Canllawiau

Cyllid Grant CThEF - arweiniad ar wneud cais

Diweddarwyd 24 Awst 2023

CThEF yw adran treth, taliadau a thollau鈥檙 DU. Rydym yn casglu鈥檙 arian sy鈥檔 talu am wasanaethau cyhoeddus y DU ac sy鈥檔 rhoi cymorth ariannol i bobl. Mae gennym 5 amcan strategol.

Rydym am roi gwasanaeth diduedd a chywir i鈥檔 cwsmeriaid sy鈥檔 seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch gan y naill a鈥檙 llall. Rydym hefyd yn awyddus i鈥檞 gwneud mor hawdd 芒 phosibl i bobl gael pethau鈥檔 iawn. Mae Siarter CThEF yn egluro鈥檙 hyn y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl gennym ni a鈥檙 hyn a ddisgwyliwn ni.

Mae CThEF wedi sicrhau 拢5.5 miliwn ar gyfer rhaglen dair blynedd o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2027 (拢1.835 miliwn y flwyddyn) i ariannu sefydliadau yn y sector gwirfoddol a chymunedol (VCS). Bydd yr arian hwn yn helpu鈥檙 sefydliadau hyn i roi cyngor a chymorth i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt i ddeall a chydymffurfio 芒鈥檜 hymrwymiadau treth ac i hawlio鈥檙 hyn y mae ganddynt hawl iddo, gan gynnwys y rheiny sydd wedi鈥檜 cau allan o鈥檙 byd digidol.

Rydym yn chwilio am sefydliadau VCS i helpu cwsmeriaid i greu perthynas 芒 CThEF, neu ailgydio yn y berthynas honno, sy鈥檔 eu galluogi i gydweithio 芒 ni鈥檔 uniongyrchol yn y dyfodol.

Bydd disgwyl hefyd i sefydliadau gefnogi CThEF gydag ymchwil a mewnwelediad i nodi a lleihau rhwystrau a gwella profiadau i gwsmeriaid rydym yn ei chael yn anodd eu cyrraedd ac a allai fod mewn amgylchiadau bregus.

Rydym yn gwahodd ceisiadau am 拢30,000-拢600,000 o gyllid y flwyddyn, gyda鈥檙 trothwy mwyaf wedi鈥檌 osod ar 50% o drosiant eich sefydliad (yn 么l y cyfrifon archwiliedig diwethaf).

Nodau cyllid CThEF

Rydym am i sefydliadau ddarparu cymorth aml-sianel, annibynnol yn rhad ac am ddim. Dylai鈥檙 ceisiadau ategu egwyddorion CThEF o ran rhoi cymorth i gwsmeriaid y mae angen help ychwanegol arnynt, a dylent gynnwys dau neu fwy o鈥檙 gweithgareddau canlynol:

  • helpu pobl i gydymffurfio 芒鈥檜 materion treth
  • cefnogi cwsmeriaid ag anghenion cymhleth (gan gynnwys y rhai a gyfeiriwyd atom gan ein T卯m Cymorth Ychwanegol)
  • rhoi cymorth i bobl i allu defnyddio ffyrdd digidol o gael mynediad at wasanaethau CThEF

Helpu pobl i gydymffurfio 芒鈥檜 materion treth

Rydym yn gwneud hyn drwy鈥檙 canlynol:

  • rhoi cyngor a chymorth uniongyrchol i gwsmeriaid CThEF y mae angen help ychwanegol arnynt ac sy鈥檔 methu 芒 fforddio talu am y cyngor a鈥檙 cymorth hynny
  • meithrin ffydd a hyder fel y gall cwsmeriaid ymdrin yn uniongyrchol 芒 CThEF yn y dyfodol

Dylai hyn gwmpasu sbectrwm llawn gwaith CThEF, er enghraifft:

  • rhoi gwybod i ni am ffynonellau incwm neu newidiadau mewn amgylchiadau
  • rhoi cymorth i gwsmeriaid gyda rhwymedigaethau a hawliadau treth
  • cynorthwyo cwsmeriaid pan fyddwn yn ceisio gwybodaeth neu dystiolaeth bellach
  • cymorth gyda gwasanaeth dyled a chaledi CThEF

Cymorth i gwsmeriaid ag anghenion cymhleth

Rydym yn rhoi cymorth i gwsmeriaid ag anghenion cymhleth:

  • drwy roi gwybodaeth a chyngor arbenigol ar ymholiadau treth cymhleth gan gynnwys atgyfeiriadau gan dimau Cymorth Ychwanegol CThEF, adrannau eraill y llywodraeth neu sefydliadau VCS eraill.
  • gall hyn hefyd gynnwys cwsmeriaid sydd angen cynrychiolaeth trydydd parti, fformatau cyfathrebu hygyrch a chyfieithu, addasiadau corfforol a logistaidd

Cymorth digidol

Rydym yn rhoi cymorth i gwsmeriaid sydd angen cymorth digidol i feithrin eu gallu i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF drostynt eu hunain, a hynny drwy:

  • magu hyder a ffydd cwsmeriaid wrth ddefnyddio gwasanaethau digidol
  • darparu cymorth cynhwysiant digidol ochr yn ochr 芒 chyngor treth
  • cadw cwsmeriaid mewn sianeli digidol pan fyddant yn cael anawsterau

Pwy rydym am i chi eu cefnogi

Rydym am i sefydliadau VCS gefnogi CThEF wrth helpu鈥檙 cwsmeriaid hynny sydd anoddaf i ni eu cyrraedd ar hyn o bryd, neu sy鈥檔 methu neu sydd ddim am gydweithio 芒 ni鈥檔 uniongyrchol, neu sydd angen cymorth ychwanegol wrth wneud hynny.

Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h sefydliad allu dangos y gallwch ddarparu gwasanaethau cymorth gyda threth a gwasanaethau cymorth cysylltiedig, gan gynnwys cynnig cymorth gyda gwasanaethau digidol CThEF i amrywiaeth o gwsmeriaid CThEF heb gynrychiolaeth, gan gynnwys:

  • y rheiny ag anableddau corfforol, iechyd meddwl, gwybyddol, dysgu neu synhwyraidd
  • y rheiny sydd ar incwm isel neu mewn dyled ac yn wynebu caledi ariannol
  • cwsmeriaid sy鈥檔 cael anawsterau cyfathrebu, megis rhwystrau ieithyddol
  • cwsmeriaid sy鈥檔 cael anawsterau sy鈥檔 gysylltiedig ag oedran
  • cwsmeriaid sy鈥檔 brin o hyder ac yn poeni cryn dipyn am wneud camgymeriadau, neu sy鈥檔 newydd i wasanaethau CThEF
  • cwsmeriaid mewn trallod eithafol oherwydd digwyddiadau bywyd fel profedigaeth, salwch difrifol, tor-perthynas neu gam-drin domestig neu economaidd

Bydd yn rhaid i鈥檆h cynnig ddangos sut y gallwch helpu cwsmeriaid yn un neu fwy o鈥檙 grwpiau hyn.

Ble mae angen cymorth

Rydym eisiau gwasanaethau hygyrch yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a鈥檙 Alban. Gall hyn fod naill ai drwy sefydliadau sy鈥檔 darparu gwasanaethau ledled y DU neu allgymorth cymunedol ar gyfer ardaloedd difreintiedig neu anghysbell.

Dylai鈥檆h sefydliad allu dangos sut y byddwch yn cyrraedd cwsmeriaid a pha dystiolaeth a galw sydd am y gwasanaeth yn eich cymunedau.

Sut y byddwch yn rhoi cymorth i gwsmeriaid CThEF

Dylai sefydliadau amlinellu sut maent am gyflwyno cynllun cymorth CThEF. Dylai hyn gynnwys pa wasanaethau y byddant yn eu darparu, nifer y cwsmeriaid y bydd y cynllun yn eu cynorthwyo a pha ganlyniadau a manteision a ddaw yn sgil y cynllun.

Dylai sefydliadau esbonio sut y byddant yn hyrwyddo鈥檙 gwasanaeth i ryngweithio 芒鈥檙 cwsmeriaid y mae CThEF yn eu cael anoddaf i鈥檞 cyrraedd, gan gynnwys drwy unrhyw rwydweithiau, neu drwy gydweithio 芒 sefydliadau eraill.

Dangos llwyddiant

Mae鈥檔 bwysig bod eich sefydliad yn gallu dangos sut rydych yn sicrhau canlyniadau llwyddiannus i鈥檆h cleientiaid 鈥� hynny yw, ein cwsmeriaid. Dylech allu darparu gwybodaeth a data clir am ganlyniadau, effaith eich gweithgareddau a sut maent yn bodloni amcanion strategol CThEF ac yn cefnogi ymrwymiadau Siarter CThEF. Dylech hefyd roi manylion am sut rydych yn bwriadu monitro a gwerthuso鈥檙 rhaglen.

Rheoli risgiau

Dylai鈥檆h sefydliad nodi unrhyw risgiau a ragwelir a allai beryglu鈥檙 rhaglen, a sut y byddwch yn eu lliniaru. Rydym am ddeall sut y byddwch yn ymateb i newidiadau yn y boblogaeth cwsmeriaid a鈥檙 hinsawdd economaidd-gymdeithasol ehangach, a sut y byddwch yn addasu eich gwasanaethau i ategu鈥檙 newidiadau hynny.

Costau

Rydym yn awyddus i鈥檔 buddsoddiad ddwyn ffrwyth. Felly, bydd yn rhaid i chi ddangos bod eich gwasanaethau鈥檔 cynnig gwerth da am arian a darparu dadansoddiad manwl o gostau eich cynnig, a hynny ar gyfer pob un o鈥檙 tair blwyddyn o gyllid.

Meini prawf cymhwystra

Bydd angen i chi gadarnhau eich bod yn bodloni鈥檙 holl feini prawf hyn er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am gyllid grant gan CThEF.

Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h sefydliad fod yn un o鈥檙 canlynol:

  • elusen gofrestredig
  • sefydliad yn y sector gwirfoddol a chymunedol
  • menter gymdeithasol
  • cymdeithas gydfuddiannol
  • cwmni cydweithredol

Meini prawf ychwanegol:

Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h sefydliad feddu ar dair blynedd o gofnodion ariannol.

Mae鈥檔 rhaid i drosiant eich sefydliad fod yn 拢60,000 y flwyddyn o leiaf.

Nid oes unrhyw gyfarwyddwr yn eich sefydliad wedi鈥檌 ddiarddel yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf. Nid oes unrhyw gyfarwyddwr, ymddiriedolwr, trysorydd na neb mewn swydd 芒 chyfrifoldeb ariannol, wedi cael euogfarn berthnasol, megis twyll, yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae gofyn bod gennych brosesau a systemau ariannol cadarn a chynhwysfawr sy鈥檔 eich galluogi i gadw golwg ar faint o gyllid sy鈥檔 cael ei wario yn ystod y flwyddyn, ac i ddangos eich bod wedi neilltuo鈥檙 cyllid i鈥檙 gweithgaredd penodol a nodwyd yn eich cais.

Ni fydd unrhyw elfen o鈥檙 gweithgareddau a ariennir gan y grant hwn yn wleidyddol ei bwriad, ei defnydd na鈥檌 chyflwyniad.

Ni fydd modd defnyddio鈥檙 grant i gefnogi nac i hyrwyddo gweithgareddau crefyddol.

Rydych yn gallu adnabod a helpu cwsmeriaid sydd 芒 phroblemau yn ymwneud 芒 gwasanaethau CThEF.

Sylwer: Bydd unrhyw geisiadau sy鈥檔 cael eu gwerthuso yn cael eu dilysu yn erbyn y meini prawf cymhwystra. Bydd gwybodaeth ariannol/gwybodaeth weithredol ychwanegol hefyd yn cael ei dilysu fel rhan o鈥檔 proses diwydrwydd dyladwy. Gall hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i wiriadau o ffynonellau data ehangach a gofyn am dystiolaeth bellach gennych chi. Mae CThEF yn cadw鈥檙 hawl i beidio 芒 chymeradwyo鈥檆h [cais am dendr] os na fyddwch yn cyflwyno tystiolaeth bellach cyn unrhyw ddyddiad cau a nodir, a/neu os yw gwiriadau diwydrwydd dyladwy pellach yn nodi diffyg cydymffurfio 芒鈥檙 meini prawf cymhwystra a amlinellir uchod.

Amserlen

Dyma amserlen y cylch cyllido:

  • sesiwn holi ac ateb byw gyda Th卯m Cyllid Grant CThEF yn ystod yr wythnos sy鈥檔 dechrau ar 24 Gorffennaf a鈥檙 wythnos sy鈥檔 dechrau 7 ar Awst
  • eich cyfle i wneud cais yw rhwng 24 Gorffennaf 2023 a 21 Awst 2023
  • bydd gwerthusiad yn digwydd rhwng 22 Awst 2023 a 29 Medi 2023
  • anfonir hysbysiad at ymgeiswyr llwyddiannus/aflwyddiannus erbyn diwedd mis Hydref 2023
  • bydd cytundebau grant yn eu lle a bydd y rhaglen yn dechrau ar 1 Ebrill 2024

Sut i wneud cais

Bydd yr hysbyseb a鈥檙 cais ar gael o ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023 ymlaen, a bydd eich cyfle i wneud cais yn dod i ben am 11.59pm ar ddydd Llun 21 Awst 2023.

Os ydych yn ffyddiog y gall eich sefydliad ddarparu鈥檙 gwasanaeth hwn a鈥檆h bod yn bodloni鈥檙 meini prawf cymhwystra fel y nodir uchod, bydd manylion pellach ar sut i wneud cais ar gael drwy鈥檙 gwasanaeth [dod o hyd i grant] (https://www.find-government-grants.service.gov.uk/) o 24 Gorffennaf ymlaen.

Gan fod y broses gwneud cais yn gystadleuol, ni fydd y t卯m yn gallu rhoi cyngor unigol ar sut i lenwi ceisiadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arweiniad hwn neu鈥檙 broses werthuso, defnyddiwch eventbrite i gadw lle yn un o鈥檔 ar 26 Gorffennaf ac 8 Awst 2023. Bydd manylion yr holl gwestiynau ac atebion ar gael ar wefan EventBrite.

Os oes gennych ymholiadau cyffredinol am y broses gwneud cais anfonwch e-bost atom. Er gwybodaeth, bydd y mewnflwch ar gael i dderbyn ymholiadau o ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023 ymlaen.

Dim ond un cais fesul sefydliad y byddwn yn ei dderbyn.

Mae鈥檙 hysbyseb a鈥檙 ffurflen gais ar gael yn Gymraeg. Anfonwch e-bost atom os hoffech gopi.

Telerau ar gyfer dyfarnu cyllid

Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn destun adolygiadau diwydrwydd dyladwy cynhwysfawr a chwiliadau cronfa ddata eraill, gan gynnwys dangosyddion risg twyll.

Bydd y telerau ar gyfer dyfarnu cyllid yn cael eu nodi mewn cytundeb grant sy鈥檔 cydymffurfio 芒 safonau Swyddfa鈥檙 Cabinet. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon copi o鈥檙 cytundeb atoch ar ddiwedd y broses ddethol. Bydd yn rhaid i chi ddarllen y cytundeb hwn, gwneud yn si诺r ei fod yn gywir, ei lofnodi a鈥檌 ddychwelyd er mwyn cael y cyllid.

Bydd y cytundeb grant yn nodi鈥檙 amserlen y cytunwyd arni ar gyfer anfonebu a thalu, a bydd y cyllid yn cael ei dalu bob chwarter fel 么l鈥揹dyledion.

Sut y byddwn yn eich helpu

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • neilltuo rheolwr cyfrif i chi o D卯m Ymgysylltu 芒 Chwsmeriaid a Rhanddeiliaid CThEF. Gallwch droi ato i drafod hynt eich gweithgareddau sy鈥檔 cael eu hariannu
  • trafod eich canlyniadau a鈥檆h methodoleg mesur arfaethedig, a chytuno arnynt gyda chi
  • adolygu鈥檙 data a gasglwch drwy gomisiynu ystadegau chwarterol gennych, yn ogystal ag adroddiadau canol a diwedd blwyddyn i ddangos yr hyn rydych yn ei gyflawni a鈥檆h canlyniadau disgwyliedig
  • monitro anfonebau yn unol ag amserlenni y cytunwyd arnynt, a chydweithio 芒 chi i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni o fewn y gyllideb y cytunwyd arni

Bydd CThEF yn trefnu i ymweld 芒 sefydliadau o bryd i鈥檞 gilydd drwy gydol y prosiect i ddadansoddi鈥檙 gwariant grant a chadarnhau eich bod yn gwario鈥檙 arian yn unol 芒鈥檙 cais gwreiddiol. Sylwer y bydd CThEF yn cadw鈥檙 hawl i dynnu arian yn 么l a/neu adfachu cyllid os canfyddir bod sefydliadau鈥檔 torri鈥檙 cytundeb grant ar unrhyw adeg yn ystod y rhaglen.

Nid yw CThEF o dan unrhyw rwymedigaeth i dderbyn unrhyw gais neu ddyfarnu cyllid ac ni fydd yn atebol am unrhyw gostau a achosir gan unrhyw ymgeisydd wrth gyflwyno cais, gan gynnwys os bydd y cais am gyllid yn cael ei derfynu, ei atal neu ei ddiwygio gan CThEF.