Sut mae CThEF yn gweithio gydag asiantau
Diweddarwyd 23 Ionawr 2023
Beth yw asiantau treth
Mae asiantau treth yn asiantau, ac yn ymgynghorwyr, sydd wedi鈥檜 sefydlu yn y DU, neu mewn gwledydd eraill, ac sy鈥檔 gweithredu鈥檔 broffesiynol mewn perthynas 芒 materion treth pobl eraill. Mae hyn yn cynnwys asiantau ac ymgynghorwyr trydydd parti, p鈥檜n a ydynt yn gweithredu mewn perthynas 芒 materion treth yn y DU neu faterion treth alltraeth, bob tro y byddant yn delio 芒 CThEF.
Nid yw hyn yn gymwys i Gynorthwywyr Dibynadwy.
Siarter a strategaethau CThEF
Rydym yn parchu dymuniad unrhyw drethdalwr i gael ei gynrychioli gan asiant, ar yr amod bod yr awdurdodiad cywir yn ei le, fel y nodir yn Siarter CThEF.
Mae鈥檙 broses o awdurdodi asiantau wedi鈥檌 seilio ar ymddiriedaeth a pharch gan y naill i鈥檙 llall.
Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 asiant ddilyn safon CThEF ar gyfer asiantau.
Mae strategaeth gweinyddu trethi CThEF (yn Saesneg) yn cydnabod pwysigrwydd cadw a, phan fo angen,聽godi鈥檙 safonau ar gyfer asiantau treth a chyfryngwyr er mwyn meithrin ffydd yn y system gweinyddu trethi.
Er mwyn cael mynediad at wasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer asiantau, mae鈥檔 rhaid dilyn .
Rydym yn argymell pob asiant i ymgyfarwyddo 芒鈥檙 egwyddorion yn y dogfennau hyn.
Sut mae CThEF yn helpu asiantau i helpu eu cleientiaid
Yn unol 芒鈥檙 egwyddorion a nodir yn y dogfennau hyn, rydym yn cydnabod pwysigrwydd asiantau treth yn y system gweinyddu trethi.
Rydym yn eu cynorthwyo ac yn eu helpu wrth gyflawni鈥檙 strategaeth asiantau, a thrwy amrywiaeth eang o ffyrdd eraill, megis:
- e-byst rhagarweiniol ar gyfer asiantau treth sy鈥檔 cofrestru gyda CThEF, mae鈥檙 e-byst hyn yn rhoi gwybodaeth am gynnyrch a ddyluniwyd er mwyn rhoi help a chymorth i asiantau, yn ogystal 芒鈥檜 cyfeirio at newyddion, gwybodaeth, a diweddariadau i ddeddfwriaeth
- cyhoeddiadau misol ynghylch Diweddariadau i Asiantau
- blogiau
- pynciau trafod ar gyfer asiantau treth
- gweminarau
- fforwm ar-lein penodedig ar gyfer asiantau
- llinellau cymorth a chysylltiadau penodedig ar gyfer asiantau treth
- ystod o becynnau cymorth hunanwasanaethu ar gyfer asiantau, er mwyn eu helpu i sicrhau bod Ffurflenni Treth eu cleientiaid yn gywir, yn ogystal ag arweiniad a llawlyfrau sydd ar gael ar-lein er mwyn i鈥檙 cyhoedd droi atynt
- diweddariadau drwy e-byst ar wah芒n ar gyfer materion penodol
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ddiweddariadau CThEF drwy e-byst, fideos a gweminarau ar gyfer ymgynghorwyr ac asiantau treth (yn Saesneg).
Bydd asiant sydd wedi鈥檌 awdurdodi鈥檔 briodol gan drethdalwr er mwyn gweithredu ar ei ran, sydd hefyd yn cydymffurfio 芒 safon CThEF ar gyfer asiantau, yn gallu cymryd mantais ar fynediad llawn i鈥檙 gwasanaethau asiant a gynigir gan CThEF.
Bydd y gwasanaethau hyn yn parhau i gael eu datblygu er mwyn galluogi asiantau i weld ac i wneud union yr un peth 芒鈥檜 cleientiaid, a hynny er mwyn iddynt fodloni ymrwymiadau treth eu cleientiaid mewn ffordd sydd mor hwylus 芒 phosibl.
Dysgwch sut y gall cleientiaid awdurdodi asiant i weithredu ar eu rhan.
Mae鈥檔 bosibl y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni gysylltu ag asiantau ynghylch materion treth eu cleientiaid, hyd yn oed os ydynt yn dilyn safonau CThEF ar gyfer asiantau.
Os nad yw asiant yn bodloni safon CThEF ar gyfer asiantau
Ni fyddwn yn goddef ymddygiad gwael gan asiantau a fydd yn achosi niwed i drethdalwyr neu ein staff, neu sy鈥檔 cael effaith negyddol ar gyllid cyhoeddus.
Byddwn yn annog asiantau i wella鈥檜 hymddygiad, gosod sancsiynau er mwyn mynd i鈥檙 afael ag ymddygiad gwael, cyfyngu ar yr hyn y maent yn gallu ei wneud, neu eu hatal rhag gweithredu ar ran cleientiaid yn gyfan gwbl.
Pan nad yw asiant yn bodloni鈥檙 safon ar gyfer asiantau, byddwn yn cymryd camau cyn gynted 芒 phosibl, a hynny mewn modd:
- cymesur
- rhesymol
- cyfiawnadwy
- cyfreithlon
- teg
Mae amrywiaeth o ddulliau gennym, yn ogystal 芒 pholis茂au a phwerau, i鈥檞 defnyddio i fynd i鈥檙 afael ag ymddygiad gwael gan asiantau. Mae鈥檙 pwerau hyn wedi鈥檜 crynhoi yn 鈥楥odi safonau yn y farchnad cyngor treth 鈥� adolygiad CThEF o bwerau i gynnal y safon ar gyfer Asiantau鈥� (yn Saesneg).
Gallwn gyfyngu ar fynediad asiant at wasanaethau ar-lein, neu atal y mynediad hwnnw鈥檔 gyfan gwbl.
Byddwn hefyd yn ystyried camau pellach, sy鈥檔 amrywio o siarad 芒鈥檙 asiant hyd at ddefnyddio pwerau statudol (gan gynnwys ymchwiliadau ac erlyniadau troseddol).
Gellir cymryd y camau canlynol hefyd:
- datgeliad ynghylch camymddygiad i unrhyw gorff rheoleiddio proffesiynol y mae鈥檙 asiant yn aelod ohono, o dan adran 20(3) o Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005
- hysbysiadau ynghylch ymddygiad anonest, a hysbysiadau cysylltiedig o ran mynediad at ffeiliau, cosbau ariannol, a chyhoeddi unrhyw gosbau a godwyd o dan adran 38 o Ddeddf Cyllid 2012
- gwrthod delio ag asiant o gwbl
Pan fo鈥檔 briodol, byddwn yn gweithredu o dan y pwerau gwrth-wyngalchu arian (yn Saesneg).
Byddwn yn gorfodi鈥檙 strategaeth hyrwyddwyr (yn Saesneg) a chymryd camau yn unol 芒鈥檙 polisi ymchwiliadau troseddol (yn Saesneg).
Gall hyn fod yn ogystal 芒, neu ar wah芒n i, unrhyw gamau eraill a gymerir o dan safon CThEF ar gyfer asiantau.
Gan fod awdurdodi asiant yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch gan y naill i鈥檙 llall, a gan nad yw鈥檔 ofynnol o dan y gyfraith i ni gydnabod awdurdod asiant, rydym yn cadw鈥檙 hawl i anwybyddu awdurdodiad. Byddwn yn gwneud hynny os yw ymddygiad yr asiant yn wael, neu os yw鈥檔 torri safon CThEF ar gyfer asiantau. Yn yr achos hwn, byddwn yn delio鈥檔 uniongyrchol 芒鈥檙 cleient.
Eich hawliau fel asiant
Os ydych yn anghytuno ag unrhyw benderfyniad gan CThEF, gallwch ofyn am adolygiad, gwneud ap锚l i dribiwnlys annibynnol, neu wneud y ddau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw鈥檆h hawliau ym mhob sefyllfa.
Dysgwch sut i gwyno i CThEF.