Cyfarwyddyd ymarfer 55: cyfeiriad ar gyfer gohebu
Diweddarwyd 15 Gorffennaf 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Mae Rheol 198 o Reolau Cofrestru Tir 2003 wedi cyflwyno newidiadau sylweddol i鈥檙 mathau o gyfeiriad ar gyfer gohebu y byddwn bellach yn eu derbyn i鈥檞 cofnodi yn y gofrestr. O dan ddeddfwriaeth flaenorol, roedd yn rhaid i gyfeiriad ar gyfer gohebu fod yn gyfeiriad post o fewn y Deyrnas Unedig (adran 79 o Ddeddf Cofrestru Tir 1925. Mae hyn wedi ei diddymu erbyn hyn). Mae 鈥榶 Deyrnas Unedig鈥� yn cynnwys Cymru (gan gynnwys Ynysoedd Sili), Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ond nid Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Eire (Deddf Ddehongli 1978, Adran 5 ac Atodlen 1).
2. Pobl sy鈥檔 gorfod darparu cyfeiriad ar gyfer gohebu
Rhaid i鈥檙 bobl ganlynol roi cyfeiriad ar gyfer gohebu i ni (rheol 198(1) a (2) o Reolau Cofrestru Tir 2003:
- perchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu arwystl cofrestredig
- buddiolwr cofrestredig rhybudd unochrog
- rhybuddiwr a enwyd mewn cofrestr rhybuddiad unigol
- rhywun y mae鈥檔 rhaid cynnwys eu henw a鈥檜 cyfeiriad mewn cyfyngiad safonol yn 么l Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003 neu y mae angen eu cydsyniad neu dystysgrif, neu y mae angen i鈥檙 cofrestrydd neu rywun arall gyflwyno rhybudd iddynt, o dan unrhyw gyfyngiad arall
- rhywun sydd 芒 hawl i dderbyn rhybudd am gais am feddiant gwrthgefn o dan reol 194 o Reolau Cofrestru Tir 2003
- rhywun sy鈥檔 gwrthwynebu cais dan adran 73 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
- rhywun sy鈥檔 rhoi rhybudd i鈥檙 cofrestrydd o dan baragraff 3(2) Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002
- unrhyw un, wrth ddelio 芒鈥檙 cofrestrydd mewn cysylltiad 芒 thir cofrestredig neu rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf, y bydd y cofrestrydd yn gofyn iddynt roi cyfeiriad ar gyfer gohebu
Os oes cyfeiriadau ar gyfer gohebu o ran unrhyw un o鈥檙 rhain wedi鈥檜 cofnodi yn y gofrestr, cofiwch sicrhau eu cadw鈥檔 gyfoes 鈥� gweler Newid cyfeiriad.
3. Mathau o gyfeiriad ar gyfer gohebu
Byddwn bob amser yn gofyn am o leiaf un cyfeiriad post i鈥檞 gofnodi yn y gofrestr, ond nid oes yn rhaid iddo fod o fewn y Deyrnas Unedig (rheol 198(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Yn ogystal 芒鈥檙 cyfeiriad post, os gofynnwch i ni, byddwn yn cofnodi鈥檙 canlynol yn y gofrestr:
- cyfeiriad DX yn y DU ar yr amod bod gan Gofrestrfa Tir EF drefniant gyda darparwr y gwasanaeth DX arbennig (rheol 198(4)(b) a (7) o Reolau Cofrestru Tir 2003)
- cyfeiriad electronig (ebost) (rheol 198(4)(c), (8) a (9) o Reolau Cofrestru Tir 2003)
Lle bo鈥檔 briodol, dylech ystyried cynghori鈥檆h cleientiaid i ddarparu鈥檙 cyfeiriad electronig eilaidd fel dull cyswllt ychwanegol.
Pan fyddwch yn darparu鈥檙 cyfeiriad ar gyfer gohebu, rhowch y canlynol:
- o ran cyfeiriadau post yn y DU, y cyfeiriad llawn gan gynnwys y cod post
- o ran cyfeiriadau tramor, y cyfeiriad llawn gan gynnwys enw鈥檙 wlad a chod ZIP neu ardal (neu gyfartal). Os yw鈥檙 cyfeiriad mewn llythrennau heblaw Rhufeinig, bydd angen cyfieithiad arnom i鈥檞 gofnodi yn y gofrestr
- o ran cyfeiriadau DX, rhif y blwch ac enw鈥檙 gyfnewidfa ar y ffurf DX 223344, Southampton 4
- o ran cyfeiriadau ebost, y cyfeiriad ar y ffurf: reg@netty.co.uk
Byddwn yn gorfod cysylltu 芒 chi os yw鈥檙 cyfeiriad ar gyfer gohebu a ddarperir yn anghyflawn ac nad yw鈥檔 cynnwys rhif post (neu enw) ar gyfer yr adeilad a chod post cyn y gellir cwblhau eich cais.
Cewch roi cyfeiriad 鈥榙an ofal鈥� i ni.
4. Nifer y cyfeiriadau ar gyfer gohebu
Byddwn yn cofnodi hyd at 3 chyfeiriad ar gyfer gohebu o ran pob unigolyn.
Mae hyn yn golygu y gallai pob unigolyn gael y canlynol:
- un, 2 neu 3 chyfeiriad post yn y DU neu dramor
- un cyfeiriad post yn y DU neu dramor ac un neu 2 gyfeiriad ebost
- un cyfeiriad post yn y DU neu dramor ac un neu 2 gyfeiriad DX
- un cyfeiriad post yn y DU neu dramor, cyfeiriad DX a chyfeiriad ebost
- 2 gyfeiriad post yn y DU neu dramor a chyfeiriad ebost
- 2 gyfeiriad post yn y DU neu dramor a chyfeiriad DX
5. Cofnodi鈥檙 cyfeiriad ar gyfer gohebu ar y gofrestr
Os byddwch yn defnyddio鈥檔 gwasanaethau cofrestru digidol, cewch eich annog i roi cyfeiriad unrhyw berchennog newydd yn ystod y broses gyflwyno.
Mae ein ffurflenni cais papur yn darparu paneli lle y gallwch gynnwys cyfeiriad neu gyfeiriadau yn y gofrestr (er enghraifft panel 9 yn AP1 neu banel 8 yn FR1).
Mewn rhai achosion, bydd gweithredoedd neu ddogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau yn cynnwys cyfeiriadau sy鈥檔 gwrthdaro 芒 chyfarwyddiadau a ddarperir yn y cais. Sylwer y byddwn yn ystyried y cyfeiriad a ddarperir yn ein gwasanaethau cofrestru digidol neu ar y ffurflen gais bapur yn drech na鈥檙 cyfeiriad a ddarperir mewn unrhyw ran arall o鈥檙 cais, ac ni fyddwn fel arfer yn cwestiynu 鈥嬧€媢nrhyw anghysondeb, hyd yn oed os bydd pwyntiau ymholiad eraill yn codi.
Os byddwch yn gwneud cais i gofnodi mwy nag un math o gyfeiriad yn y gofrestr, byddwn yn eu cofnodi yn y drefn ganlynol.
- cyfeiriad post
- cyfeiriad DX
- cyfeiriad ebost
Er enghraifft, yn achos y perchennog cofrestredig y cofnod fyddai:
KATHERINE ANNE DAWSON o 13 Market Square, Hitchin, Herts SG5 1PA ac o DX885522, Bolton ac o kat.dawson@online.com a BRIAN NIGEL MARKHAM o 5A Chimney Walk, Bolton BO9 8TX ac o 333 Hyde Street, San Francisco, California, Unol Daleithiau America, 94102.
Bydd Cofrestrfa Tir EF, lle bynnag y bo鈥檔 bosibl, yn cofnodi cyfeiriad ar gyfer gohebu sy鈥檔 cydymffurfio 芒 chyfeiriad Man Dosbarthu鈥檙 Post Brenhinol sy鈥檔 ffurfio sail i鈥檔 cronfa ddata o gyfeiriadau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod cyfeiriad post y DU a gofnodir yn y gofrestr mor gywir 芒 phosibl er mwyn galluogi bod unrhyw ohebiaeth yn cael ei dosbarthu鈥檔 gyflym a chywir. Mewn rhai achosion, mae鈥檔 bosibl y bydd hyn ar ffurf ychydig yn wahanol i鈥檙 hyn y gwneir cais amdano.
Lle nad yw鈥檙 manylion yn ein cronfa ddata o gyfeiriadau鈥檔 cyfateb 芒鈥檙 cyfeiriad ar gyfer gohebu y gwneir cais amdano yn eich cais, byddwn yn cofnodi鈥檙 cyfeiriad a nodwyd yn eich cais.
6. Newid cyfeiriad
Os oes angen i ni ysgrifennu, neu anfon rhybudd ffurfiol, at berchennog, arwystlai neu rywun arall sydd 芒 budd wedi ei nodi yn y gofrestr, byddwn yn ysgrifennu atynt yn y cyfeiriad(au) sydd ar eu cyfer yn y gofrestr. Mae鈥檔 bwysig bod y cyfeiriad yn gywir ac yn gyfoes. Cofiwch ddweud wrthym ar unwaith am unrhyw newid cyfeiriad.
Dywedwch wrth eich cleientiaid am bwysigrwydd cadw eu cyfeiriad yn gyfoes. Dywedwch wrthynt hefyd os ydynt yn gwneud cais i newid eu cyfeiriad yn annibynnol, y bydd yn rhaid iddynt ddarparu gwybodaeth benodol er mwyn inni wirio eu hunaniaeth. Dylid defnyddio ffurflen COG1 pan nad yw perchennog cofrestredig yn cael ei gynrychioli gan drawsgludwr ond yn gwneud cais annibynnol i newid y gofrestr.
Nid ydym yn gofyn am dystiolaeth o hunaniaeth ar gais i newid enw a gyflwynir gan drawsgludwr fel mater o drefn ond gallwn ofyn am hyn ar geisiadau penodol. Ym mhob achos rydym yn cadw鈥檙 hawl i gynnal gwiriadau hunaniaeth a threfnau gwirio ychwanegol o ran hunaniaeth.
Os na chawn wybod am newid cyfeiriad, gall olygu na fydd pwy bynnag y byddwn yn ysgrifennu atynt yn derbyn gohebiaeth bwysig oddi wrthym, a gallant fod ar eu colled o ganlyniad. Cofiwch fod yn rhaid i ni gael gwybod am newid cyfeiriad, hyd yn oed os yw cyngor lleol, Cofrestrfa鈥檙 Cwmn茂au neu gorff arall wedi cael eu hysbysu o鈥檙 newid.
Mae cyfeiriad ebost yn ddelfrydol fel cyfeiriad ar gyfer gohebu. Er hynny, bydd cyfeiriad ebost yn newid weithiau pan fo鈥檙 darparwr gwasanaeth yn newid.
Yn ogystal 芒 sefyllfaoedd lle bydd rhywun wedi newid cyfeiriad, fe all fod achlysuron lle bydd angen i chi ddweud wrthym am gyfeiriad ychwanegol (yn amodol ar yr uchafswm o 3 chyfeiriad) neu lle bydd angen i chi ddileu cyfeiriad (ar yr amod bod gennym gyfeiriad post bob amser) neu lle bydd angen i chi gywiro cyfeiriad a ddarparwyd i ni.
Gall cynrychiolydd personol rhybuddiwr a gofnodir mewn cofrestr teitl o ran rhybuddiad yn erbyn deliadau (adran 54 o Ddeddf Cofrestru Tir 1925) wneud cais i newid y cyfeiriadau neu ychwanegu atynt (yn amodol ar yr hyn a nodir uchod). Rhaid i chi gyflwyno naill ai:
- grant profiant neu lythyrau gweinyddu gwreiddiol y rhybuddiwr ymadawedig yn nodi鈥檙 ceisydd yn gynrychiolydd personol
- gorchymyn llys yn penodi鈥檙 ceisydd yn gynrychiolydd personol yr ymadawedig
- tystysgrif trawsgludwr bod y dystiolaeth ar gael (rheol 198(6A) o Reolau Cofrestru Tir 2003)
Rhaid ichi wneud cais i newid cyfeiriad trwy gynnwys trafodiad 鈥榥ewid cyfeiriad ar gyfer gohebu鈥� yn y cais a darparu鈥檙 holl gyfeiriadau gofynnol i鈥檞 cofnodi yn y gofrestr.
Mewn ceisiadau nad ydynt yn arwain at newid perchnogaeth, oni bai bod newid cyfeiriad ar gyfer trafodiad gwasanaeth wedi ei gynnwys, ni wneir unrhyw newid hyd yn oed pan wneir cais mewn llythyr eglurhaol neu pan ddatgelir anghysondeb 芒鈥檙 cyfeiriad sydd yn y gofrestr ar hyn o bryd yn eich cais (er enghraifft mewn arwystl newydd). Mewn achosion lle mae cyfeiriad ychwanegol i gael ei ddangos neu lle bydd un i gael ei dynnu oddi ar y gofrestr, bydd angen ichi wneud cais fel uchod am y newid, gan ddarparu鈥檙 holl gyfeiriadau i鈥檞 dangos ar gyfer y perchennog. Fel trawsgludwr, os nad ydych yn dangos naill ai eich bod yn gweithredu ar ran yr unigolyn y mae ei gyfeiriad wedi newid, bod gennych yr awdurdod i wneud hynny neu eich bod yn cyflwyno caniat芒d ysgrifenedig yr unigolyn hwnnw, mae鈥檔 bosibl y byddwn yn gwrthod eich cais.
Dylech gofio os yw cofnod yn dangos cyfeiriad ar gyfer gohebu wedi ei gario ymlaen o un teitl i鈥檙 llall ac wedi ei adael yn y gofrestr wreiddiol (fel y gall ddigwydd yn achos trosglwyddiad o ran), bydd angen dweud wrthym am yr holl rifau teitl y mae angen nodi鈥檙 newid cyfeiriad arnynt.
Nid oes dim i鈥檞 dalu i newid, ychwanegu neu dynnu cyfeiriad ymaith.
7. Cyfeiriadau blaenorol
Gallwn gyflwyno rhybudd i gyfeiriadau blaenorol yn ogystal ag unrhyw gyfeiriadau cyfredol ar gyfer gohebu os teimlwn fod hyn yn briodol.
8. Cyfeiriadau post tramor
Os ydych yn gwneud cais i gofnodi cyfeiriad tramor, cofiwch, os bydd angen i ni anfon rhybudd i鈥檙 cyfeiriad hwnnw, na fyddwn yn caniat谩u unrhyw amser ychwanegol i鈥檙 derbynnydd ddelio 芒鈥檙 rhybudd. Lle mai cyfeiriad tramor yw鈥檙 unig gyfeiriad ar gyfer gohebu yn y gofrestr (ac eithrio yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw), byddwn yn ysgrifennu atoch i ofyn ichi ystyried gwneud cais am ail gyfeiriad (oni bai bod y cyfeiriad eisoes wedi ei sefydlu trwy ohebiaeth flaenorol, er enghraifft, wrth wneud cais am gyfeirnod dogfennaeth morgais (MD) ar gyfer arwystl).
9. Pethau i鈥檞 cofio
-
Gallwch wneud cais am hyd at 3 chyfeiriad ar gyfer gohebu. Rhaid cynnwys o leiaf un cyfeiriad post yn y gofrestr bob amser ond sylwer y gall y cyfeiriad ar gyfer gohebu ychwanegol fod yn gyfeiriad ebost.
-
Pan nad oes newid perchnogaeth, rhaid ichi gynnwys trafodiad 鈥楴ewid cyfeiriad ar gyfer gohebu鈥� os ydych yn bwriadu newid y cyfeiriad, neu ni wneir unrhyw newid.
-
Byddwn yn diweddaru鈥檙 cyfeiriad ar gyfer gohebu dim ond pan fydd yn amlwg eich bod yn gweithredu ar ran y perchennog cofrestredig neu鈥檔 meddu ar awdurdod y perchennog cofrestredig. Pan na fyddwch yn gweithredu ar ran y perchennog cofrestredig, rhaid ichi ddangos bod gennych ei awdurdod i newid ei gyfeiriad ar gyfer gohebu, neu ni wneir unrhyw newid.
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.