Gwneud cais am orchymyn diogelu rhag cam-drin domestig mewn llys teulu
Sut i wneud cais i lys teulu am orchymyn sy鈥檔 eich diogelu chi neu rywun arall rhag cam-drin domestig, neu鈥檙 risg o gam-drin domestig.
Yn berthnasol i Loegr
Gorchmynion diogelu rhag cam-drin domestig
Gall gorchymyn diogelu rhag cam-drin domestig (DAPO):
- atal rhywun rhag dod i鈥檆h cartref neu鈥檔 agos ato
- penderfynu pwy all aros yn eich cartref neu ddychwelyd iddo
- gorchymyn bod yr unigolyn yn mynychu rhaglen newid ymddygiad
- gorchymyn bod yr unigolyn yn gwisgo tag electronig i wirio eu bod yn cadw at amodau鈥檙 gorchymyn
Nid oes rhaid talu ffi鈥檙 llys i wneud cais.
Os oes gennych achos sifil parhaus mewn llys sirol gyda鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt, rhaid i chi wneud cais i lys sirol yn lle hynny.
Darllen y cyfarwyddyd ar gyfer gwneud cais am DAPO mewn llys sirol
Pwy all wneud cais
Gallwch ond wneud cais am DAPO os yw鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt yn byw yn:
- Manceinion Fwyaf
- bwrdeistrefi Croydon, Bromley neu Sutton yn Llundain
- Hartlepool, Middlesbrough, Redcar, Cleveland a Stockton-on-Tees
- Gogledd Cymru (Ynys M么n, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam)
Os nad yw鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt yn byw yn un o鈥檙 ardaloedd hyn, gallwch聽wneud cais am orchymyn rhag molestu neu orchymyn anheddu聽yn lle hynny.
Ble i wneud cais
Dim ond yn y llysoedd teulu canlynol y gallwch wneud cais:
Os yw鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt yn byw yn Sutton, gallwch wneud cais naill ai yn Croydon neu Bromley.
Efallai y bydd rhaid i chi deithio i un o鈥檙 ardaloedd hyn i fynychu gwrandawiad, hyd yn oed os nad ydych yn byw yno.
Os na allwch deithio i un o鈥檙 ardaloedd hyn, gallwch聽wneud cais am orchymyn rhag molestu neu orchymyn anheddu yn eich llys teulu lleol yn lle hynny.
Sut i wneud cais
Bydd arnoch angen llenwi:
Os ydych yn gwneud cais ar ran rhywun arall, bydd angen i chi hefyd lenwi聽ffurflen DA2.
Cadw eich gwybodaeth yn gyfrinachol
Os nad ydych am i鈥檆h manylion cyswllt chi neu fanylion cyswllt eich plentyn gael eu rhannu 芒鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt, ni ddylech eu cynnwys yn eich cais.
Bydd angen i chi lenwi ffurflen C8聽a鈥檌 hanfon i鈥檙 llys gyda鈥檆h cais.
Cwblhau datganiad tyst ategol
Gallwch ddefnyddio鈥檙 templed ar gyfer datganiad tyst ategol sydd yn聽ffurflen DA1.
Mae鈥檙 templed yn eich helpu i ddarparu鈥檙 wybodaeth sydd ei hangen ar y llys.
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio鈥檙 templed os byddai鈥檔 well gennych ysgrifennu eich datganiad eich hun. Fodd bynnag, rhaid i chi ddarllen y canllawiau yn y templed.
Os byddwch yn dewis ysgrifennu eich datganiad tyst ategol eich hun, rhaid iddo gynnwys y datganiad gwirionedd a ganlyn, eich llofnod a鈥檙 dyddiad:
Deallaf y gellir dwyn achos dirmyg llys yn erbyn unrhyw un sy鈥檔 gwneud datganiad anwir, neu sy鈥檔 achosi i ddatganiad anwir gael ei wneud mewn dogfen a ddilysir gan ddatganiad gwirionedd heb gredu鈥檔 onest ei fod yn wir. Rwy鈥檔 credu bod y ffeithiau a nodir yn y ffurflen hon, ac ar unrhyw ddalennau parhau, yn wir.
Cyflwyno鈥檙 cais neu鈥檙 gorchymyn
Ar 么l i鈥檙 llys dderbyn eich cais, rhaid rhoi copi i鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt (oni bai bod y llys wedi cytuno i wrando ar eich achos heb roi gwybod iddynt). Gelwir hyn yn 鈥榗yflwyno cais鈥�.
Os bydd y llys yn caniat谩u gorchymyn, rhaid cyflwyno鈥檙 gorchymyn i鈥檙 unigolyn rydych angen cael eich diogelu rhagddynt.
Ni ddylech gyflwyno鈥檙 cais neu鈥檙 gorchymyn eich hun. Os nad oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol, rhaid i chi hefyd lenwi ffurflen D89聽i ofyn i swyddog llys gyflwyno鈥檙 cais neu鈥檙 gorchymyn. Rhaid i chi anfon y ffurflen hon i鈥檙 llys gyda鈥檆h cais.
Unwaith y bydd y cais neu鈥檙 gorchymyn wedi鈥檌 gyflwyno, rhaid i chi lenwi ffurflen DA415聽i ddweud wrth y llys:
- i bwy y cyflwynwyd y cais gorchymyn
- yr hyn y cyflwynwyd iddynt
Amrywio neu ddiddymu gorchymyn
Dim ond os yw dal mewn grym y gallwch wneud cais i amrywio neu ddiddymu DAPO.
Rhaid i chi lenwi聽ffurflen DA3聽a鈥檌 hanfon i鈥檙 llys teulu a wnaeth y gorchymyn.
Nid oes rhaid talu ffi鈥檙 llys i wneud cais.
Ble i anfon y ffurflenni
Anfon drwy e-bost
Gallwch anfon eich ffurflenni wedi鈥檜 llenwi ac unrhyw ddogfennau ategol i鈥檙 llys trwy e-bost.
Rhaid i chi atodi un copi o bob ffurflen y byddwch yn ei hanfon.
Chwilio am fanylion cyswllt y llys
Anfon drwy鈥檙 post neu ddanfon yn bersonol
Gallwch anfon eich ffurflenni wedi鈥檜 llenwi ac unrhyw ddogfennau ategol i鈥檙 llys drwy鈥檙 post neu eu danfon yn bersonol.
Os nad oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol, rhaid i chi bostio neu ddanfon un copi o bob dogfen rydych yn ei hanfon.
Os oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol, rhaid i chi bostio neu ddanfon 3 chopi o bob dogfen rydych yn ei hanfon. Os ydych yn gofyn i鈥檙 llys orchymyn rhywbeth yn ymwneud ag eiddo, yna rhaid i chi bostio neu ddanfon 4 copi. Gallwch ofyn i鈥檆h cynrychiolydd cyfreithiol wneud cop茂au.
Chwilio am fanylion cyswllt y llys
Cael cymorth
Mae Cyngor ar Bopeth y Llysoedd Barn Brenhinol (RCJ) yn cynnig cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig. Gallant eich helpu i ddod o hyd i gynghorwyr cyfreithiol i wneud y canlynol:
- trafod eich opsiynau gyda chi
- eich helpu gyda鈥檆h cais
Rhestr o holl ffurflenni DAPO y llys teulu
- Gwneud cais am orchymyn diogelu rhag cam-drin domestig mewn llys teulu: Ffurflen DA1
- Gofyn am ganiat芒d i wneud cais am orchymyn diogelu rhag cam-drin domestig ar ran rhywun arall: Ffurflen DA2
- Gwneud cais i amrywio neu ddiddymu gorchymyn diogelu rhag cam-drin domestig mewn llys teulu: Ffurflen DA3
- Tystysgrif cyflwyno ar gyfer gorchmynion diogelu rhag cam-drin domestig mewn llys teulu: Ffurflen DA415