Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn cefnogi defnyddwyr y llysoedd a thribiwnlysoedd sydd ag anableddau.
Beth yw addasiad rhesymol?
Addasiad rhesymol yw鈥檙 enw a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 am rywbeth a roddir mewn lle i ddileu rhwystrau fel bod pobl gydag anableddau yn cael mynediad cyfartal at ein gwybodaeth a鈥檔 gwasanaethau.
Mae 聽yn gwarchod hawliau pobl sy鈥檔 byw gydag anableddau. Mae hyn yn golygu bod gennym ddyletswydd gyfreithiol i roi cymorth a chefnogaeth lle bo modd. Mae Adran 20 y Ddeddf yn darparu gwybodaeth am addasiadau rhesymol.
Pa addasiadau rhesymol gallwn ni eu darparu?
Yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) rydym eisiau sicrhau bod gan holl ddefnyddwyr y llysoedd a鈥檙 tribiwnlysoedd fynediad cyfartal at ein gwybodaeth a鈥檔 gwasanaethau. Gwyddwn fod pobl gydag anabledd angen cymorth neu rywbeth gwahanol wedi鈥檌 ddarparu weithiau i鈥檞 helpu. Trwy wrando鈥檔 astud arnoch a thrafod unrhyw cymorth rydych ei angen mewn ffordd sensitif, gallwn ddarparu addasiadau rhesymol i鈥檆h cefnogi.
Dyma enghreifftiau o rai o鈥檙 addasiadau rhesymol y gallwn eu darparu:
- toiledau hygyrch
- egwyliau yn ystod gwrandawiad i helpu gyda chanolbwyntio
- dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- ffurflenni mewn print bras
- canllawiau mewn fformatau amgen gan gynnwys sain a fformat Hawdd i鈥檞 Ddarllen
- offer cymorth clyw
- rampiau
Nid yw hyn yn cynnwys popeth y gallwn ei wneud i helpu, oherwydd mae gan bawb anghenion unigol gwahanol.
Os ydych angen cefnogaeth yn yr ystafell wrandawiadau byddwn hefyd yn trafod hyn gyda鈥檙 barnwr sy鈥檔 gwrando鈥檙 achos. Mae barnwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu rhoi eu tystiolaeth orau a bod pawb yn cael gwrandawiad teg.
Sut i drefnu addasiad rhesymol
Os oes gennych anabledd sy鈥檔 golygu na allwch gael mynediad at ein gwybodaeth neu鈥檔 gwasanaethau, cysylltwch 芒 ni. Bydd ein manylion cyswllt wedi鈥檜 nodi ar unrhyw lythyrau a gewch gennym, neu gallwch ddefnyddio鈥檙 adnodd Dod o hyd i lys neu dribiwnlys. Gallwch wneud cais am addasiad rhesymol dros y ff么n, yn bersonol neu yn ysgrifenedig.
Dylech geisio esbonio sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch a rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallwch am y cymorth rydych ei angen. Bydd hyn yn helpu ein staff neu鈥檙 barnwr i ystyried pa addasiadau rhesymol y gellir eu darparu i鈥檆h helpu.
Mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais am unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnoch ar gyfer pob achos. Byddwn yn rhoi prosesau mewn lle, fel nad oes rhaid i chi ailadrodd eich anghenion yn yr un achos. Os oes gennych achos arall, efallai bydd rhaid i chi ofyn eto am unrhyw addasiadau rydych eu hangen oherwydd efallai byddant wedi newid.
Rhwydwaith Blodyn Haul Anableddau Cudd
Rydym wedi ymuno 芒 i helpu pobl sy鈥檔 ymweld 芒 llysoedd a thribiwnlysoedd a allai fod angen cefnogaeth ychwanegol.
Trwy wisgo鈥檙 cortyn blodyn haul, rydych yn dangos efallai bydd arnoch angen mwy o gymorth neu fwy o amser. Mae staff y llysoedd a鈥檙 tribiwnlysoedd yn gyfarwydd 芒鈥檙 cortyn blodyn haul a gallant ofyn i chi beth gallwn ni ei wneud i helpu.
Mae cortynnau blodyn haul ar gael yn ein hadeiladau i gyd.