Canllawiau

Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau (CC/FS9)

Diweddarwyd 23 Mai 2025

Mae鈥檙 daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch eich hawl o dan Erthygl 6 o鈥檙 Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Cafodd hwn ei gynnwys yng nghyfraith Prydain drwy鈥檙 Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae鈥檔 rhoi hawliau penodol i chi pan fyddwn yn ystyried a ddylid codi mathau penodol o gosbau.

Byddwn yn gofyn i chi ddarllen y daflen wybodaeth hon os byddwn o鈥檙 farn bod yr hawliau hyn yn berthnasol i chi ac os bydd angen eich help arnom i benderfynu a oes angen codi cosb arnoch.

Mae鈥檙 daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd 鈥楪wiriadau cydymffurfio鈥�.

Os oes angen help arnoch

Os yw鈥檔 bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu鈥檆h iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio 芒 ni, rhowch wybod i鈥檙 swyddog sydd wedi cysylltu 芒 chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i 188体育 a chwilio am 鈥榞et help鈥�.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio 芒 ni ar eich rhan. Er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o鈥檆h teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod angen i ni siarad 芒 chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad 芒 chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai鈥檔 well gennych.

Yr hyn y mae鈥檆h hawliau o dan Erthygl 6 yn eu golygu i chi pan fyddwn yn ystyried cosbau

Byddwn yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad gyda鈥檔 gwiriad cydymffurfio ac wrth gyfrifo鈥檙 swm o dreth sy鈥檔 ddyledus gennych. Bydd hyn yn cynnwys p鈥檜n a fyddwn yn codi cosbau ai peidio. Eich dewis chi yn gyfan gwbl yw faint o wybodaeth a help yr ydych yn ei roi i ni.

Pan fyddwn yn ystyried codi cosbau, mae gennych yr hawl o dan Erthygl 6 i beidio ag ateb ein cwestiynau. Weithiau, cyfeirir at hyn fel yr hawl i beidio 芒 hunanargyhuddo, neu鈥檙 hawl i aros yn ddistaw. Nid yw鈥檙 hawl hon yn ymwneud 芒 gwybodaeth na dogfennau sydd eisoes yn bodoli. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi roi鈥檙 wybodaeth neu鈥檙 dogfennau sydd eisoes yn bodoli i ni, os oes gennym hawl gyfreithiol i ofyn amdanynt.

Wrth benderfynu i ba raddau y byddwch yn cydweithredu 芒 ni, mae gennych yr hawl i gael help gan ymgynghorydd proffesiynol. Os nad oes ymgynghorydd gennych eisoes, efallai y byddwch am ystyried cysylltu ag un.

Mae gennych yr hawl i ddisgwyl i ni ddelio ag unrhyw fater sy鈥檔 ymwneud 芒 chosbau heb oedi afresymol. Byddwn fel arfer yn rhoi gwybod i chi a oes cosbau鈥檔 ddyledus unwaith y byddwn wedi cytuno ar y sefyllfa dreth 芒 chi. Os na allwn gytuno ar y sefyllfa dreth, byddwn yn anfon diwygiad neu asesiad o鈥檙 dreth ychwanegol y credwn ei bod yn ddyledus.
Os ydym o鈥檙 farn bod cosb yn ddyledus hefyd, byddwn yn anfon asesiad o鈥檙 gosb atoch. Bydd yr asesiad yn seiliedig ar y dreth ychwanegol.

Os byddwn yn codi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i ofyn am adolygiad neu i apelio. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i gael eich adolygiad, neu eich ap锚l yn erbyn y penderfyniadau yngl欧n 芒鈥檙 dreth 芒鈥檙 cosbau, wedi鈥檜 hystyried gyda鈥檌 gilydd.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i apelio a chael adolygiad, ewch i 188体育 a chwilio am 鈥楬MRC1鈥� neu 鈥榙isagree with a tax decision鈥�, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg sydd ar y dudalen benodol. Gallwch ofyn am gopi drwy ffonio 0300 200 1900. Mae rhagor o wybodaeth am dribiwnlysoedd ar wefan y tribiwnlysoedd. Ewch i 188体育 a chwilio am 鈥榗ourts and tribunals鈥�

Mae gennych yr hawl i wneud cais am gymorth cyfreithiol (legal aid) neu gynhorthwy cyfreithiol a ariennir yn gyhoeddus. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd arian ar gael i鈥檆h helpu i ddod 芒 rhai apeliadau gerbron y tribiwnlys. Os ydych yn mynd i apelio yn erbyn asesiad o gosb, efallai y byddwch am wirio a yw鈥檆h achos yn gymwys a鈥檙 math o help a allai fod ar gael. Nid oes gennym unrhyw ran i鈥檞 chwarae wrth benderfynu a fydd eich achos yn gymwys.

Os oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall am yr hawliau hyn, neu鈥檙 hyn y maent yn ei olygu i chi, rhowch wybod ar unwaith i鈥檙 swyddog sy鈥檔 delio 芒鈥檙 gwiriad cydymffurfio.

Cynhorthwy cyfreithiol a ariennir

Mae rhagor o fanylion am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir neu gymorth cyfreithiol ar gael fel a ganlyn:

  • yng Nghymru a Lloegr, drwy fynd i鈥檙 wefan Cyngor Cyfreithiol Sifil yn www.gov.uk/civil-legal-advice neu drwy ffonio 0345 345 4345
  • yn yr Alban, drwy fynd i wefan Bwrdd Cymorth Cyfreithiol yr Alban yn www.slab.org.uk neu drwy ffonio 0131 226 7061
  • yng Ngogledd Iwerddon, drwy gysylltu 芒 chyfreithiwr sy鈥檔 aelod o Gymdeithas Cyfreithwyr Gogledd Iwerddon. Ewch i www.lawsoc-ni.org

Gallwch hefyd gael rhagor o fanylion gan Gyngor ar Bopeth neu gallwch wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir neu gymorth cyfreithiol drwy gyfreithiwr unrhyw le yn y DU.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi鈥檙 safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu鈥檔 cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i 188体育 a chwilio am 鈥楬MRC Privacy Notice鈥�, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.