Anfon diweddariadau chwarterol

Sut a phryd i anfon diweddariad-au chwarterol, yn seiliedig ar eich cyfnod cyfrifyddu.

Bob 3 mis, bydd eich meddalwedd sy鈥檔 cydweddu yn adio eich cofnodion digidol at ei gilydd ar gyfer pob busnes sydd gennych, a hynny er mwyn creu cyfansymiau ar gyfer pob categori incwm a thraul. Gelwir y crynodebau hyn yn 鈥榙iweddariadau chwarterol鈥�.鈥�

Nid oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau treth neu gyfrifyddu cyn anfon diweddariad.

Mae angen i chi anfon diweddariadau chwarterol ar gyfer pob ffynhonnell incwm hunangyflogaeth ac eiddo atom bob 3 mis. Mae鈥檙 arweiniad hwn yn nodi鈥檙 cyfnodau diweddaru a鈥檙 dyddiadau cau. Bydd eich meddalwedd yn rhoi gwybod i chi pryd i anfon diweddariadau a sut i wneud hynny.

Mae鈥檙 cyfnodau y bydd eich diweddariadau chwarterol yn eu cwmpasu wedi newid i adlewyrchu dyluniad newydd symlach, a fydd yn ei gwneud yn haws i chi gywiro gwallau drwy gydol y flwyddyn dreth. Bydd hyn yn golygu nad oes angen i chi ailanfon y diweddariad chwarterol gwreiddiol ar 么l gwneud cywiriad.