Moderneiddio Ystad y carchardai
Heddiw cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling y bydd carchar newydd ar gyfer 2,000 o garcharorion yn cael ei adeiladu ar hen safle Firestone yn Wrecsam, gogledd Cymru.

Photo courtesy of mikecogh on Flickr
Ar 么l sicrhau buddsoddiad o 拢250 miliwn, bydd y gwaith o adeiladu鈥檙 carchar mwyaf yng Nghymru a Lloegr yn dechrau haf nesaf, yn amodol ar ganiat芒d cynllunio. Hwn fydd y carchar cyntaf erioed yng ngogledd Cymru.
Bydd y carchar, a fydd yn weithredol erbyn diwedd 2017, yn hwb sylweddol i dwf yr economi leol, gan greu tua 1,000 o swyddi gwerthfawr, cyfleoedd ardderchog i fusnesau lleol a gwerth miliynau o bunnoedd mewn cyfleoedd adeiladu.
Meddai鈥檙 Gweinidog Carchardai Jeremy Wright:
Mae hyn yn hwb enfawr i economi Cymru ac yn ychwanegiad pwysig at yst芒d y carchardai. Bydd hefyd yn galluogi troseddwyr o鈥檙 ardal i gael eu cadw鈥檔 agosach at eu cartrefi, a gwyddom fod hynny鈥檔 help i atal aildroseddu.
Mae carchardai newydd yn cynnig gwell gwerth am arian ac maent yn fwy effeithlon. Ein blaenoriaeth yw darparu digon o lefydd mewn carchardai ar gyfer y sawl a anfonir yno gan y llysoedd 鈥� ac i wneud hynny mewn ffordd sy鈥檔 rhoi鈥檙 gwerth gorau posibl am arian i鈥檙 trethdalwyr.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:
Mae鈥檙 ddadl dros gael carchar yng ngogledd Cymru wedi bod yn un gref o鈥檙 cychwyn, a dyna pam yr wyf wrth fy modd bod Wrecsam wedi cael ei ddewis fel y safle a ffefrir ar gyfer yr ychwanegiad diweddaraf at yst芒d y carchardai.
Bydd adeiladu鈥檙 cyfleuster hwn y bu cymaint o alw amdano鈥檔 dod 芒 buddiannau sylweddol i fusnesau lleol, ac yn creu hyd at 1,000 o swyddi yn yr ardal. Bydd yn hwyluso鈥檙 gwaith o adsefydlu troseddwyr gan ei gwneud yn haws i鈥檞 teuluoedd, eu cynghorwyr cyfreithiol a鈥檙 gwasanaeth prawf i ymweld 芒 hwy, gan wneud y broses o鈥檌 hadsefydlu yn y gymuned yn haws. Bydd hefyd o fudd i les carcharorion gan roi mwy o gyfle i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio鈥檙 iaith mewn amgylchedd ble mae ei harwyddoc芒d diwylliannol yn cael ei werthfawrogi.
Daw鈥檙 cyhoeddiad hwn fel rhan o raglen ehangach i foderneiddio yst芒d y carchardai sy鈥檔 decach i鈥檙 trethdalwyr gweithgar, fel yr amlinellwyd heddiw gan yr Ysgrifennydd Cyfiawnder. Yn ogystal ag adeiladu carchar newydd yn Wrecsam, mae astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal i鈥檙 posibilrwydd o adeiladu ail garchar mawr ar safle presennol Feltham yng Ngorllewin Llundain.
Ers mis Ionawr, mae鈥檙 Llywodraeth wedi cael gwared ar 2,800 o leoedd anstrategol ac aneconomaidd ac mae鈥檔 awr mewn sefyllfa i gau pedwar carchar arall, gan gael gwared ar 1,400 o lefydd aneconomaidd o鈥檙 yst芒d.
Heddiw, cafwyd cyhoeddiad y bydd Carchardai EM Blundeston, Dorchester, Northallerton a Reading yn cau erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd swyddogaeth Carchardai EM Downview, The Verne a Warren Hill yn newid. Rhagwelir y bydd y newidiadau hyn yn arwain at arbedion pellach o 拢30m yng nghyfanswm cyllideb y carchardai.
Bydd gennym ddigon o leoedd mewn carchardai gydol yr amser ar gyfer y rhai a anfonir atom gan y llysoedd ond am lai o gost ac yn y mannau cywir er mwyn ein helpu i leihau cyfraddau aildroseddu.