Amdanom ni
Mae鈥檙 Gwasanaeth Prawf yn wasanaeth cyfiawnder troseddol statudol sy鈥檔 goruchwylio troseddwyr sydd ar ddedfrydau cymunedol neu鈥檔 cael eu rhyddhau i鈥檙 gymuned o鈥檙 carchar.
Cyfrifoldebau
Mae ein cyfrifoldebau hefyd yn golygu darparu cyngor i lysoedd ar ddedfrydu, darparu rhaglenni ad-dalu cymunedol ac ymddygiadol, a darparu gwybodaeth i ddioddefwyr troseddau difrifol.
Rydym yn gyfrifol am reoli dedfrydau yng Nghymru a Lloegr, ynghyd 芒 Rhaglenni Achrededig, Gwaith Di-d芒l, ac Ymyriadau Strwythuredig.
O ran Rheoli Dedfrydau mae ein ffocws ar gryfhau perthynas yr ymarferydd prawf 芒 phobl ar gyfnod prawf, gan ddefnyddio鈥檙 sgiliau allweddol, y gweithgareddau a鈥檙 ymddygiadau priodol i gyflawni鈥檙 canlyniadau mwyaf effeithiol ac i alluogi troseddwyr i wneud newidiadau cadarnhaol i鈥檞 bywydau. Bydd hyn yn cynnwys rheoli a chyflawni cynlluniau dedfrydu yn fwy cyson, asesu a rheoli risg yn well, yn ogystal 芒 llwythi achosion mwy cytbwys a gwell proses dyrannu achosion i gefnogi hyn.
O ran Gwaith Di-d芒l, Rhaglenni Achrededig ac Ymyriadau Strwythuredig, ein nod yw sicrhau bod lleoliadau a rhaglenni ar gael yn lleol, gyda phroses asesu a chynefino drylwyr, cynnal adolygiadau mwy rheolaidd o achosion gweithredol a sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer staff sy鈥檔 darparu ymyriadau.
Bydd ymyriadau eraill sy鈥檔 diwallu anghenion adsefydlu ac ailsefydlu yn cael eu darparu gan ddarparwyr Gwasanaethau Adsefydlu wedi鈥檜 Comisiynu, gydag achosion yn cael eu rheoli yn 么l y risg, yr angen a鈥檙 math o ddedfryd. Ym mis Mai 2021, cyhoeddodd y llywodraeth fuddsoddiad cychwynnol o 拢195 miliwn, a ddyfarnwyd i 26 o sefydliadau ar draws Cymru a Lloegr i ddarparu gwasanaethau cymorth hanfodol, fel cyngor ar waith a thai, ym meysydd Gwaith, Hyfforddiant ac Addysg, Llety a Lles Personol, a Gwasanaethau Menywod, a fydd yn helpu i leihau aildroseddu.
O ran ailsefydlu, rydyn ni wedi creu system cyn-rhyddhau well. Bydd swyddog cymunedol cyfrifol yn arwain yr holl weithgareddau cyn-rhyddhau, gan gynnal asesiad cynhwysfawr a datblygu cynllun dedfrydu sy鈥檔 cyd-fynd a鈥檙 anghenion, y risg a materion yn ymwneud 芒 dioddefwyr. Bydd hyn yn berthnasol i unigolion cyn eu rhyddhau yn ystod eu cyfnod terfynol yn y carchar, yn ystod y cyfnod pontio, ac ar 么l eu rhyddhau.
Mae ein staff prawf yn hanfodol i gyflawni鈥檙 model gwasanaethau prawf newydd. Rydyn ni鈥檔 parhau i fuddsoddi yn y sgiliau, y galluoedd a鈥檙 ffyrdd o weithio sydd eu hangen arnyn nhw i wneud eu gwaith i鈥檙 safon uchel a nodwyd yn ein , a gyhoeddwyd y llynedd. Rydym yn datblygu cofrestr broffesiynol, sy鈥檔 seiliedig ar safonau moesegol a safonau hyfforddi, i sicrhau bod ymarferwyr prawf yn cael yr hyfforddiant, y cymwysterau a鈥檙 gydnabyddiaeth y mae arnyn nhw eu hangen ac y maen nhw鈥檔 eu haeddu ar gyfer gyrfa hir ac effeithiol.
Pwy ydym ni
Ar 26 Mehefin 2021, unwyd y Gwasanaethau Prawf, gan ddod 芒 7,000 o weithwyr prawf proffesiynol i鈥檔 model newydd, naill ai鈥檔 uniongyrchol yn y Gwasanaethau Prawf neu鈥檔 cael eu cyflogi gan un o鈥檙 sefydliadau a benodwyd i ddarparu Gwasanaethau Adsefydlu wedi鈥檜 Comisiynu i droseddwyr. Erbyn hyn, mae gennym dros 28,000 o staff yn gyflogedig yn y Gwasanaethau Prawf yng Nghymru a Lloegr ac rydym yn parhau i recriwtio. Ym mis Mehefin 2021, fe wnaethom gyhoeddi bod聽1,000 o swyddogion prawf wedi鈥檜 recriwtio, gan gyrraedd targed y llywodraeth a osodwyd ym mis Gorffennaf 2020.
Rydym nawr yn gweithredu鈥檙 diwygiadau i鈥檔 gwasanaethau prawf sydd wedi鈥檜 nodi yn ein聽, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2021. Bydd y diwygiadau hyn yn darparu system brawf gryfach a mwy sefydlog a fydd yn lleihau aildroseddu, yn cefnogi dioddefwyr troseddau, ac yn cadw鈥檙 cyhoedd yn ddiogel, tra鈥檔 helpu troseddwyr i wneud newidiadau cadarnhaol i鈥檞 bywydau.
Ein blaenoriaethau
Ein blaenoriaeth yw amddiffyn y cyhoedd drwy adsefydlu troseddwyr yn effeithiol, drwy leihau鈥檙 pethau sy鈥檔 cyfrannu at droseddu a galluogi troseddwyr i weddnewid eu bywydau.
Ein Strwythur Rhanbarthol
Mae 12 rhanbarth prawf yng Nghymru a Lloegr, a phob un yn cael eu goruchwylio gan Gyfarwyddwr Prawf Rhanbarthol. Y Cyfarwyddwyr Prawf Rhanbarthol yw:
- Nic Davies i Gymru
- Andrea Bennett, Gogledd Orllewin Lloegr
- Chris Edwards, Manceinion Fwyaf
- Bronwen Elphick, Gogledd Ddwyrain Lloegr
- Kilvinder Vigurs, Swydd Efrog a Humber
- Jamie-Ann Edwards, Gorllewin Canolbarth Lloegr
- Martin Davies, Dwyrain Canolbarth Lloegr
- Alex Osler, Dwyrain Lloegr
- Mary Pilgrim, Llundain
- Angela Cossins, De Orllewin Lloegr
- Gabriel Amahwe, Canol De Lloegr
- Linda Neimantas, Caint, Surrey a Sussex