San Steffan yn croesawu'r gymraeg yn yr Uwch Bwyllgor Cymreig
Bydd ASau yn cael y cyfle i siarad Cymraeg mewn dadleuon seneddol ym Mhalas San Steffan eleni am y tro cyntaf erioed.

Westminster and daffodils / San Steffan a cennin Pedr
Wrth ymateb i adroddiad Pwyllgor Gweithdrefnau T欧鈥檙 Cyffredin ar y mater, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y byddai鈥檔 cyflwyno cynnig yn y Llywodraeth a fydd yn galluogi ASau i siarad yn Gymraeg pan fydd yr Uwch Bwyllgor Cymreig yn cyfarfod yn San Steffan.
Yr unig adeg mae gan ASau hawl i siarad Cymraeg yng ngweithgareddau鈥檙 Senedd yn San Steffan yw pan fydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn casglu tystiolaeth.
Mae cynnal gweithgareddau鈥檙 Uwch Bwyllgor Cymreig yn ddwyieithog yn golygu y bydd modd defnyddio鈥檙 Gymraeg mewn dadleuon byr, wrth graffu ar ddeddfwriaeth ac wrth holi gweinidogion yn San Steffan am y tro cyntaf erioed.
Dywedodd Arweinydd T欧鈥檙 Cyffredin, David Lidington:
Mae ASau yn chwarae r么l hanfodol drwy sicrhau bod lleisiau eu hetholwyr yn cael eu clywed yn Nh欧鈥檙 Cyffredin.
Ledled Whitehall, mae gweinidogion Llywodraeth y DU yn gwrando ac yn ymateb, fel rydym ni鈥檔 ei wneud trwy hybu鈥檙 iaith Gymraeg yn Senedd a鈥檌 chyfraniad tuag at amrywiaeth ddiwylliannol yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Rydw i wrth fy modd y bydd ASau yn medru cyfrannu trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Uwch Bwyllgor Cymreig am y tro cyntaf yn San Steffan.
Mae鈥檔 hanfodol bwysig fod pobl Cymru yn gallu gwrando ar ddadleuon yn y ddwy iaith.
Rwy鈥檔 gobeithio y bydd yr ASau sy鈥檔 gallu siarad Cymraeg yn gwneud defnydd o鈥檙 gwasanaeth hwn er mwyn helpu i hybu鈥檙 Gymraeg yn y Senedd.
Bydd cost y gwasanaeth cyfieithu, gan gynnwys y cyfieithwyr a鈥檙 clustffonau, yn dod allan o gyllideb bresennol y Senedd, sy鈥檔 golygu na fydd y newidiadau hyn yn dod ar gost ychwanegol i鈥檙 trethdalwyr.