Gwiriadau cydymffurfio: hysbysiadau diogelu ynghylch y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol 鈥� CC/FS36a
Diweddarwyd 31 Mai 2022
Mae鈥檙 daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am hysbysiadau diogelu ynghylch y GAAR a roddir o dan y rheol gwrth-gamddefnydd gyffredinol (GAAR). I gael rhagor o wybodaeth am y GAAR, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS34a 鈥楪wybodaeth am y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol鈥�.
Pan fo鈥檙 daflen wybodaeth hon yn cyfeirio at 鈥榙reth鈥�, mae hyn yn golygu鈥檙 trethi, yr ardollau a鈥檙 cyfraniadau y mae鈥檙 GAAR yn berthnasol iddynt. Mae鈥檙 manylion hyn ar gael yn nhaflen wybodaeth CC/FS34a.
Mae鈥檙 daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd 鈥楪wiriadau cydymffurfio鈥�.
Os oes angen help arnoch
Os yw鈥檔 bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu鈥檆h iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio 芒 ni, rhowch wybod i鈥檙 swyddog sydd wedi cysylltu 芒 chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio 芒 ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad 芒 chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad 芒 chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai鈥檔 well gennych.
Yngl欧n 芒 hysbysiadau diogelu ynghylch y GAAR
Os ystyriwn y gallai mantais dreth fod wedi codi i chi drwy drefniadau treth sy鈥檔 gamfanteisiol, mae鈥檔 bosibl y byddwn yn rhoi hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR i chi. Efallai y byddwn yn gwneud hyn os ystyriwn y dylai unrhyw fantais dreth sy鈥檔 codi gael ei gwrthweithio o dan y GAAR.
Os rhoddwn hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR i chi, byddwn yn dileu鈥檙 fantais dreth (neu鈥檔 ei 鈥榞wrthweithio鈥�) drwy wneud yr addasiadau a ddangosir yn yr hysbysiad hwnnw. Er enghraifft, drwy wneud asesiad neu drwy ddiwygio鈥檆h Ffurflen Dreth.
Bydd yr hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR yn dweud wrthych:
- at ba drefniadau treth a manteision treth y mae鈥檔 cyfeirio
- am bob un, neu rywfaint, o鈥檙 addasiadau y credwn y gallai fod eu hangen er mwyn gwrthweithio鈥檙 fantais dreth
- na allwch apelio yn erbyn yr hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR
- unwaith y byddwn wedi gwneud yr addasiadau, y byddwch yn gallu apelio yn eu herbyn os ydych yn anghytuno
- os na fyddwch yn apelio, y bydd yn rhaid i chi dalu鈥檙 dreth ddyledus ychwanegol sy鈥檔 deillio o鈥檙 ffaith ein bod yn gwrthweithio鈥檙 fantais dreth a ddangosir yn yr hysbysiad
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran 鈥楢peliadau yn erbyn gwrthweithio鈥檙 fantais dreth鈥�.
Mae hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR yn ein galluogi i wneud yr addasiadau cyn i holl weithdrefnau鈥檙 GAAR gael eu cwblhau.
Ni fyddwn yn anfon hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR atoch os ydym wedi rhoi un o鈥檙 hysbysiadau canlynol i chi ar neu ar 么l 22 Gorffennaf 2020:
- hysbysiad o wrthweithio arfaethedig (o dan baragraff 3 o Atodlen 43)
- hysbysiad cyfuno (o dan baragraff 1 o Atodlen 43A)
- hysbysiad rhwymo (o dan baragraff 2 o Atodlen 43A)
Os ydym wedi rhoi un o鈥檙 hysbysiadau hyn i chi ar neu ar 么l 22 Gorffennaf 2020, byddwn wedi rhoi gwybod i chi y bydd hyn yn ein galluogi i wneud addasiadau cyn i鈥檙 weithdrefn GAAR gael ei chwblhau.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am sut rydym yn gwneud yr addasiadau o dan yr adran 鈥楪wneud yr addasiadau鈥�.
Yr hyn i鈥檞 wneud pan fyddwch yn cael hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR
Pan gewch hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR, does dim rhaid chi wneud dim byd penodol amdano. Fodd bynnag, efallai y byddwch am drafod yr hysbysiad 芒鈥檆h ymgynghorydd treth, os oes un gennych.
Mae鈥檔 bosibl y byddwch hefyd am ystyried setlo鈥檆h materion treth. Os ydych am setlo, rhowch wybod i ni cyn gynted 芒 phosibl er mwyn i ni allu rhoi gwybod i chi beth i鈥檞 wneud nesaf. Os nad ydych am setlo鈥檆h materion treth, byddwn yn parhau ag unrhyw gamau y gallwn eu cymryd 鈥� gan gynnwys unrhyw gamau o dan y GAAR.
Gwneud yr addasiadau
Byddwn fel arfer yn gwneud yr addasiadau yn weddol fuan ar 么l i ni roi hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR i chi. Mae鈥檔 bosibl y byddwn yn gwneud hyn, er enghraifft, drwy wneud asesiad neu drwy ddiwygio鈥檆h Ffurflen Dreth, neu drwy ddiwygio neu wrthod hawliad.
Apeliadau yn erbyn gwrthweithio鈥檙 fantais dreth
Ni allwch apelio yn erbyn hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR. Fodd bynnag, os gwnawn yr addasiadau a ddangosir yn yr hysbysiad, byddwch yn gallu apelio yn erbyn yr addasiadau os byddwch yn anghytuno 芒 nhw. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am eich hawl i apelio pan wnawn yr addasiadau.
Os:
- na fyddwch yn gwneud ap锚l
- byddwch yn apelio ac wedyn yn tynnu鈥檆h ap锚l yn 么l
- caiff eich ap锚l ei setlo drwy gytundeb
ac na roddwn hysbysiad o benderfyniad terfynol i chi, yna bydd yr hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR yn cael ei drin (at bob diben ar wah芒n i gosbau) fel pe bai鈥檔 hysbysiad o benderfyniad terfynol. Mae鈥檙 ddeddfwriaeth GAAR yn cyfeirio at hysbysiad o benderfyniad terfynol fel hysbysiad gwrthweithio GAAR terfynol. Mae rhagor o wybodaeth isod am yr hyn a olygwn gan hysbysiad gwrthweithio GAAR terfynol.
Os na fyddwch yn gwneud ap锚l, bydd yn rhaid i chi dalu鈥檙 dreth ychwanegol sy鈥檔 codi o鈥檙 addasiadau a wnaed gennym.
Os byddwch yn apelio yn erbyn yr addasiadau a wnaed gennym, ni all eich ap锚l fynd yn ei blaen tan y cynharaf o鈥檙 2 ddyddiad canlynol:
- y dyddiad y rhoddwn hysbysiad gwrthweithio GAAR terfynol i chi ar gyfer yr addasiadau
- 12 mis ar 么l y dyddiad y gwnaethom roi鈥檙 hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR i chi
Mae hysbysiad gwrthweithio GAAR terfynol yn un o鈥檙 canlynol:
- hysbysiad o benderfyniad terfynol ar 么l ystyried barn Panel Cynghori鈥檙 GAAR (o dan baragraff 12 o Atodlen 43 i Ddeddf Cyllid 2013)
- hysbysiad trefniadau cyfuno o benderfyniad terfynol (o dan baragraff 8(2) o Atodlen 43A i Ddeddf Cyllid 2013)
- hysbysiad cyfeiriad generig o benderfyniad terfynol (o dan baragraff 8 o Atodlen 43B i Ddeddf Cyllid 2013)
- hysbysiad cytundebau rhwym o benderfyniad terfynol (o dan baragraff 9(2) o Atodlen 43A i Ddeddf Cyllid 2013)
Bydd pob un o鈥檙 hysbysiadau hyn yn rhoi gwybod i chi a fydd y fantais dreth sy鈥檔 deillio o鈥檆h trefniadau treth yn cael ei gwrthweithio o dan y GAAR.
Gallwch dynnu鈥檆h ap锚l yn 么l neu ei setlo drwy gytundeb os byddwch yn newid eich meddwl ac yn penderfynu eich bod am setlo鈥檆h materion treth.
Cosbau o dan y GAAR
Gallwn godi cosbau ar gyfer trefniadau a wnaed ar neu ar 么l 15 Medi 2016. Gallwn godi cosb GAAR o 60% o werth y fantais a wrthweithiwyd. Dim ond os ydym wedi rhoi hysbysiad o benderfyniad terfynol, ac os caiff y fantais dreth ei gwrthweithio o dan y GAAR, y gallwn godi cosb GAAR. Ni allwn godi cosb os caiff y fantais dreth ei gwrthweithio mewn unrhyw ffordd arall.