Canllawiau i atwrneiod a dirprwyon ar frechlynnau
Diweddarwyd 28 Mehefin 2023
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
1. Cydsynio i gael y brechlyn
Rhaid i鈥檙 person sy鈥檔 cael y brechlyn gytuno i鈥檞 gael cyn derbyn y brechlyn. Mae hyn yn seiliedig ar y sefyllfa gyfreithiol bresennol, a鈥檙 safonau a ddisgwylir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Mae鈥檔 bwysig rhagdybio bod gan berson y gallu i wneud ei benderfyniad ei hun, oni phrofir yn wahanol. Ond, ni ddylai diffyg galluedd meddyliol i gydsynio atal person rhag cael cynnig brechlyn. Bydd angen i鈥檙 brechwr gymryd camau ychwanegol os nad oes gan y person y galluedd i gydsynio i鈥檙 brechlyn.
2. Deall nad yw pawb yn gallu cydsynio
Pan nad oes gan berson y galluedd meddyliol i gydsynio i gael y brechlyn, dylid gwneud penderfyniad er lles pennaf ar ei ran. Dim ond atwrnai neu ddirprwy sydd wedi cael ei benodi i wneud penderfyniadau iechyd a lles sy鈥檔 gallu gwneud y penderfyniad. Ni all atwrneiod a dirprwyon sydd wedi cael eu penodi dim ond i wneud penderfyniadau ynghylch materion ariannol ac eiddo wneud penderfyniadau ynghylch brechlynnau.
Cyn cytuno i roi鈥檙 brechlyn i rywun sydd 芒 diffyg galluedd, cyfrifoldeb y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, y gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd neu鈥檙 gwirfoddolwr sy鈥檔 cynnig y brechlynnau yw gwneud yn si诺r bod un o鈥檙 canlynol ar waith:
- atwrneiaeth arhosol (LPA) ar gyfer iechyd a lles
- gorchymyn perthnasol gan y Llys Gwarchod (gorchymyn dirprwyaeth yw hwn fel arfer, ond gallai fod yn orchymyn gan y llys ynghylch y mater penodol hwn)
Dylai鈥檙 gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu鈥檙 unigolyn a fyddai鈥檔 rhoi鈥檙 brechlyn ofyn wedyn i鈥檙 atwrneiod neu鈥檙 dirprwyon a ydyn nhw鈥檔 cydsynio.
Os nad yw鈥檙 atwrneiod neu鈥檙 dirprwyon yn cydsynio i鈥檙 brechlyn gael ei roi, efallai y bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol o鈥檙 farn nad yw鈥檙 penderfyniad hwnnw er lles pennaf yr unigolyn. Os felly, bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedyn yn gofyn am gyngor cyfreithiol gan y corff GIG neu鈥檙 awdurdod lleol perthnasol. Gellir gwneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod iddynt wneud y penderfyniad terfynol ar roi鈥檙 brechlyn neu beidio.
3. Gwneud penderfyniadau
Yng ngweddill y canllawiau hyn, mae 鈥榗hi鈥� yn golygu naill ai鈥檙 atwrnai neu鈥檙 dirprwy.
Rhan o鈥檆h r么l chi yw gwneud yn si诺r eich bod yn gweithredu er lles pennaf y person sydd wedi鈥檆h penodi chi i weithredu ar ei ran pan fydd wedi colli galluedd meddyliol.
Dylech ystyried beth fyddai dymuniadau鈥檙 person pe bai鈥檔 gallu gwneud penderfyniadau drosto鈥檌 hun.
Mae angen i chi ystyried:
- ei werthoedd presennol a blaenorol, gan gynnwys safbwyntiau moesegol, gwleidyddol a chrefyddol
- unrhyw ffactorau eraill y byddai fel arfer yn eu hystyried pe bai鈥檔 gallu gwneud hynny
- unrhyw ddewisiadau ar ei Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer iechyd a lles (os yw wedi rhoi cyfarwyddiadau, mae鈥檙 rhain yn orfodadwy a rhaid eu dilyn)
Ni ddylech wneud penderfyniad dim ond oherwydd oedran neu edrychiad y person. Ni ddylech wneud rhagdybiaethau ar sail cyflwr sydd gan y person o bosibl, nac oherwydd elfen o鈥檌 ymddygiad.
- dylech hefyd ystyried a yw鈥檔 debygol y bydd yn adennill ei alluedd meddyliol 鈥� os felly, pryd mae hynny鈥檔 debygol o ddigwydd. Os gall y penderfyniad aros nes bydd y person yn gallu gwneud y penderfyniad drosto鈥檌 hun, neu gymryd rhan yn y broses benderfynu, dylech aros
Dyma ambell beth y gallwch chi ei wneud i sicrhau y bydd rhywun yn cysylltu 芒 chi ynghylch eich penderfyniad:
- os yw鈥檙 person yn byw mewn cyfleuster gofal, rhowch wybod i鈥檙 cyfleuster bod rhaid iddyn nhw gysylltu 芒 chi ynghylch y penderfyniad
- os yw鈥檙 person yn byw ar ei ben ei hun, cysylltwch 芒鈥檙 t卯m brechu lleol i sicrhau bod rhywun yn cysylltu 芒 chi ynghylch y penderfyniad cyn i鈥檙 brechlyn gael ei roi
Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol eisiau deall sut ydych wedi gwneud y penderfyniad, yn enwedig os yw鈥檔 mynd yn groes i鈥檞 barn broffesiynol nhw, ac nid ydych yn rhoi eich cydsyniad. Os na allwch chi a鈥檙 gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ddod i gytundeb, bydd angen i鈥檙 rhai hynny sy鈥檔 gyfrifol am roi鈥檙 brechlyn wneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod i wneud y penderfyniad.
Fel gyda phob penderfyniad am ofal iechyd, mae鈥檔 bwysig eich bod yn cysylltu 芒鈥檙 darparwr gofal iechyd neu鈥檙 gweithiwr proffesiynol cyn i chi wneud penderfyniad.
Os byddwch chi鈥檔 penderfynu cydsynio i鈥檙 brechlyn ar ran y person, does dim angen i chi fynd i鈥檙 apwyntiad brechu. Ar yr amod eich bod chi wedi cydsynio, gall rhywun arall fynd 芒鈥檙 person i鈥檙 apwyntiad brechu gyda鈥檆h caniat芒d chi.
4. Angen rhagor o wybodaeth neu oes gennych chi unrhyw gwestiynau?
Edrychwch ar benodau 4 a 5 yng Nghod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol i gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau ynghylch sut mae鈥檙 Ddeddf Galluedd Meddyliol yn gweithio鈥檔 ymarferol.
Neu ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0300 456 0300.