Datganiad i'r wasg

Cyhoeddi Enillwyr Gwobr y Frenhines 2019 am Wasanaeth Gwirfoddol yng Nghymru

Mae tri sefydliad yng Nghymru wedi ennill Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol eleni

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Mae nifer y sefydliadau sy鈥檔 derbyn y wobr ledled y wlad wedi cynyddu unwaith eto eleni. Caiff ei rhoi i grwpiau gwirfoddol eithriadol ledled y DU sy鈥檔 cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill.

Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yw鈥檙 wobr uchaf a roddir i grwpiau gwirfoddol ledled y DU i gydnabod gwasanaeth rhagorol yn eu cymunedau.

Dyma鈥檙 enillwyr o Gymru eleni: * Cyfeillion Tref Pont-y-p诺l: Gwneud Pont-y-p诺l yn lle bywiog, diogel a deniadol i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, gan ddod 芒鈥檙 gymuned yn 么l at ei gilydd. * Amgueddfa鈥檙 M么r Porthmadog Maritime Museum: Gweithio i gadw ac arddangos treftadaeth adeiladu llongau a mordwyo鈥檙 ardal. * Rheilffordd Ysgafn y Trallwng a Llanfair: Gweithredu rheilffordd st锚m wyth milltir o hyd sy鈥檔 dangos sut roedd yn gwasanaethu ei chymuned wledig yng Nghanolbarth Cymru yn oes Edward.

Dywedodd Syr Martyn Lewis, Cadeirydd Pwyllgor Annibynnol Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol:

Mae鈥檙 nifer uchaf erioed o enwebiadau ar gyfer Gwobrau鈥檙 Frenhines eleni am Wasanaeth Gwirfoddol yn profi bod gwirfoddoli ar lawr gwlad yn parhau i ffynnu. Eleni, mae wedi bod yn bleser mawr cael llongyfarch 281 o enillwyr - pob un ag enw da am lwyddo i fynd i鈥檙 afael ag ystod eang o faterion a phroblemau yn eu cymunedau. > Maen nhw鈥檔 enghreifftiau pwerus o ddemocratiaeth go iawn. Rydyn ni鈥檔 gwybod bod miloedd mwy o sefydliadau lleol yn gwneud gwaith gwych, a byddwn yn annog y rheini ohonoch chi sydd wedi eu gweld ar waith neu wedi elwa o鈥檜 gweithgareddau i ystyried eu henwebu ar gyfer Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2020. Dyma鈥檙 wobr uchaf y gall ein gwlad ei rhoi i grwpiau o wirfoddolwyr.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae鈥檙 gwobrau hyn yn amlygu鈥檙 gwaith diflino y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud ledled y DU i wasanaethu eu cymunedau, ac mae enillwyr Cymru eleni yn allweddol i addysgu pobl ac i ddangos balchder mewn diogelu treftadaeth eu hardaloedd.

Llongyfarchiadau i鈥檙 enillwyr haeddiannol hyn am y r么l gadarnhaol maen nhw鈥檔 ei chwarae mewn tair cymuned ledled Cymru.

Dywedodd Mims Davies, y Gweinidog dros Gymdeithas Sifil a Chwaraeon:

Mae gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth anhygoel i fywydau cynifer o bobl a鈥檜 cymunedau. Mae鈥檙 gwobrau mawreddog hyn yn cydnabod y gwaith gwych mae llawer o sefydliadau gwirfoddol yn ei wneud ledled y wlad. Llongyfarchiadau mawr iawn i鈥檙 holl enillwyr haeddiannol am eu gwaith caled a鈥檜 hymroddiad parhaus.

Caiff enillwyr Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol eu cyhoeddi bob blwyddyn ar 2 Mehefin - pen-blwydd Coroni鈥檙 Frenhines.

Gall unrhyw gr诺p sy鈥檔 cael ei arwain gan wirfoddolwyr, sy鈥檔 cynnwys dau berson neu fwy ac sy鈥檔 cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill mewn modd eithriadol, gael ei enwebu am wobr. Rhaid i gr诺p fodloni鈥檙 gofynion cymhwyso cyn y gellir prosesu鈥檙 enwebiad drwy gamau asesu鈥檙 wobr. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.

Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn enwebiadau ar gyfer Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2020 yw 13 Medi 2019.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Mehefin 2019