Hwb ariannol gwerth 拢300m i orsafoedd yng Nghymru i wella mynediad i bobl anabl
Bydd un ar ddeg o orsafoedd yng Nghymru yn elwa o gyfran o'r cyllid

- Bydd 73 o orsafoedd yn elwa ar gyfran o鈥檙 cyllid Mynediad i Bawb gwerth 拢300m, ac mae 11 o鈥檙 gorsafoedd yng Nghymru.
- Dyma鈥檙 cam diweddaraf tuag at sicrhau rhwydwaith trafnidiaeth cwbl gynhwysol i鈥檞 gwneud hi鈥檔 haws i bobl anabl ddefnyddio mwy ar y rhwydwaith rheilffyrdd.
- Nawr, mae 75% o bob taith ar y rheilffyrdd yn digwydd drwy orsafoedd heb stepiau.
Bydd pobl anabl sy鈥檔 teithio ar y rheilffyrdd yng Nghymru yn elwa ar fynediad gwell at orsafoedd o ganlyniad i fuddsoddiad gwerth 拢300m gan y llywodraeth.
Mae鈥檙 Gweinidog Trafnidiaeth, Nusrat Ghani, wedi cyhoeddi y bydd teithiau鈥檔 dod yn fwy hygyrch ledled Prydain dros y pum mlynedd nesaf wrth i waith diweddaru, gan gynnwys troedffyrdd a lifftiau, wneud pethau鈥檔 haws i bobl anabl deithio ar rwydwaith rheilffyrdd y Deyrnas Unedig.
Bydd sawl gorsaf arall hefyd yn cael gwelliannau ar raddfa lai, fel palmant botymog ar ymylon platfformau, neu gownteri tocynnau addasadwy, er mwyn galluogi teithwyr anabl i deithio鈥檔 hyderus.
Bydd y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud mewn 73 o orsafoedd, a byddant yn cael eu hariannu fel rhan o Strategaeth Cludiant Cynhwysol a gyhoeddwyd y llynedd gan yr Adran Drafnidiaeth. Bydd yr arian hefyd o fudd i unigolion sydd 芒 chyflyrau iechyd, pobl h欧n sydd 芒 namau, yn ogystal 芒 phobl sy鈥檔 teithio gyda phlant, bagiau trwm neu fagiau siopa.
Bydd y Gweinidog Hygyrchedd Trafnidiaeth, Nusrat Ghani, yn dweud heddiw:
Mae trafnidiaeth yn hollbwysig i gysylltu pobl gyda鈥檜 gwaith, eu ffrindiau a鈥檜 teuluoedd, ond hefyd er mwyn iddynt allu mwynhau ymweld 芒 safleoedd diwylliannol, hanesyddol a naturiol arbennig ledled y DU.
Rydym ni eisiau i鈥檙 13.9 miliwn o bobl anabl ym Mhrydain allu teithio鈥檔 annibynnol, ac felly rwy鈥檔 falch iawn o gyhoeddi鈥檙 gwelliannau hyn i鈥檙 rhwydwaith rheilffyrdd.
Yn ystod y bum mlynedd nesaf, bydd y gorsafoedd hygyrch hyn yn agor llwybrau ledled y wlad, a fydd yn ein helpu ni i gyrraedd ein nod o gael sector trafnidiaeth sy鈥檔 wirioneddol hygyrch.
Yn dilyn enwebiadau gan y diwydiant rheilffyrdd, dewiswyd gorsafoedd yn seiliedig ar amryw o feini prawf, gan gynnwys nifer y bobl sydd ag anableddau yn yr ardal, gwerth am arian, a ffactorau lleol fel pellter yr orsaf o ysbyty. Dewiswyd y gorsafoedd i sicrhau gwasgariad daearyddol teg ar draws y wlad.
Cafodd y rhaglen Mynediad i Bawb ei lansio yn 2006, a hyd yma mae wedi darparu mwy na 200 o lwybrau hygyrch i rai gorsafoedd.
Mae 1,500 gorsaf arall wedi cael gwelliannau o faint llai, megis toiledau hygyrch a thwmpathau ar y platfform er mwyn lleihau鈥檙 pellter camu wrth fynd ar y tr锚n i helpu unigolion sydd 芒 nam ar y golwg neu nam ar y clyw.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:
Mae鈥檔 rhaid i gludiant sy鈥檔 anhygyrch fod yn rhan o鈥檙 gorffennol. Dyna pam mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn 11 gorsaf yng Nghymru, i sicrhau bod llawer mwy o deithwyr yn teimlo eu bod yn gallu teithio i lefydd yn annibynnol.
Mae鈥檙 gwelliannau hyn yn unol 芒鈥檔 hymrwymiad i adeiladu rheilffordd sy鈥檔 fwy, ac sy鈥檔 well i Gymru, gan ddarparu teithiau gwell i bobl ar y trenau newydd, mwyaf datblygedig.
Mae hyn yn gam ymlaen tuag at y targed a nodir yn y Strategaeth Cludiant Cynhwysol i greu system drafnidiaeth sy鈥檔 rhoi mynediad cyfartal i bawb erbyn 2030, ac i wneud teithio鈥檔 haws i bobl anabl. Mae system drafnidiaeth sy鈥檔 wirioneddol gynhwysol 鈥� gan gynnwys dyluniad pob technoleg teithio yn y dyfodol 鈥� yn ganolog i nod y Llywodraeth o sicrhau bod y wlad yn gweithio er lles pawb, ac mae鈥檔 rhan hanfodol o Her Fawr Symudedd, a fydd yn rhoi鈥檙 DU ar flaen y gad o ran arloesedd trafnidiaeth.
Dywedodd Keith Richards, Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl:
Mae鈥檙 rhaglen Mynediad i Bawb eisoes wedi cyflawni gwelliannau sylweddol o ran rhoi mynediad i bobl anabl deithio ar y rheilffyrdd dros y 13 mlynedd ddiwethaf. Mae鈥檔 hanfodol parhau i adeiladu ar hynny.
Croesawir y cyhoeddiad hwn, ac mae鈥檔 rhaid iddo fynd law yn llaw 芒 gwybodaeth glir ac ymarferol, i sicrhau bod pobl anabl yn ymwybodol o ba welliannau sydd wedi cael eu gwneud, ac o ganlyniad, yn ymwybodol bod mwy o ddewisiadau teithio yn bosib iddynt bellach.
Rydym yn gweithio gyda鈥檙 Llywodraeth i gyflawni ymrwymiad i gyflymu gwelliannau, i dargedu鈥檙 cyllid yn effeithiol, ac i fonitro ac asesu canlyniadau.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
Dyma enghreifftiau blaenorol o waith diweddaru:
- Mae gorsaf Radur wedi cael tri lifft a phont droed newydd i helpu teithwyr i symud o gwmpas yn haws.
- Mae gwelliannau wedi鈥檜 gwneud i鈥檙 grisiau yng ngorsaf Castell-nedd ac i鈥檙 ardal giatiau tocynnau i鈥檞 gwneud yn fwy hygyrch.
Disgwylir i鈥檙 holl waith yn y gorsafoedd gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2024 fan bellaf.
Y gorsafoedd a fydd yn elwa o鈥檙 cyllid yng Nghymru fydd:
- Y Fenni
- Caerffili
- 颁飞尘产谤芒苍
- Y Fflint
- Shotton
- Dinbych-y-pysgod
- Y Barri (Tref)
- Cathays
- Llanelli
- Trefforest
- Tregatwg