Canllawiau

Symud i gam 4 y map trywydd

Diweddarwyd 27 Awst 2021

Yn berthnasol i Loegr

Ym mis Chwefror, sefydlodd y Llywodraeth ei map trywydd, cynllun cam wrth gam i lacio鈥檙 cyfyngiadau yn ofalus yn Lloegr.[footnote 1] Ers mis Chwefror, mae鈥檙 map trywydd wedi arwain sut ydym wedi llacio cyfyngiadau yn seiliedig ar ddata, yn hytrach na dyddiadau. Mae鈥檙 ddogfen hon yn nodi鈥檙 trefniadau a fydd yn cael eu rhoi ar waith yn Lloegr. Mae鈥檙 Gweinyddiaethau Datganoledig yn sefydlu cynlluniau ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae鈥檙 Llywodraeth wedi penderfynu symud i gam 4 y map trywydd ar 19 Gorffennaf, cam newydd o ofal parhaus wrth i ni reoli risgiau COVID-19. Mae hyn yn dilyn oedi o bedair wythnos, a gafodd ei gyhoeddi ar 14 Mehefin, sydd wedi caniat谩u i 7 miliwn o ddosau ychwanegol gael eu dosrannu ers 10 Gorffennaf (3.5 miliwn o ddosau cyntaf a bron i 3.6 miliwn o ail ddosau). Disgwylir i bob oedolyn gael cynnig y dos cyntaf, a disgwylir i ddau draean o oedolion gael cynnig yr ail ddos, erbyn 19 Gorffennaf.

Nid yw鈥檙 pandemig ar ben. Mae achosion yn cynyddu鈥檔 gyflym ac mae trydedd don yn mynd rhagddi. Nid yw cam 4 yn nodi diwedd yr angen am ofal ac ataliaeth. Ar gam 4, er y bydd nifer o鈥檙 cyfyngiadau cyfreithiol y mae鈥檙 Llywodraeth wedi鈥檜 cyflwyno yn ystod y pandemig yn cael eu llacio, bydd y canllawiau gofalus yn parhau i fod ar waith, gan ei gwneud yn glir nad ydym yn dychwelyd at yr hen ffordd o fyw eto. Tra mae achosion yn uchel ac yn codi, mae angen i bawb barhau i ymddwyn yn ofalus a pharhau i fod yn wyliadwrus. Byddwn yn parhau i reoli鈥檙 feirws a darparu canllawiau dros y misoedd nesaf.

Er nad oes amser perffaith i ymlacio cyfyngiadau cyfredol, mae symud o gam 4 ar 19 Gorffennaf yn golygu bod y cyfyngiadau yn cyd-fynd 芒 diwedd tymor yr ysgol ac yn digwydd dros yr haf pan all mwy o weithgareddau gael eu cynnal ac mae鈥檙 pwysau ar y GIG yn llai sylweddol nag ym misoedd yr hydref a鈥檙 gaeaf.

Mae llwyddiant y rhaglen frechu wedi paratoi鈥檙 ffordd i lacio鈥檙 cyfyngiadau yn ddiogel a graddol. Wedi dweud hynny, nid oes yr un brechlyn yn gwbl effeithiol ac fel pob feirws, gall COVID-19 fwtadu. Wrth i fwy o鈥檙 cyfyngiadau lacio, yn anffodus bydd mwy o achosion, mwy o bobl yn cael eu derbyn i鈥檙 ysbyty a mwy o farwolaethau.

Amddiffyniadau allweddol

Dyma pam rydym yn cadw rhai amddiffyniadau allweddol:

  • gwneud prawf pan mae gennych symptomau a phrofion asymptomatig wedi鈥檜 targedu mewn lleoliadau addysg, gweithleoedd risg uchel ac i helpu pobl i reoli eu risg bersonol.
  • hunanynysu pan gewch brawf positif neu neges gan wasanaeth Profi ac Olrhain y GIG neu pan gewch eich cynghori gan ap COVID-19 y GIG.
  • cwarantin i deithwyr: i bawb sy鈥檔 dychwelyd o wledydd ar y rhestr goch, a phawb sy鈥檔 dychwelyd o wledydd ar y rhestr oren, ac eithrio preswylwyr y DU hynny sydd wedi鈥檜 brechu鈥檔 llawn yn rhaglen frechu鈥檙 DU.
  • canllawiau gofalus i unigolion, busnesau a鈥檙 bregus tra mae achosion yn uchel, gan gynnwys:
    • er nad yw鈥檙 Llywodraeth yn cyfarwyddo pobl i weithio gartref os gallant mwyach, mae鈥檙 Llywodraeth yn disgwyl ac yn argymell dychwelyd yn raddol dros yr haf;
    • Mae鈥檙 Llywodraeth yn disgwyl ac yn argymell bod pobl yn gwisgo gorchuddion wyneb mewn lleoedd poblog megis ar drafnidiaeth gyhoeddus;
    • bod y tu allan neu adael awyr iach i mewn; a
    • lleihau nifer y cysylltiadau cymdeithasol, yn ogystal ag agosrwydd a hyd y rhain.
  • annog a chefnogi busnesau a digwyddiadau mawr i ddefnyddio P脿s COVID y GIG mewn lleoliadau risg uchel i helpu i gyfyngu鈥檙 risg o ledaenu鈥檙 haint. Bydd y Llywodraeth yn gweithio 芒 sefydliadau sy鈥檔 gweithio mewn lleoliadau poblog, mawr lle mae pobl yn debygol o fod mewn cysylltiad agos ag eraill y tu allan i鈥檞 haelwyd i annog y defnydd o B脿s COVID y GIG. Os na chymerir mesurau digonol i gyfyngu ar yr haint, bydd y Llywodraeth yn ystyried mandadu P脿s COVID y GIG mewn rhai lleoliadau yn ddiweddarach.

Y llwybr drwy鈥檙 haf

  • Ar 12 Gorffennaf ac yn y dyddiau dilynol, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi canllawiau ynghylch sut i leihau risg drwy ymarfer ymddygiadau allweddol:
    1. I unigolion: tra ein bod yn symud i ffwrdd oddi wrth y cyfyngiadau mwyaf cyfreithiol, mae鈥檙 canllawiau yno i鈥檔 helpu ni i gyd ymddwyn yn gyfrifol. Er bod yr achosion yn uchel, mae鈥檔 hanfodol fod pawb yn glynu wrth y canllawiau ac yn gweithredu i amddiffyn eu hunain ac eraill.
    2. I fusnesau, sefydlu鈥檙 cyngor ynghylch sut mae deall a lleihau risgiau wrth i ni ddechrau byw gyda COVID-19.
    3. I鈥檙 rheiny sy鈥檔 Hynod Fregus yn Glinigol.
  • Ar 19 Gorffennaf, bydd y rhan fwyaf o gyfyngiadau yn dod i ben, gan gael gwared ar fesuriadau pellter cymdeithasol a chyfyngiadau ar gysylltiadau cymdeithasol a galluogi busnesau sy鈥檔 dal i fod wedi cau i ailagor. Erbyn hyn, mae pob oedolyn wedi cael cynnig dos cyntaf o鈥檙 brechlyn.
  • Erbyn diwedd mis Gorffennaf, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi fframwaith rheoli brigiadau o achosion COVID-19 wedi鈥檌 ddiweddaru ar gyfer ardaloedd lleol.
  • Ar 16 Awst, bydd y rheolau hunanynysu i gysylltiadau yn newid i bobl sydd wedi鈥檜 brechu鈥檔 llawn[footnote 2], ac i bobl dan 18 oed. Bydd angen i鈥檙 rheiny sydd heb eu brechu鈥檔 llawn hunanynysu os ydynt yn gysylltiadau, a bydd gofyn i bawb hunanynysu os ydynt yn cael prawf positif, er mwyn amddiffyn eu hunain ac eraill.
  • Ym mis Medi, bydd y Llywodraeth yn ymgymryd ag adolygiad i asesu pa mor barod yw鈥檙 wlad ar gyfer yr hydref a鈥檙 gaeaf, a fydd yn ystyried pa un ai a ydynt am barhau neu gryfhau canllawiau i鈥檙 cyhoedd a busnesau wrth i ni agos谩u at y gaeaf, gan gynnwys gorchuddion wyneb a phrofi, olrhain a hunanynysu, ac adolygu鈥檙 rheoliadau sy鈥檔 parhau.

Y cynllun pum pwynt i reoli鈥檙 feirws yn y cam nesaf

Bydd y cynllun pum pwynt, a nodir yn Ymateb i COVID-19: Haf 2021[footnote 3], yn ein helpu ni i reoli risgiau o fyw gyda鈥檙 feirws ar ein llwybr gofalus a gwyliadwrus at yr hen ffordd o fyw.

  1. Atgyfnerthu amddiffyniad y wlad drwy frechlynnau gyda brechlynnau atgyfnerthu a chynyddu鈥檙 nifer o bobl sy鈥檔 cael eu brechu. Bydd y llywodraeth yn annog oedolion ifanc a鈥檙 rheiny nad ydynt wedi鈥檜 brechu eto i fynd i gael eu brechlyn, gan sicrhau bod pob oedolyn wedi cael y cyfle i gael dau ddos o鈥檙 brechlyn erbyn canol mis Medi, a chynnig brechlynnau atgyfnerthu i鈥檙 bobl fwyaf bregus, yn amodol ar gyngor gan y JCVI.
  2. Galluogi鈥檙 cyhoedd i wneud penderfyniadau dysgedig drwy ganllawiau, yn hytrach na deddfau. Bydd y llywodraeth yn ailagor y lleoliadau sy鈥檔 parhau i fod wedi cau ac yn cael gwared ar reoliadau o 19 Gorffennaf, yn darparu canllawiau i unigolion, busnesau, a鈥檙 rheiny sy鈥檔 Hynod Fregus yn Glinigol ynghylch yr ymddygiadau a all helpu i amddiffyn pawb. Bydd y llywodraeth yn edrych ar weithredu gwasanaethau cyhoeddus mewn modd sy鈥檔 cefnogi pawb i deimlo鈥檔 ddiogel i鈥檞 defnyddio, ac yn gweithio gyda busnesau at yr un diben.
  3. Cynnal cynlluniau profi, olrhain a hunanynysu cymesur. Bydd y llywodraeth yn cadw ein system brofi ar waith; yn parhau i gynnig profion llif unffordd am ddim i helpu pobl i reoli eu risg bersonol; cynnal gofynion ynysu domestig cyfredol hyd at 16 Awst cyn cyflwyno eithriad i gysylltiadau sydd wedi鈥檜 brechu鈥檔 llawn a phobl dan 18 oed; a chynnal cefnogaeth er mwyn i bobl allu hunanynysu, gyda chefnogaeth ymarferol ac ariannol ar gael tan ddiwedd mis Medi.
  4. Rheoli risgiau ar y ffin a chefnogi ymateb byd-eang i leihau鈥檙 risg o amrywiolion yn amlygu yn fyd-eang ac yn cyrraedd y DU. Bydd y llywodraeth yn parhau i weithredu system goleuadau traffig ar gyfer teithio rhyngwladol, gan ailasesu鈥檙 rhestri coch, oren a gwyrdd yr wythnos hon, a phob tair wythnos, drwy gydol yr haf; cael gwared ar ofynion cwarantin i deithwyr y DU sydd wedi鈥檜 brechu鈥檔 llawn ac sy鈥檔 dychwelyd o wledydd ar y rhestr oren o 19 Gorffennaf, gan barhau 芒鈥檙 profion PCR sy鈥檔 hanfodol ar gyfer adnabod amrywiolion newydd; a chyflymu鈥檙 rhaglen frechu fyd-eang drwy flaenoriaethu mynediad at frechlynnau mewn gwledydd sy鈥檔 datblygu.
  5. Cynnal mesurau wrth gefn i ymateb i ddisgwyliadau annisgwyl, gan dderbyn y bydd rhagor o achosion, pobl yn mynd i鈥檙 ysbyty a marwolaethau yn digwydd wrth i鈥檙 wlad ddysgu i fyw gyda COVID-19. Bydd y Llywodraeth yn parhau i fonitro鈥檙 data yn rheolaidd i sicrhau nad oes perygl i鈥檙 GIG sy鈥檔 wynebu pwysau anghynaladwy; gweithio gydag awdurdodau lleol a darparu cefnogaeth genedlaethol i ardaloedd lleol sydd angen ymateb uwch i COVID-19; a chynnal cynlluniau wrth gefn ar gyfer ailosod cyfyngiadau economaidd a chymdeithasol ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol os yw tystiolaeth yn awgrymu eu bod yn angenrheidiol i atal neu reoli amrywiolyn peryglus. Byddai mesurau o鈥檙 fath yn cael eu hail-gyflwyno dim ond os nad oes dewis arall i atal pwysau anghynaladwy ar y GIG.