Strategaeth interim PecynUK
Cyhoeddwyd 27 Mehefin 2025
1. Crynodeb Gweithredol
Strategaeth interim yw hon: bydd strategaeth hirdymor yn cael ei lansio yn nes ymlaen yn 2025 i gynnwys
- Strwythurau a threfniadau hirdymor
- Datblygiadau mewn amcanion polisi ledled y Deyrnas Unedig dros y misoedd nesaf, er enghraifft, penodi Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (PRO) erbyn mis Mawrth 2026
Gweledigaeth
Lleihau pecynwaith diangen a chynyddu cylcholrwydd deunyddiau pecynwaith.
Diben
Amcan Gweinyddwr y Cynllun (PecynUK) yw gweithio ar draws pob un o鈥檙 pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig i roi Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 (Rheoliadau Pecynwaith 2024) ar waith [footnote 1].
Yn unol 芒 Rheoliadau Pecynwaith 2024, mae鈥檙 strategaeth hon wedi鈥檌 datblygu mewn cydweithrediad 芒 phedair Gwlad y Deyrnas Unedig. Hefyd, mae PecynUK wedi gweithio gyda Gr诺p Llywio dros dro Gweinyddwr y Cynllun[footnote 2].
Strategaeth interim yw hon ac mae鈥檔 nodi鈥檙 canlyniadau y mae PecynUK yn ceisio鈥檜 cyflawni trwy amlinellu nodau strategol PecynUK yn y blynyddoedd nesaf yn ystod ei gyfnod sefydlu, gan osod y sylfeini ar gyfer datblygu gweledigaeth a dull hirdymor PecynUK. Mae鈥� n nodi sut y bydd sefydlu PecynUK yn cyfrannu at economi cylchol trwy ysgogi defnyddio pecynwaith sy鈥檔 amgylcheddol gynaliadwy a galluogi rheolaeth effeithlon ac effeithiol ar becynwaith trwy wasanaethau gwastraff yr awdurdodau lleol.
Mae dull PecynUK hefyd yn pwysleisio cydweithio 芒 rhanddeiliaid gan sicrhau tryloywder ac atebolrwydd trwy鈥檙 broses i gyd. Hefyd, mae鈥檙 strategaeth yn manylu ar ein hymrwymiad i fesur y broses o gyflawni鈥檙 nodau strategol hyn a鈥檙 effeithiau amgylcheddol a chyflwyno adroddiadau ar y rhain, yn gyson 芒 pholis茂au a rennir ledled y Deyrnas Unedig ac ar lefel y gwledydd. Rydyn ni wedi ymrwymo鈥檔 llwyr i adolygu a diweddaru鈥檙 strategaeth lawn bob pum mlynedd i sicrhau ei bod yn dal yn berthnasol ac effeithiol.
Nod y strategaeth yw cyflawni鈥檙 manteision amgylcheddol a nodir yn y datganiad polisi ar y cyd [footnote 3] trwy nodau strategol sy鈥檔听 canolbwyntio ar ddeunyddiau pecynwaith, dulliau prosesu, a thrwy ddylanwadu ar ymddygiad dinasyddion, gan gydweithio 芒 phob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig a rhanddeiliaid yn y diwydiant. Rhywbeth sy鈥檔 allweddol i鈥檙 dull yma yw mecanweithiau fel modiwleiddio ffioedd, a meithrin cydweithredu ar draws y gadwyn werth, dan oruchwyliaeth model llywodraethu strwythuredig sy鈥檔 cynnwys pwyllgorau Gweinidogion a phwyllgorau technegol ymgynghorol.
Cefndir
Bydd polisi pEPR (Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith) y Deyrnas Unedig, ynghyd 芒 diwygiadau allweddol eraill yn y system lawn, yn trawsnewid y gadwyn werth pecynwaith trwy wneud i gynhyrchwyr dalu cost lawn rheoli eu gwastraff pecynwaith.
Bydd hyn yn gyrru newid tuag at ddeunydd pecynwaith ailgylchadwy, ailddefnyddiadwy a chyn lleied ohono ag y bo modd. Bydd cynhyrchwyr yn ffafrio dyluniad deunyddiau symlach, pecynwaith cyfrifol ac yn osgoi pecynwaith anodd ei ailgylchu er mwyn lleihau costau cydymffurfio.
Bydd brandiau, gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr pecynwaith yn ymateb 芒 deunyddiau a dyluniadau mwy cynaliadwy. Gallai manwerthwyr roi鈥檙 flaenoriaeth i gynhyrchion 芒 phecynwaith sy鈥檔 creu llai o effaith, ac ymhen amser bydd labeli cliriach yn helpu defnyddwyr i ailgylchu鈥檔 gywir.
Bydd y polisi hefyd yn ariannu gwasanaethau ailbrosesu ac ailgylchu mwy effeithlon ac effeithiol ar draws yr awdurdodau lleol, gan hybu cyfraddau ailgylchu uwch a lleihau halogiad. Trwy gysoni cyfrifoldeb ariannol ag effaith amgylcheddol, mae pEPR yn hybu economi cylchol 鈥� gan dorri gwastraff, lleihau allyriadau, a chadw deunyddiau ar waith am gyfnod hirach.
Mae PecynUK yn cyflawni鈥檙 canlynol ar ran pedair gwlad y Deyrnas Unedig:
- Cyfraddau ffioedd Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith (pEPR) ar gyfer deunyddiau pecynwaith cartrefi
- Casglu ffioedd gan gynhyrchwyr dan rwymedigaeth sy鈥檔 cyflenwi pecynwaith cartrefi i鈥檙 farchnad
- Taliadau i鈥檙 awdurdodau lleol i dalu cost effeithlon ac effeithiol rheoli gwastraff pecynwaith cartrefi gan gymell cynnydd ym maint ac ansawdd yr ailgylchu yr un pryd
- Ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus a gwybodaeth i sbarduno gwell ymddygiad
Wrth gyflawni鈥檙 swyddogaethau hyn, byddwn yn gweithredu cynllun sy鈥檔 datblygu鈥檙 economi cylchol ac yn darparu gwerth da am arian i gynhyrchwyr yr un pryd 芒 sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau ailgylchu a gwaredu effeithlon ac effeithiol. Bydd PecynUK hefyd yn ceisio dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr, mewn cydweithrediad 芒 phartneriaid, trwy gyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus a gwybodaeth effeithiol sy鈥檔 annog pobl i waredu gwastraff pecynwaith yn gywir.
Wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan Reoliadau Pecynwaith 2024, rhaid i PecynUK weithredu yn unol 芒鈥檙 angen i hwyluso鈥檙 dasg o gyflawni鈥檙 manteision amgylcheddol a nodir yn natganiad polisi鈥檙 pedair gwlad.听Y manteision amgylcheddol hyn yw:
- Defnyddio pecynwaith amgylcheddol gynaliadwy
- Atal deunydd pecynwaith rhag dod yn wastraff
- Cynnydd yn yr ailddefnyddio ar becynwaith a fformatau pecynwaith y gellir eu hailddefnyddio
- Cynnydd yn nifer ac ansawdd y deunyddiau pecynwaith sy鈥檔 cael eu hailgylchu.
- Cynnydd yn y defnydd o ddeunydd wedi鈥檌 ailgylchu mewn pecynwaith newydd
- Gostyngiad yn y deunydd pecynwaith a roddir ar y farchnad
Mae pedair gwlad y Deyrnas Unedig o鈥檙 farn bod cyflawni鈥檙 canlyniadau hyn, trwy PecynUK, yn ganolog i gefnogi鈥檙 trawsnewid i economi cylchol, gan gynyddu鈥檙 effeithlonrwydd carbon sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chylch bywyd deunyddiau pecynwaith i鈥檙 eithaf yr un pryd.
2. Nodau blwyddyn 1
Mae鈥檙 nodau canlynol wedi鈥檜 nodi i鈥檞 cyflawni ym mlwyddyn gyntaf y strategaeth.
Cyflawni鈥檙 canlyniadau allweddol a amlinellir yn y datganiad polisi ar y cyd ar gyfer y Deyrnas Unedig ar Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith
- Datganiad ar ffioedd sylfaenol cynhyrchwyr a modiwleiddio
- Rheolaeth effeithlon ac effeithiol yr awdurdodau lleol ar wastraff deunydd pecynwaith
- Ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus
- Mesur cynnydd ac adrodd arno
Penodi sefydliad cyfrifoldeb cynhyrchwyr
Bydd PecynUK yn penodi Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (PRO) i gyflawni sawl swyddogaeth allweddol ar ei ran. Er y bydd y PRO yn datblygu ei strategaeth ei hun, fe fydd yn dal yn cyd-fynd 芒 chyfeiriad strategol PecynUK.
Penodi uwch staff
Bydd penodiadau allweddol yn eu lle i arwain sefydliad PecynUK, sef y Prif Swyddog Gweithredol, y Prif Swyddog Strategaeth a鈥檙 Prif Swyddog Gweithredu. 听
Pwyllgorau llywodraethu a phwyllgorau technegol
Mae fframwaith llywodraethu pedair gwlad ar gyfer PecynUK wedi鈥檌 ddatblygu i oruchwylio holl weithgareddau PecynUK. Mae鈥檙 strwythur llywodraethu hwn yn cynnwys Bwrdd Llywio o Weinidogion o鈥檙 Pedair Gwlad (FNMSB), Pwyllgor Gweithredol Gweinyddwr y Cynllun (SA ExCo) a Phwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Gweinyddwr y Cynllun (SA ARAC). Bydd pob un o鈥檙 cyrff hyn yn sicrhau r么l gyfartal i bob un o鈥檙 pedair gwlad ym mhenderfyniadau PecynUK.
Bydd SA ExCo hefyd yn cael ei gefnogi wrth wneud penderfyniadau gan gyrff cynghori o arbenigwyr sy鈥檔 cynrychioli鈥檙 gadwyn werth pecynwaith, gan gynnwys Gr诺p Llywio Gweinyddwr y Cynllun a fydd yn cynghori ar ystyriaethau strategol cyflawni鈥檙 cynllun, a chyrff cynghori penodol a fydd yn canolbwyntio ar Fethodoleg Asesu Ailgylchu, Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd, a Chyfathrebu a Newid Ymddygiad.
Methodoleg asesu ailgylchadwyedd (RAM)
Cydweithio 芒鈥檙 diwydiant i ddefnyddio modiwleiddio, ffioedd pEPR a鈥檙 Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM) i hybu鈥檙 defnydd o ddeunydd pecynwaith mwy cynaliadwy a sbarduno newid yn y gadwyn werth pecynwaith, gan sicrhau bod digon o le ar gyfer arloesi mewn pecynwaith yr un pryd.
Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd (E&E)
Cyflawni cynlluniau peilot y Broses Camau Gwella (IAP) ar draws y pedair gwlad i wella a mireinio prosesau鈥檙 dyfodol. Amcan y cynllun peilot yw deall sut y bydd yr IAP yn gweithio yn ymarferol. Hoffai PecynUK sicrhau bod yr IAP yn gweithio gyda pholis茂au perfformiad gwastraff a phrosesau llywodraethu presennol pob un o鈥檙 gwledydd. Mae canlyniadau鈥檙 cynllun peilot yn cynnwys achos amlinellol strategol, camau gwella penodol a gwybodaeth am fetrigau鈥檙 awdurdodau lleol.
Gweithio鈥檔 agos ar draws y pedair gwlad hefyd i ddod ag asesiadau E&E 2028 ymlaen o bosibl.
Bydd rhagor o ymgysylltu 芒鈥檙 diwydiant ar fesurau a metrigau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn gynnar yn 2026, yn dilyn ymgysylltu cychwynnol a datblygu polisi yn ystod hydref 2025.
Cysoni 芒 pholis茂au a strategaethau鈥檙 Llywodraethau Datganoledig
Bydd strategaeth PecynUK yn cymryd i ystyriaeth ddiwygiadau, polis茂au a deddfwriaeth ar yr economi cylchol ym mhob gwlad yn y Deyrnas Unedig i sicrhau eu bod yn gyson 芒鈥檌 gilydd.
3. Strategaeth hirdymor ar un tudalen
Gweledigaeth
Lleihau pecynwaith diangen a chynyddu cylcholrwydd deunyddiau pecynwaith
Diben
Diben PecynUK yw gweithio ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig i gynyddu cynaliadwyedd pecynwaith a lleihau ei effaith amgylcheddol. Bydd PecynUK yn gweithredu mewn modd effeithiol ac effeithlon i gyflawni鈥檙 canlyniadau hyn.
Pileri鈥檙 canlyniadau
- Deunyddiau pecynwaith: Sefydlu marchnad pecynwaith gynaliadwy sy鈥檔 lleihau pecynwaith diangen, sy鈥檔 sicrhau ailgylchadwyedd, ac sy鈥檔 gyson 芒 safonau a manylebau鈥檙 farchnad
- Casglu a rheoli pecynwaith yn well: Optimeiddio鈥檙 gadwyn werth gyfan i weithredu fel system integredig, effeithiol sy鈥檔 cyflawni鈥檙 effeithlonrwydd mwyaf posibl ym mhob cam
- Ymddygiad pobl a systemau: Meithrin diwylliant o gydweithredu ar draws y gadwyn werth er mwyn sbarduno newid ymddygiad systemig, gan rymuso dinasyddion i leihau鈥檙 defnydd ar becynwaith a gwella鈥檙 broses o wahanu gwastraffoedd
Nodau strategol
- Deunyddiau pecynwaith:
- 1.1: Optimeiddio鈥檙 defnydd ar becynwaith
- 1.2: Ehangu鈥檙 defnydd ar becynwaith ail-lenwi ac ailddefnyddio
- 1.3: Gwneud pecynwaith yn hawdd i鈥檞 ailgylchu
2/. Casglu a rheoli pecynwaith yn well:
2.1: Casglu mwy o becynwaith
2.2: Didoli deunyddiau鈥檔 well i鈥檞 hailgylchu, eu hailddefnyddio a鈥檜 hail-lenwi
2.3: Prosesu鈥檔 effeithlon
3. Ymddygiad pobl a systemau:
- 3.1: Annog dinasyddion i ddefnyddio llai o becynwaith a didoli a gwahanu鈥檔 well
- 3.2: Cynyddu atebolrwydd ar draws y gadwyn werth
Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs)
- Categoreiddio RAM yn dod yn fwyfwy gwyrdd
- Gwell gwerth am arian i鈥檙 cynhyrchwyr
- Cywirdeb a phrydlondeb adroddiadau鈥檙 cynhyrchwyr yn fwy na 95% erbyn 2030
- Cyfanswm tunelledd y pecynwaith cartrefi a roddir ar y farchnad yn gostwng
- Rheolaeth wastraff yr awdurdodau lleol yn dod yn fwy effeithiol
- Cynnydd yn y cyfraddau ailgylchu pecynwaith ar draws pob un o鈥檙 pedair gwlad
-
听鈫�
-
I weld dibenion ac aelodaeth SASG - Ein llywodraethiant - PecynUK - 188体育听鈫�
-
Datganiad polisi ar y cyd ar gyfer y Deyrnas Unedig ar Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith - 188体育听鈫�