Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Diweddarwyd 13 Rhagfyr 2021
1. Ar bwy mae鈥檙 ardoll yn debygol o effeithio
Mae鈥檙 ardoll yn debygol o effeithio ar gyflogwyr, cyflogeion a鈥檙 hunangyflogedig sy鈥檔 agored i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac unigolion a fyddai鈥檔 agored i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol oni bai am gyfyngiadau oedran pensiwn. Nid effeithir ar unigolion sydd ond yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 3.
2. Disgrifiad cyffredinol o鈥檙 mesur
Mae鈥檙 mesur hwn yn darparu ar gyfer cynnydd dros dro o 1.25 pwynt canrannol i brif gyfraddau a chyfraddau ychwanegol cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, Dosbarth 1A, Dosbarth 1B a Dosbarth 4 ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023. Bydd y refeniw a godir yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi鈥檙 GIG a chyrff cyfatebol ledled y DU. O fis Ebrill 2023 ymlaen, bydd cyfraddau鈥檙 cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn gostwng yn 么l i lefelau blwyddyn dreth 2021 i 2022, a byddant yn cael eu disodli gan Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd o 1.25% lle bydd y refeniw鈥檔 cael ei glustnodi i roi cymorth i gyrff iechyd a gofal cymdeithasol y DU.
Ni fydd y cynnydd dros dro i gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 yn effeithio ar unigolion sydd dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ond byddant yn agored i dalu鈥檙 ardoll o fis Ebrill 2023 ymlaen.
Bydd yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd yn agored i鈥檙 un rhyddhadau, yr un trothwyon a鈥檙 un gofynion o ran y cyfraniadau Yswiriant Gwladol cymwys (Dosbarth 1, Dosbarth 1A, Dosbarth 1B neu Ddosbarth 4) y mae鈥檙 Ardoll yn daladwy mewn perthynas 芒 nhw.
3. Amcan y polisi
Mae鈥檙 llywodraeth wedi ymrwymo i reoli arian cyhoeddus yn gyfrifol. Bydd y cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a nodwyd gan y Prif Weinidog a鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn arwain at gynnydd parhaol mewn gwariant. Byddai鈥檔 anghyfrifol talu鈥檙 costau hyn drwy gynyddu lefelau benthyca, yn enwedig yng nghyd-destun y lefelau uchaf erioed o fenthyca a dyledion i ariannu鈥檙 ymateb economaidd i COVID-19. Felly, mae鈥檙 llywodraeth wedi penderfynu cynyddu trethiant.
Mae angen ateb hirdymor ym mhob rhan o鈥檙 DU i ariannu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae鈥檙 ardoll hon yn rhoi dull gweithredu ledled y DU, sy鈥檔 ein galluogi i gyfuno a rhannu risgiau ac adnoddau ledled y DU, gan ddangos manteision yr Undeb i鈥檔 holl ddinasyddion.
3.1 Cefndir y mesur
Cyhoeddwyd y mesur hwn ar 7 Medi 2021, ac mae鈥檔 cael ei weithredu cyn gynted 芒 phosibl i gynyddu鈥檙 arian ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
4. Cynnig manwl
4.1 Dyddiad gweithredol
Bydd y cynnydd trosiannol i brif gyfraddau a chyfraddau ychwanegol cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn dod i rym ar 6 Ebrill 2022, a bydd yn para ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 yn unig. Bydd yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd yn dod i rym ar 6 Ebrill 2023.
4.2 Y gyfraith bresennol
Mae Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (a鈥檙 hyn sy鈥檔 cyfateb iddi yng Ngogledd Iwerddon) yn nodi鈥檙 cyfraniadau Yswiriant Gwladol amrywiol y mae cyflogeion, cyflogwyr ac unigolion hunangyflogedig yn agored iddynt. Mae Adran 5 yn darparu ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 cynradd ac eilaidd (cyflogeion a chyflogwyr), mae Adran 10 yn darparu ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, mae Adran 10A yn darparu ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B (cyflogwyr), ac mae Adran 15 yn darparu ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 (hunangyflogedig).
4.3 Diwygiadau arfaethedig
Bydd y Bil Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn darparu ar gyfer ardoll o 1.25% sy鈥檔 daladwy ar swm o enillion neu elw y mae cyflogai, cyflogwr neu unigolyn hunangyflogedig eisoes yn agored i dalu cyfraniad Yswiriant Gwladol cymwys (CYG Dosbarth 1, 1A, 1B a 4) arno. At ddibenion gweinyddol, bydd yr ardoll yn gweithredu yn yr un modd 芒 chyfraniadau Yswiriant Gwladol, felly bydd y Bil yn cymhwyso deddfwriaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol at yr ardoll.
Bydd y Bil newydd yn nodi sut y bydd yr enillion o鈥檙 Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd yn cael eu defnyddio.
Bydd y Bil hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol a fydd yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (a鈥檙 hyn sy鈥檔 cyfateb iddi yng Ngogledd Iwerddon) ar gyfer blwyddyn dreth 2022-23 ac yn cymhwyso cynnydd dros dro o 1.25 pwynt canrannol at bob un o鈥檙 cyfraddau cyfraniadau Yswiriant Gwladol cymwys.
4.4 Crynodeb o鈥檙 effeithiau
4.5 Yr effaith ar y Trysorlys (拢bn)
2020 to 2021 | 2021 to 2022 | 2022 to 2023 | 2023 to 2024 | 2024 to 2025 | 2025 to 2026 |
---|---|---|---|---|---|
gwag | gwag | gwag | gwag | gwag | gwag |
Bydd y costio terfynol yn amodol ar waith craffu gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a bydd yn cael ei nodi yn y Gyllideb.
4.6 Yr effaith economaidd
Rhagwelir y bydd y mesur yn cael effaith facroeconomaidd sylweddol, gyda chanlyniadau鈥檔 cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, enillion, chwyddiant ac elw cwmn茂au. Mae effeithiau ymddygiadol yn debygol o fod yn fawr, a bydd y rhain yn cynnwys penderfyniadau ynghylch a ddylid ymgorffori neu beidio, a phenderfyniadau busnes ynghylch biliau cyflog a recriwtio.
4.7 Yr effaith ar unigolion, aelwydydd a theuluoedd
Mae鈥檙 dadansoddiad o鈥檙 effaith sy鈥檔 dilyn yn ymwneud yn benodol ag effaith y darpariaethau deddfwriaethol a amlinellir uchod. Cyflwynir colledion o鈥檜 cymharu 芒鈥檙 cyfraniadau Yswiriant Gwladol y byddai unigolion wedi鈥檜 hwynebu pe bai鈥檙 gyfradd wedi aros yr un fath.
Telir yr ardoll gan unigolion cyflogedig a hunangyflogedig sy鈥檔 ennill mwy na鈥檙 Prif Drothwy a鈥檙 Terfyn Elw Isaf (拢9,568 ym mlwyddyn dreth 2021 i 2022). Ym mlwyddyn dreth 2022 i 2023, byddai disgwyl i unigolyn sy鈥檔 ennill incwm canolrifol trethdalwr cyfradd sylfaenol, sef 拢24,100, dalu 拢180 ychwanegol; a byddai disgwyl i unigolyn sy鈥檔 ennill incwm canolrifol trethdalwr cyfradd uwch, sef 拢67,100, dalu 拢715 yn ychwanegol.
Bydd colledion gwirioneddol i drethdalwyr unigol yn amrywio yn 么l amgylchiadau unigol.
Efallai y bydd effaith ar ffurfio teuluoedd, ar sefydlogrwydd teuluoedd neu ar chwalfa deuluol gan y bydd unigolion, sydd ond yn llwyddo i ymdopi鈥檔 ariannol ar hyn o bryd, yn gweld eu hincwm gwario鈥檔 gostwng.
4.8 Effeithiau ar gydraddoldeb
Ni ragwelir y bydd effeithiau uniongyrchol ar grwpiau sy鈥檔 rhannu nodweddion gwarchodedig gan fod y mesur hwn yn berthnasol ni waeth beth fo鈥檜 hamgylchiadau personol neu eu nodweddion gwarchodedig i鈥檙 graddau yr effeithir arnynt gan newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Gan y bydd yr ardoll yn gyfradd o 1.25% ar yr holl incwm sy鈥檔 uwch na鈥檙 Prif Drothwy, yr uchaf yw enillion unigolyn, y mwyaf y bydd yn ei dalu. Mae unigolion ag enillion uwch yn tueddu i fod yn wyn, yn ddynion a heb anabledd. Ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 yn unig, bydd y mesur hwn hefyd yn effeithio ar y rhai hynny sydd o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn unig.
Yn 2022 i 2023, o鈥檙 29.0 miliwn o unigolion a fydd ar eu colled oherwydd y mesur hwn, mae 15.6 miliwn (54%) yn ddynion ac mae 13.4 miliwn (46%) yn ferched.
Mae鈥檙 mesur hwn hefyd yn debygol o gael effaith anghymesur ar unigolion y mae eu hincwm yn cynnwys enillion neu elw yn bennaf, yn hytrach na mathau eraill o incwm megis incwm o eiddo, incwm pensiwn neu gynilion oherwydd nad yw鈥檙 Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol, na chyfraniadau Yswiriant Gwladol, yn cael eu codi ar y mathau hynny o incwm.
4.9 Yr effaith ar fusnesau, gan gynnwys sefydliadau cymdeithas sifil
Disgwylir i鈥檙 mesur hwn gael effaith sylweddol ar dros 1.6 miliwn o gyflogwyr y bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno鈥檙 newid hwn. Bydd costau untro yn cynnwys ymgyfarwyddo 芒鈥檙 newid a gallent hefyd gynnwys diweddaru meddalwedd neu systemau i adlewyrchu鈥檙 newid. Gallai cost untro arall gynnwys diweddaru cofnodion cyflogres cyflogeion i adlewyrchu鈥檙 newid hwn. Bydd y mesur hwn hefyd yn effeithio ar ddarparwyr meddalwedd gyflogres a fydd yn cael cost ymgyfarwyddo untro a bydd hefyd yn ofynnol iddynt ddiweddaru meddalwedd i adlewyrchu鈥檙 newid hwn, a gellir trosglwyddo鈥檙 gost i gwsmeriaid.
Disgwylir i brofiad cwsmeriaid aros yr un fath ar y cyfan gan nad yw鈥檙 mesur hwn yn newid yn sylweddol sut mae cyflogwyr yn rhyngweithio 芒 CThEM. Ni ddisgwylir i鈥檙 mesur hwn effeithio ar sefydliadau cymdeithas sifil.
4.10 Yr effaith weithredol (拢m) (CThEM neu eraill)
Bydd cyflwyno鈥檙 ardoll ym mis Ebrill 2023, a鈥檙 trefniadau trosiannol ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, yn galw am newidiadau i systemau TG Cyllid a Thollau EM. Bydd costau staff ychwanegol hefyd er mwyn rhoi cymorth i gwsmeriaid a sicrhau cydymffurfiad 芒鈥檙 system newydd. Mae鈥檙 costau hynny鈥檔 cael eu meintioli ar hyn o bryd.
4.11 Effeithiau eraill
Mae effeithiau eraill wedi cael eu hystyried ac nid oes yr un wedi鈥檌 chanfod.
4.12 Monitro a gwerthuso
Caiff y mesur ei fonitro drwy wybodaeth a gesglir o dderbyniadau Yswiriant Gwladol a鈥檙 Ardoll.
4.13 Cyngor pellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newid hwn, cysylltwch 芒鈥檙 T卯m Polisi Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn [email protected].
4.14 Datganiad
Mae鈥檙 Gwir Anrhydeddus Jesse Norman AS, Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, wedi darllen y Nodyn Effaith a Gwybodaeth Treth hwn, ac mae鈥檔 fodlon, o ystyried y dystiolaeth sydd ar gael, ei fod yn cynrychioli barn resymol am gostau, manteision ac effeithiau tebygol y mesur.