鈥檙 holl sgwad wrth iddynt anelu at gyrraedd uchelfannau eu chwaraeon dros y dyddiau i ddod.
Mae T卯m Cymru yn anelu am Gemau鈥檙 Gymanwlad tramor mwyaf llwyddiannus erioed eleni, gydag athletwyr yn gobeithio mynd tu hwnt i鈥檙 25 medal a enillwyd ganddynt yn Auckland yn 1990.
Y 230 o athletwyr Cymreig a fu鈥檔 cystadlu yn y Gemau yn Glasgow bedair blynedd yn 么l oedd y rhai mwyaf llwyddiannus yn hanes Gemau鈥檙 Gymanwlad i Gymru, gan ennill cyfanswm o 36 o fedalau gan gynnwys pum medal aur.
Ymysg y rhai sy鈥檔 gobeithio am lwyddiant eleni mae鈥檙 athletwraig triathlon Non Stanford, sy鈥檔 arwain y t卯m wrth iddi gystadlu yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad am y tro cyntaf.
Bydd y nofwraig Jazz Carlin, sydd 芒 dwy fedal Olympaidd, yn cario baner Cymru yn y seremoni agoriadol ar 4 Ebrill, a bydd pencampwraig yr 800m dull rhydd yn amddiffyn ei choron wrth gystadlu yn y Gemau am y pedwerydd tro.
Bu Anna Hursey, 11 mlwydd oed, yn y penawdau鈥檔 ddiweddar, gan y tybir mai鈥檙 chwaraewraig tenis bwrdd o Gaerdydd yw鈥檙 unigolyn ieuengaf erioed i gynrychioli Cymru mewn unrhyw chwaraeon ar lefel oedolion, neu i gystadlu yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad dros D卯m Cymru.
Mae Gemau鈥檙 Gymanwlad eleni yn ffurfio rhan o ddathliadau ehangach y Gymanwlad ar draws y DU, wrth i Lundain baratoi i gynnal y mis hwn (16-20 Ebrill).
Mae Cymru hefyd wedi ailddatgan ei chysylltiadau cryf 芒鈥檙 Gymanwlad, drwy gynnal cyfres o Giniawau Mawr y Gymanwlad mewn partneriaeth gyda Phrosiect Eden fel rhan o鈥檙 dathliadau swyddogol yn y cyfnod cyn Cyfarfod Penaethiaid y Llywodraethau.
Ymunwyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns gan yr athletwr dygnwch Richard Parks a chynrychiolwyr o grwpiau ieuenctid, ffydd, diaspora a grwpiau chwaraeon yng Nghymru mewn Cinio Mawr fis diwethaf i ddathlu鈥檙 perthnasoedd byd-eang sy鈥檔 cael eu creu gan y Gymanwlad.