Level of penalty: code of practice (Welsh accessible)
Updated 1 December 2023
Cosbau sifil newydd- ddyfodiaid dirgel
Deddf Mewnfudo a Lloches 1999, Lefel Ddrafft o Gosb: Cod Ymarfer
Cyflwynwyd i鈥檙 Senedd yn unol ag adran 32A(3) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
Ionawr 2023
Mae鈥檙 cyhoeddiad hwn wedi鈥檌 drwyddedu dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored v3.0 ac eithrio lle nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i .
Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti bydd angen i chi gael caniat芒d gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.
Mae鈥檙 cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/official-documents.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau yngl欧n 芒鈥檙 cyhoeddiad hwn atom yn
BF.CECPT@homeoffice.gov.uk. ISBN 978-1-5286-3866-1 E02849352 01/23
Cyflwyniad
Sefydlwyd Cynllun Cosbau Sifil Newydd-ddyfodiaid Dirgel (鈥榶 Cynllun鈥�) o dan Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 fel y鈥檌 diwygiwyd (鈥榶 Ddeddf鈥�).Mae鈥檙 Cynllun yn creu dwy gosb.O dan adran 31A o鈥檙 Ddeddf, gall yr Ysgrifennydd Gwladol osod cosb ar berson cyfrifol am fethu 芒 sicrhau cerbyd nwyddau.O dan adran 32 o鈥檙 Ddeddf, gall yr Ysgrifennydd Gwladol osod cosb ar berson cyfrifol am gario newydd-ddyfodiad dirgel.Diffinnir personau cyfrifol fel perchnogion, llogwyr a gyrwyr (neu yn achos trelars ar wah芒n, perchnogion, llogwyr a gweithredwyr).
Nodir mesurau i鈥檞 cymryd gan bersonau i weithredu system effeithiol ar gyfer sicrhau cerbyd nwyddau ac ar gyfer atal cludo newydd-ddyfodiaid dirgel i鈥檙 Deyrnas Unedig yn Rheoliadau Atebolrwydd y Cludwyr 2002 fel y鈥檜 diwygiwyd (鈥榶 Rheoliadau鈥�)
Mae amddiffyniad yn erbyn gosod cosbau am fethu 芒 sicrhau cerbyd nwyddau o dan adran 31A o鈥檙 Ddeddf wedi鈥檌 nodi yn adran 31A(9). Yr amddiffyniad hwn yw bod y person cyfrifol wedi methu 芒 chymryd y camau a bennir mewn Rheoliadau oherwydd eu bod yn gweithredu o dan orfodaeth.
Nodir amddiffyniad yn erbyn gosod cosbau am gario newydd-ddyfodiad dirgel o dan adran 32 o鈥檙 Ddeddf yn adran 34. Yr amddiffyniad hwn yw bod y person cyfrifol neu un o鈥檌 weithwyr a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am ganiat谩u i鈥檙 newydd-ddyfodiad dirgel gael ei guddio yn gweithredu o dan orfodaeth.
Fodd bynnag, os nad yw person yn gallu dangos amddiffyniad yn erbyn gosod cosb, yna gall yr Ysgrifennydd Gwladol ofyn i鈥檙 person hwnnw dalu cosb.
Yn unol ag adran 32A(B1) o鈥檙 Ddeddf, wrth osod cosb o dan adran 31A neu wrth ystyried hysbysiad o wrthwynebiad o dan adran 35(4) mewn perthynas 芒 chosb o dan adran 31A, rhaid i鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol roi sylw i god ymarfer sy鈥檔 pennu materion sydd i鈥檞 hystyried wrth bennu swm y gosb. Cyhoeddir y cod ymarfer hwn yn unol ag adran 32A(A1) o鈥檙 Ddeddf. Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ystyried unrhyw faterion eraill y mae鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol yn meddwl eu bod yn berthnasol.
Yn unol ag adran 32A(2) o鈥檙 Ddeddf, wrth osod cosb o dan adran 32 neu wrth ystyried hysbysiad o wrthwynebiad o dan adran 35(4) mewn perthynas 芒 chosb o dan adran 32, rhaid i鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol roi sylw i god ymarfer sy鈥檔 pennu materion sydd i鈥檞 hystyried wrth bennu swm y gosb.Cyhoeddir y cod ymarfer hwn yn unol ag adran 32A(1) o鈥檙 Ddeddf.Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ystyried unrhyw faterion eraill y mae鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol yn meddwl eu bod yn berthnasol.
Mae鈥檙 cod ymarfer hwn yn nodi鈥檙 materion a bennir uchod ac a ddyroddir yn unol ag adran 32A (A1) ac adran 32A(1) o鈥檙 Ddeddf. Bydd y cod ymarfer presennol, 鈥楥osb Sifil: Deddf Mewnfudo a Lloches 1999: Lefel Cosb: Cod Ymarfer鈥� yn berthnasol i ddigwyddiadau a ddarganfuwyd cyn 13 Chwefror 2023.Bydd y cod ymarfer hwn yn berthnasol i ddigwyddiadau a ddarganfuwyd o 13 Chwefror 2023
Rhan un 鈥� adran 31a 鈥� methu 芒 sicrhau cerbyd nwyddau
Y lefel uchaf o gosb
Uchafswm y gosb am fethu 芒 sicrhau cerbyd nwyddau o dan adran 31A yw 拢6,000 y person cyfrifol am bob digwyddiad. Y gosb gyfanredol uchaf (cyfanswm y gosb uchaf sy鈥檔 daladwy gan bob person cyfrifol atebol gyda鈥檌 gilydd fesul digwyddiad adran 31A) yw 拢12,000.
Man cychwyn ar gyfer ystyried lefel y gosb
Defnyddir y lefel uchaf o gosb fel y man cychwyn wrth bennu atebolrwydd y person cyfrifol, yn amodol ar yr ystyriaethau canlynol sy鈥檔 ymwneud ag atebolrwydd blaenorol neu ymwneud 芒 digwyddiadau:
-
Os nad oes gan berson cyfrifol gofnod o atebolrwydd yn y pum mlynedd cyn y digwyddiad dan ystyriaeth, bydd uchafswm y gosb i鈥檞 defnyddio fel man cychwyn wrth benderfynu ar lefel ei gosb yn 拢1,500
-
Os oes person cyfrifol wedi cael un gosb yn ystod y pum mlynedd cyn dyddiad y digwyddiad dan ystyriaeth, 拢3,000 fydd y man cychwyn.
-
Os cyhoeddwyd un gosb neu fwy i berson cyfrifol yn ystod y pum mlynedd cyn dyddiad y digwyddiad dan ystyriaeth, y man cychwyn fydd 拢6,000.
Cymhwyso gostyngiadau i lefel man cychwyn y gosb
Yna, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried y materion canlynol wrth benderfynu ar unrhyw ostyngiad sydd i鈥檞 gymhwyso i lefel man cychwyn y gosb:
-
Cymhwysir gostyngiad o 50% i lefel man cychwyn y gosb os yw鈥檙 person cyfrifol yn aelod o鈥檙 Cynllun Achredu Cosbau Sifil.
-
Bydd gostyngiad o 50% arall yn cael ei gymhwyso i lefel man cychwyn y gosb os nad y person cyfrifol yw鈥檙 gyrrwr ac nid oedd yn bresennol yn ystod taith y cerbyd neu drelar ar wah芒n i鈥檙 Deyrnas Unedig, ond fe wnaethon nhw weithredu i sicrhau cydymffurfiaeth 芒鈥檙 Rheoliadau.
Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ystyried unrhyw faterion eraill y mae鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol yn meddwl eu bod yn berthnasol.
Atebolrwydd ar y cyd
Pan fo cosb yn cael ei gosod ar berson sy鈥檔 yrrwr cerbyd nwyddau yn unol 芒 chontract gyda pherchennog neu huriwr y cerbyd (p鈥檜n a yw contract cyflogaeth ai peidio), mae鈥檙 gyrrwr a鈥檙 perchennog neu鈥檙 huriwr yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y gosb a osodir ar y gyrrwr (p鈥檜n a yw cosb hefyd yn cael ei gosod ar y perchennog neu鈥檙 huriwr).
Rhan dau 鈥� adran 32 鈥� cario newydd-ddyfodiaid dirgel
Y lefel uchaf o gosb
Y lefel uchaf o gosb am gario newydd-ddyfodiaid dirgel o dan adran 32 yw 拢10,000 y person cyfrifol fesul newydd-ddyfodiaid dirgel.Y gosb gyfanredol uchaf i bob person cyfrifol fesul newydd-ddyfodiaid dirgel yw 拢20,000.
Man cychwyn ar gyfer ystyried lefel y gosb
Defnyddir y lefel uchaf o gosb fel y man cychwyn wrth bennu atebolrwydd y person cyfrifol, yn amodol ar yr ystyriaethau canlynol sy鈥檔 ymwneud ag atebolrwydd blaenorol neu ymwneud 芒 digwyddiadau:
-
Os nad oes gan berson cyfrifol gofnod o atebolrwydd yn y pum mlynedd cyn y digwyddiad dan ystyriaeth, bydd uchafswm y gosb i鈥檞 defnyddio fel man cychwyn wrth benderfynu ar lefel ei gosb yn 拢6,000.
-
Os oes person cyfrifol wedi cael un gosb yn ystod y pum mlynedd cyn dyddiad y digwyddiad dan ystyriaeth, 拢10,000 fydd y man cychwyn
Cymhwyso gostyngiadau i lefel man cychwyn y gosb
Yna, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried y materion canlynol wrth benderfynu ar unrhyw ostyngiad sydd i鈥檞 gymhwyso i lefel man cychwyn y gosb:
-
Rhoddir 50% o ostyngiad i lefel man cychwyn y gosb os yw鈥檙 person cyfrifol yn aelod o鈥檙 Cynllun Achredu Cosbau Sifil.
-
Bydd gostyngiad pellach o 50% yn cael ei gymhwyso i lefel man cychwyn y gosb os mai鈥檙 person cyfrifol yw鈥檙 gyrrwr, neu berson cyfrifol arall a oedd yn bresennol yn ystod taith y cerbyd neu drelar ar wah芒n i鈥檙 Deyrnas Unedig, ac fe wnaethon nhw gydymffurfio 芒鈥檙 Rheoliadau.
-
Bydd gostyngiad o 50% arall yn cael ei gymhwyso i lefel man cychwyn y gosb os nad y person cyfrifol yw鈥檙 gyrrwr ac nid oedd yn bresennol yn ystod taith y cerbyd neu drelar ar wah芒n i鈥檙 Deyrnas Unedig, ond fe wnaethon nhw weithredu i sicrhau cydymffurfiaeth 芒鈥檙 Rheoliadau.
Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ystyried unrhyw faterion eraill y mae鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol yn meddwl eu bod yn berthnasol.
Atebolrwydd ar y cyd
Pan fydd cosb yn cael ei gosod ar yrrwr sy鈥檔 weithiwr i berchennog neu huriwr y cerbyd, mae鈥檙 gweithiwr a鈥檙 cyflogwr yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y gosb a osodir ar y gyrrwr (p鈥檜n a yw cosb hefyd yn cael ei gosod ar y cyflogwr ai peidio).
Pan fo cosb yn cael ei gosod ar berson sy鈥檔 yrrwr cerbyd nwyddau yn unol 芒 chontract gyda pherchennog neu huriwr y cerbyd (p鈥檜n a yw contract cyflogaeth ai peidio), mae鈥檙 gyrrwr a鈥檙 perchennog neu鈥檙 llogwr yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y gosb a osodir ar y gyrrwr (p鈥檜n a yw cosb hefyd yn cael ei gosod ar y perchennog neu鈥檙 huriwr).
Rhan tri - prawf modd
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried ceisiadau gan bersonau cyfrifol i ddefnyddio prawf modd i leihau unrhyw lefel o gosb sy鈥檔 weddill.
I unigolion, bydd prawf modd yn ystyried incwm unigolion, gan gynnwys unrhyw incwm goramser, am y tri mis cyn y digwyddiad. Wrth benderfynu ar union lefel y gosb, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan yr unigolyn yngl欧n 芒鈥檜 hamgylchiadau ariannol personol, megis eu halldaliadau.
I gwmn茂au sy鈥檔 cael cosb, mae鈥檔 golygu y bydd prawf modd ar gael ar gyfer mentrau bach i ganolig eu maint (BBaCh). Man cychwyn y gostyngiad fydd y bydd lefel y gosb yn gostwng fel a ganlyn:
Maint busnes | Trosiant neu gyfanswm mantolen | Cyfrif pennau | Man cychwyn ar gyfer gostwng unrhyw lefel o gosb sy鈥檔 weddill |
---|---|---|---|
Micro | Llai na neu鈥檔 hafal i 鈧� 2 filiwn neu 鈧� 2 filiwn | Llai na 10 | Gostyngiad o 75% |
Bach | Llai na neu鈥檔 hafal i 鈧� 10 miliwn neu 鈧� 10 miliwn | Llai na 50 | Gostyngiad o 50% |
Canolig | Llai na neu鈥檔 hafal i 鈧� 50 miliwn neu 鈧� 43 miliwn | Llai na 250 | Gostyngiad o 25% |
Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ystyried unrhyw faterion eraill y mae鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol yn meddwl eu bod yn berthnasol.
Dylai personau cyfrifol ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol i nodi pam eu bod yn credu y dylid defnyddio prawf modd a鈥檙 hyn y maen nhw鈥檔 credu y dylai lefel y gosb fod. Rhaid darparu dogfennau ategol. Yn achos unigolion, gallai hyn fod ar ffurf slipiau cyflog neu ddatganiadau banc. I gwmn茂au, gallai gymryd ffurf mantolenni neu ddatganiadau o ffeithiau wedi鈥檜 llofnodi gan gyfarwyddwr.
Rhaid i ddogfennaeth nad yw yn Gymraeg na Saesneg ddod 芒 chyfieithiad ardystiedig i鈥檙 Gymraeg neu鈥檙 Saesneg. Gellir gwneud ceisiadau ar unrhyw bwynt hyd at y dyddiad y mae鈥檔 rhaid talu鈥檙 gosb neu鈥檙 cosbau. Ni fydd ceisiadau鈥檔 cael eu hystyried ar 么l y dyddiad hwn ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol yn 么l disgresiwn yr Ysgrifennydd Gwladol. Er gwaethaf unrhyw beth yn y cod ymarfer hwn, gall yr Ysgrifennydd Gwladol benderfynu, ar 么l ystyried cais, i beidio 芒 defnyddio prawf modd. Er enghraifft, lle nad oes digon o dystiolaeth yn cael ei gyflwyno ynghylch amgylchiadau ariannol yr unigolyn neu鈥檙 cwmni dan sylw neu lle nad yw鈥檙 dystiolaeth honno yn cefnogi gwneud unrhyw gais.
Rhan pedwar 鈥� enghreifftiau
Adran 31A 鈥� Methu 芒 sicrhau cerbyd nwyddau
Senario 1: Digwyddiad cyntaf i yrrwr, ail ddigwyddiad i berchennog, yn cynnwys HGV.Nid oedd y perchennog yn aelod o鈥檙 Cynllun Achredu
Cyrhaeddodd gyrrwr HGV Borthladd Calais a chafodd ei ddewis ar gyfer gwiriadau diogelwch gan Llu鈥檙 Gororau. Canfuwyd bod y cerbyd yn ansicr gan nad oedd drysau cefn y trelar wedi鈥檜 sicrhau gan glo, s锚l na dyfais ddiogelwch arall.Felly, nid oedd y gyrrwr wedi cydymffurfio 芒鈥檙 gofynion a osodir yn y Rheoliadau. Dyma oedd achos cyntaf y gyrrwr o atebolrwydd am fethu 芒 sicrhau cerbyd nwyddau.
Roedd y perchennog, fel person cyfrifol, hefyd yn atebol am gosb. Nid oedd y perchennog wedi sicrhau bod gan y cerbyd gloeon neu ddyfeisiau diogelwch eraill. Dyma oedd yr ail achos o鈥檙 perchennog yn denu atebolrwydd am fethu 芒 sicrhau cerbyd nwyddau. Nid oedd y perchennog yn aelod o鈥檙 Cynllun Achredu Cosbau Sifil Doedd dim ceisiadau am brawf modd.
Mae鈥檙 gyrrwr yn derbyn cosb o 拢1,500, cosb am ddigwyddiad cyntaf, heb ostyngiad yn lefel y gosb.
Mae鈥檙 perchennog yn derbyn cosb o 拢3,000 am ail ddigwyddiad, heb ostyngiad yn lefel y gosb, gyda chyd-atebolrwydd ychwanegol o 拢1,500 am gosb y gyrrwr.
Senario 2: Digwyddiad cyntaf i weithredwr, sy鈥檔 cynnwys trelar ar wah芒n ar ei ben ei hun.Roedd y gweithredwr yn aelod o鈥檙 Cynllun Achredu
Danfonodd gyrrwr sy鈥檔 gweithio i weithredwr sy鈥檔 aelod o gwmni鈥檙 Cynllun Achredu drelar ar wah芒n ar ei ben ei hun i borthladd Santander. Ar 么l cyrraedd y DU, dewiswyd y trelar ar ei ben ei hun ar gyfer gwiriadau diogelwch gan Llu鈥檙 Ffiniau. Canfuwyd bod gan y trelar linyn TIR wedi鈥檌 dorri. Felly, ni sicrhawyd yn effeithiol i gydymffurfio 芒鈥檙 gofynion a osodir yn y Rheoliadau.
Rhoddodd y gweithredwr gofnod o wiriadau i Llu鈥檙 Ffiniau, a oedd yn dangos bod y cerbyd yn ddiogel ar y pwynt lle pasiodd i reolaeth weithredol awdurdodau鈥檙 porthladd yn Santander. Cafodd y cofnod o wiriadau ei gymeradwyo gan awdurdodau鈥檙 porthladd i ddangos ei fod yn adlewyrchiad cywir o gyflwr diogel y trelar.
Nid yw鈥檙 gyrrwr yn atebol am gosb gan nad yw gyrwyr yn 鈥榖ersonau cyfrifol鈥� at ddibenion trelars ar wah芒n.
Mae鈥檙 gweithredwr yn derbyn cosb o 拢0, gan dderbyn gostyngiad o 50% yn eu lefel cosb am eu bod yn aelod o鈥檙 Cynllun Achredu, a gostyngiad pellach o 50% ar y swm cosb wreiddiol oherwydd y gallant ddangos eu bod yn cydymffurfio 芒鈥檙 Rheoliadau 鈥� sicrhawyd y trelar i bob pwrpas ar yr adeg y gwnaeth adael eu rheolaeth weithredol.
Adran 32 鈥� Cludo newydd-ddyfodiaid dirgel
Senario 1: Canfuwyd wyth newydd-ddyfodiad dirgel mewn cerbyd nwyddau ochr llen.Mae鈥檙 perchennog yn aelod o鈥檙 Cynllun Achrededig
Cyrhaeddodd cerbyd nwyddau ochr llen Borthladd Portsmouth a chafodd ei ddewis i gael gwiriadau gan Llu鈥檙 Gororau.Datgelodd y gwiriadau hyn fod wyth newydd-ddyfodiad dirgel wedi鈥檜 cuddio yn y llwyth y tu mewn i鈥檙 trelar. Roedd toriad mawr i do鈥檙 trelar, ac ni wnaeth y cofnod o wiriadau a gwblhawyd gan y gyrrwr ddatgan bod y to wedi鈥檌 wirio cyn i鈥檙 daith ddechrau, na chwaith bod y gyrrwr wedi gwirio鈥檙 gofod llwyth ar 么l y ddau stop olaf cyn cychwyn i鈥檙 Deyrnas Unedig. Felly, nid oedd y gyrrwr wedi cydymffurfio 芒鈥檙 gofynion a osodir yn y Rheoliadau. Doedd gan y gyrrwr ddim atebolrwydd blaenorol i gosb.
Mae鈥檙 perchennog, fel person cyfrifol, hefyd yn atebol am gosb.Fodd bynnag, roedd y perchennog wedi sicrhau bod gan y cerbyd gloeon neu ddyfeisiau diogelwch eraill ac roedd hefyd wedi cydymffurfio 芒 holl rannau eraill cymwys y Rheoliadau. Roedd y perchennog hefyd yn aelod o鈥檙 Cynllun Achredu.
Mae鈥檙 gyrrwr yn derbyn cosb o 拢48,000 (拢6, 000 am bob newydd-ddyfodiad dirgel).
Gofynnodd y gyrrwr am brawf modd, a allai leihau鈥檙 lefel hon o gosb ymhellach, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau a natur y dystiolaeth y maent yn ei chyflwyno i gefnogi eu cais.
Mae perchennog y cerbyd yn derbyn cosb o 拢0, gan ei fod wedi鈥檌 achredu ac fe gydymffurfiodd yn llawn 芒鈥檙 gofynion a nodir yn y rheoliadau.Serch hynny, maent yn parhau鈥檔 atebol ar y cyd ac yn unigol am gosb y gyrrwr Pe na bai perchennog y cerbyd wedi鈥檌 achredu, fe fydden nhw wedi derbyn cosb o 拢24,000 (拢3,000 y newydd-ddyfodiad dirgel), yn ogystal 芒 chael eu dal yn atebol ar y cyd ac yn unigol am gosb y gyrrwr.
Senario 2: Un newydd-ddyfodiad dirgel wedi鈥檌 ganfod yn locer bagiau coets.Nid oedd y perchennog yn aelod o鈥檙 Cynllun Achredu
Cyrhaeddodd coets Borthladd Coquelles a chafodd ei ddewis ar gyfer gwiriadau diogelwch gan Llu鈥檙 Ffiniau.Datgelodd y gwiriadau hyn un newydd-ddyfodiad dirgel yn y locer bagiau o dan y goets.
Dangosodd archwiliad pellach fod y clo diogelwch cynhenid ar yr adran fagiau wedi鈥檌 dorri.Dywedodd y gyrrwr ei fod wedi鈥檌 dorri pan gododd y goets oddi wrth ei gyflogwr, sef perchennog y cerbyd.
Felly, ni sicrhawyd y cerbyd yn effeithiol ac felly nid yw鈥檙 gyrrwr na鈥檙 perchennog wedi cydymffurfio 芒 Rheoliadau. Doedd gan y gyrrwr ddim atebolrwydd blaenorol, ond roedd gan y perchennog ddau ddigwyddiad blaenorol lle cawsant eu canfod yn atebol o fewn y pum mlynedd diwethaf.
Doedd dim ceisiadau am brawf modd. Mae鈥檙 gyrrwr yn derbyn cosb o 拢6,000.
Mae perchennog y cerbyd yn derbyn cosb o 拢10,000, gyda chyd-atebolrwydd ychwanegol o 拢6,000 am gosb y gyrrwr.
Senario 3: Dau newydd-ddyfodiad dirgel wedi鈥檜 canfod yn adran storio gefn cerbyd gwersylla
Cyrhaeddodd cerbyd gwersylla a oedd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion anfasnachol borthladd Dover a chafodd ei ddewis i gael gwiriadau gan Llu鈥檙 Ffiniau. Datgelodd y gwiriadau hyn ddau newydd- ddyfodiad dirgel wedi鈥檜 cuddio yn adran storio gefn y cerbyd. Mae archwiliad yn datgelu bod y clo cynhenid ar yr adran wedi ei orfodi i ganiat谩u mynediad heb awdurdod.Mae gyrrwr y cerbyd yn cadarnhau nad oedden nhw wedi gwirio鈥檙 adran gefn ar 么l eu stop olaf cyn cychwyn i鈥檙 Deyrnas Unedig, gan eu bod wedi ei chloi ac yn credu ei fod yn ddiogel. Trwy fethu 芒 chynnal gwiriad bod yr adran gefn yn dal yn ddiogel ac nad oedd mynediad heb awdurdod wedi鈥檌 ennill, roedd y gyrrwr wedi methu 芒 chydymffurfio 芒鈥檙 Rheoliadau. Nid oes gan y gyrrwr unrhyw atebolrwydd blaenorol i gosb sifil.
Mae鈥檙 gyrrwr yn derbyn cosb o 拢12,000, yn amodol ar ystyried prawf modd.