Ffurflen

Statws Mewnforiwr Cymeradwy: amodau cymeradwyo

Diweddarwyd 30 Mai 2025

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Er mwyn mewnforio c诺n, cathod a ffuredau yn fasnachol i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a鈥檙 Alban) o Felarws, Gwlad Pwyl, Rwmania neu Wcr谩in, rhaid bod gennych statws Mewnforiwr Cymeradwy.

Ystyr mewnforion masnachol yw anifeiliaid anwes sy鈥檔 cael eu gwerthu neu y mae鈥檙 berchnogaeth ohonynt yn cael ei throsglwyddo. Mae hyn yn cynnwys anifeiliaid wedi鈥檜 hachub ac os ydych yn teithio gyda mwy na 5 ci, cath neu ffured os nad yw鈥檙 anifeiliaid hyn yn mynd i sesiwn hyfforddiant ar gyfer cystadleuaeth, sioe neu ddigwyddiad chwaraeon.

Gwnewch gais am statws Mewnforiwr Cymeradwy

Llenwch y ffurflen gais am statws Mewnforiwr Cymeradwy a鈥檌 hanfon at yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen.

Os bydd APHA yn cymeradwyo eich cais, bydd yn anfon e-bost atoch i gadarnhau.

Os bydd APHA yn gwrthod eich cais, bydd yn anfon e-bost atoch gyda鈥檙 rheswm. Gallwch gysylltu ag APHA i drafod sut i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Pan nad oes angen statws Mewnforiwr Cymeradwy arnoch

Nid oes angen i chi wneud cais am statws Mewnforiwr Cymeradwy os ydych yn gwneud y canlynol:

  • symud anifeiliaid anwes o Felarws, Gwlad Pwyl, Rwmania neu Wcr谩in am resymau anfasnachol.

  • mynd i sesiwn hyfforddiant ar gyfer cystadleuaeth, sioe neu ddigwyddiad chwaraeon

  • mewnforio c诺n, cathod a ffuredau yn fasnachol nad oeddent yn tarddu o Felarws, Gwlad Pwyl, Rwmania nac Wcr谩in neu nad ydynt wedi cael eu hanfon o鈥檙 gwledydd hynny.

Yr amodau y mae鈥檔 rhaid i chi eu bodloni i wneud cais i fod yn fewnforiwr cymeradwy

Er mwyn bod yn fewnforiwr cymeradwy, rhaid i chi fod yn un o鈥檙 canlynol:

  • mewnforiwr

  • cludwr

  • sefydliad

  • asiant

Ble mae eich sefydliad wedi鈥檌 sefydlu

Rhaid i chi naill ai:

  • fod wedi鈥檆h sefydlu yn y DU a rhoi manylion y sefydliad neu鈥檙 busnes yn y DU rydych yn ei gynrychioli

  • fod wedi鈥檆h cynrychioli yn y DU a rhoi datganiad wedi鈥檌 lofnodi gan y sefydliad neu鈥檙 busnes sy鈥檔 gyfrifol am eich cynrychioli, yn cadarnhau ei fod yn cytuno i fod yn atebol am yr holl fewnforion i Brydain Fawr gan eich sefydliad

Pan fydd person neu fusnes yn eich cynrychioli, bydd angen i chi ddarparu鈥檙 canlynol i APHA:

  • enw鈥檙 person neu鈥檙 busnes

  • cyfeiriad llawn ym Mhrydain Fawr

  • manylion cyswllt llawn

Gall y canlynol eich cynrychioli yn y DU:

  • asiant

  • cludwr

  • busnes

  • unigolyn

Rhestr o safleoedd cofrestredig neu gymeradwy

Mae鈥檔 rhaid i chi ddarparu鈥檙 canlynol:

  • rhestr gyflawn o鈥檙 holl safleoedd cofrestredig neu gymeradwy y bydd yr anifeiliaid rydych yn eu mewnforio i Brydain Fawr yn cael eu mewnforio ohonynt (nodwch unrhyw safleoedd rydych chi am eu defnyddio yn y dyfodol)

  • prawf bod safle wedi鈥檌 gofrestru neu wedi鈥檌 gymeradwyo a roddir gan awdurdod cymwys y wlad wreiddiol neu anfon, a roddwyd o fewn 6 mis cyn gwneud cais

Bydd APHA ond yn derbyn dogfennau gwreiddiol gyda llofnod swyddogol a stamp yr awdurdod cymwys sy鈥檔 eu rhoi. Gallech ddefnyddio:

  • y ddogfen gofrestru wreiddiol a roddwyd gan yr awdurdod cymwys yn ystod y 6 mis diwethaf

  • llythyr gan yr awdurdod cymwys a roddwyd yn ystod y 6 mis diwethaf gan gadarnhau bod y cofrestriad yn gyfredol

Rhaid i ddogfennau fod yn Saesneg neu raid cyflwyno cyfieithiadau ardystiedig i鈥檙 Saesneg ar y cyd 芒 nhw. Gwybodaeth am y rheolau ar gyfer ardystio cyfieithiad (yn Saesneg).

Cludwyr

Rhaid i chi ddarparu rhestr o鈥檙 cludwyr rydych yn eu defnyddio, gan gynnwys eu rhif awdurdodi fel cludwr.

Diffyg cydymffurfio

Rhaid i ymgeiswyr a鈥檜 cynrychiolwyr fod wedi mynd 12 mis heb unrhyw achosion difrifol o ddiffyg cydymffurfio 芒 rheolau iechyd anifeiliaid a mewnforio cymwys. Mae hyn yn cynnwys y rheolau yngl欧n 芒聽 symud c诺n, cathod neu ffuredau yn fasnachol neu鈥檔 anfasnachol i Brydain Fawr.

Mae achosion difrifol o ddiffyg cydymffurfio yn cynnwys achosion mawr o dorri鈥檙 gofynion cyfreithiol i fewnforio anifeiliaid anwes yn fasnachol neu鈥檔 anfasnachol, er enghraifft pan fydd y ddogfennaeth sy鈥檔 cyd-fynd ag anifail yn dwyllodrus neu pan ganfyddir nad yw anifail wedi cael brechiad dilys am ei fod o dan oedran.

Amodau y mae鈥檔 rhaid i chi eu bodloni i fewnforio c诺n, cathod a ffuredau

Dim ond os ydynt yn bodloni鈥檙 amodau yn yr adran hon y caiff mewnforwyr cymeradwy fewnforio c诺n, cathod neu ffuredau.

Awdurdodi

Rhaid eich bod wedi cael statws Mewnforiwr Cymeradwy gan APHA sy鈥檔 cadarnhau bod gennych awdurdod i fewnforio c诺n, cathod a ffuredau.

Hysbysu gan ddefnyddio IPAFFS

Rhaid i chi roi gwybod am bob llwyth ar y system Mewnforio cynhyrchion, anifeiliaid, bwyd a bwyd anifeiliaid (IPAFFS) (yn Saesneg) o leiaf 7 diwrnod gwaith cyn iddynt gyrraedd. Mae鈥檔 rhaid i chi ychwanegu:

  • enw鈥檙 mewnforiwr cymeradwy

  • tarddle鈥檙 anifeiliaid

  • enw鈥檙 cludwr

  • pen taith yr anifeiliaid

  • y llwybr arfaethedig

  • y cludydd

  • dogfen mynediad iechyd cyffredin (CHED) ar gyfer unrhyw symudiad o鈥檙 UE a ddechreuodd mewn gwlad nad yw鈥檔 destun trefniadau mewnforio trosiannol arbennig (gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Ynysoedd Ffaro, Yr Ynys Las a鈥檙 Swistir)

Rhaid i chi lanlwytho鈥檙 canlynol o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn iddynt gyrraedd:

  • tystysgrifau iechyd allforion

  • canlyniadau profion gwaed i gyd-fynd 芒鈥檙 dystysgrif ar gyfer anifeiliaid o Wcr谩in neu anifeiliaid sy鈥檔 teithio drwy Wlad Pwyl, Rwmania neu Felarws o wlad sydd heb ei rhestru

Edrychwch ar y gwledydd sydd wedi鈥檜 rhestru (yn Saesneg).

Pan fyddwch yn hysbysu ymlaen llaw ar IPAFFS, rhaid i鈥檙 enw gyfateb i鈥檙 enw a ddarparwyd yn eich ffurflen gais neu ni fydd y mewnforion yn cael eu caniat谩u.

Rhaid i chi aros i gael e-bost gan APHA yn cadarnhau ei fod wedi cymeradwyo鈥檙 mewnforion cyn mewnforio.聽

Teithio ar y ffordd

Rhaid i g诺n, cathod neu ffuredau sy鈥檔 cael eu mewnforio鈥檔 fasnachol, sy鈥檔 tarddu o Felarws neu Wcr谩in ac sy鈥檔 teithio ar y ffordd, ddod i mewn i鈥檙 UE drwy Safle Rheolaethau鈥檙 Ffin. Bydd Safle Rheolaethau鈥檙 Ffin yn archwilio鈥檙 anifeiliaid cyn iddynt ddod i mewn i Brydain Fawr drwy derfynellau Dofr neu Folkestone.

Rhaid i anifeiliaid a anfonwyd o Wlad Pwyl neu Rwmania, neu鈥檙 rhai a anfonwyd o Wcr谩in neu Felarws ac sy鈥檔 teithio drwy鈥檙 UE, gyrraedd Dofr neu Folkestone ar ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm Amser Safonol Greenwich (GMT) yn unig.

Teithio yn yr awyr

Rhaid i anifeiliaid sy鈥檔 teithio yn yr awyr ddod i mewn i Brydain Fawr mewn Safle Rheolaethau鈥檙 Ffin sydd wedi鈥檌 ddynodi i dderbyn yr anifeiliaid hynny (Caeredin, Gatwick Llundain neu Heathrow Llundain).

Cludo anifeiliaid

Rhaid i chi gadw copi o鈥檙 e-bost yn cadarnhau statws Mewnforiwr Cymeradwy er mwyn i鈥檙 awdurdod cymwys ei harchwilio.

Newid eich manylion statws Mewnforiwr Cymeradwy

Rhaid i chi gysylltu ag APHA ar unwaith os bydd unrhyw ran o鈥檙 wybodaeth a ddarparwyd gennych ar y ffurflen gais yn newid. Ni allwch fewnforio c诺n, cathod na ffuredau o Felarws, Gwlad Pwyl, Rwmania nac Wcr谩in hyd nes bod APHA yn adolygu鈥檙 newidiadau ac yn diwygio neu鈥檔 ailddyroddi鈥檙 gymeradwyaeth.

Ffi ar gyfer statws Mewnforiwr Cymeradwy

Ni chodir t芒l am wneud cais am statws Mewnforiwr Cymeradwy.

Cymeradwyaeth wedi鈥檌 dirymu

Os ceir eich bod wedi cyflawni achos mawr o ddiffyg cydymffurfio (neu f芒n achosion o ddiffyg cydymffurfio mynych), gall APHA ddirymu eich cymeradwyaeth. Bydd hyn yn golygu na chewch ganiat芒d mwyach i fewnforio anifeiliaid anwes masnachol o Felarws, Gwlad Pwyl, Rwmania nac Wcr谩in. Dylech gysylltu ag APHA i gael rhagor o wybodaeth am y penderfyniad ac i drafod ap锚l.

Cael cymorth

I gael gwybodaeth am wneud cais am statws Mewnforiwr Cymeradwy neu unrhyw gwestiynau am y cynllun, cysylltwch 芒: [email protected]