Hysbysiadau Diogelu Rhag Cam-drin Domestig (DAPN) a Gorchmynion Diogelu Rhag Cam-drin Domestig (DAPO)
Rhagor o wybodaeth am sut y gall DAPN a DAPO helpu i鈥檆h diogelu os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ddioddefwr cam-drin domestig.
Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 a gofynnwch am yr heddlu. Os na allwch siarad a鈥檆h bod yn defnyddio ff么n symudol, pwyswch 55 i drosglwyddo鈥檆h galwad i鈥檙 heddlu. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am sut i adnabod cam-drin domestig a chael cymorth yn:聽Cam-drin domestig: sut i gael cymorth
Mae鈥檙 ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth am beth yw Hysbysiadau Diogelu Rhag Cam-drin Domestig (DAPN) a Gorchmynion Diogelu Rhag Cam-drin Domestig (DAPO), sut y gallwch wneud cais am DAPO, a beth mae鈥檔 ei olygu os gwneir cais am, neu gwneir DAPN neu DAPO ar eich rhan. Mae鈥檙 gorchmynion hyn yn cael eu treialu mewn rhai ardaloedd yn unig ar hyn o bryd 鈥� gwiriwch Ble gallaf wneud cais am DAPO i weld a yw hyn yn berthnasol i chi, a beth allwch chi ei wneud os ydych yn byw yn rhywle arall.
Os ydych yn ddioddefwr cam-drin domestig neu鈥檔 adnabod rhywun arall sydd, efallai y gallwch wneud cais am DAPO. Os ydych yn ddioddefwr, efallai y gwneir cais am, neu gwneir DAPO ar eich rhan, er enghraifft gan yr heddlu, gan berthynas, gweithiwr cymdeithasol neu gan y llys yn ystod achos llys parhaus.
惭补别鈥檙听Cod Dioddefwyr yn esbonio eich hawliau fel dioddefwr trosedd.
Beth yw cam-drin domestig?
Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn dweud y gall ymddygiad camdriniol gynnwys unrhyw un o鈥檙 canlynol: cam-drin corfforol neu rywiol; ymddygiad treisgar neu fygythiol; ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol; cam-drin economaidd; cam-drin seicolegol, emosiynol neu gam-drin arall.
Beth yw Hysbysiad Diogelu Rhag Cam-drin Domestig (DAPN)?
Mae DAPN yn cael ei roi gan yr heddlu i gyflawnwr i ddiogelu dioddefwyr pob math o gam-drin domestig ar unwaith. Gellir cyhoeddi DAPN pan fo swyddog heddlu o鈥檙 farn bod sail resymol dros gredu bod unigolyn wedi cam-drin unigolyn arall sy鈥檔 16 oed neu鈥檔 h欧n. Rhaid i bob cyflawnwr fod yn 18 oed neu鈥檔 h欧n. Rhaid i鈥檙 dioddefwr a鈥檙 cyflawnwr hefyd fod 芒 chysylltiad personol 鈥� er enghraifft, eu bod yn briod neu鈥檔 bartneriaid sifil neu wedi bod yn briod neu鈥檔 bartneriaid sifil, mewn perthynas neu wedi bod mewn perthynas neu鈥檔 perthyn. Mae DAPN yn cynnwys cyfarwyddiadau penodol y mae鈥檔 rhaid i鈥檙 cyflawnwr eu dilyn, megis aros i ffwrdd o gartref dioddefwr.
Bydd yr heddlu鈥檔 ystyried a oes angen DAPN i ddiogelu鈥檙 dioddefwr rhag cam-drin domestig pellach neu鈥檙 risg o gam-drin domestig. 聽Os bydd yr heddlu鈥檔 rhoi DAPN, byddan nhw hefyd yn gwneud cais am Orchymyn Diogelu Rhag Cam-drin Domestig (DAPO). Bydd cais DAPO fel arfer yn cael ei wrando gan y llys ynadon o fewn 48 awr.
Mae DAPN yn gyfreithiol rwymol, a gall methu 芒 dilyn ei amodau arwain at arestio鈥檙 cyflawnwr a鈥檌 ddwyn gerbron llys ynadon.
Beth yw Gorchymyn Diogelu Rhag Cam-drin Domestig (DAPO)?
Gall y llys wneud DAPO i ddiogelu dioddefwyr rhag pob math o gam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin nad yw鈥檔 gorfforol ac ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol. Gall llys wneud DAPO yn ystod achosion llys troseddol, teulu neu sifil parhaus. Gall ceisiadau hefyd gael eu gwneud gan yr heddlu, gan ddioddefwr ei hun neu gan rywun nad yw鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 mater yn uniongyrchol, a elwir yn 鈥榙rydydd parti鈥�. Gallai trydydd parti gynnwys aelod o鈥檙 teulu, ffrind, neu weithiwr cymdeithasol.
Mae DAPOs yn orchmynion diogelu a gellir eu defnyddio i osod cyfyngiadau ac amodau ar gyflawnwr cam-drin domestig.
- Mae gwaharddiad yn rheol sy鈥檔 atal rhywun rhag gwneud rhywbeth. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys atal cyflawnwr rhag dod o fewn pellter penodol i gartref dioddefwr ac/neu unrhyw eiddo penodol, megis gweithle.
- Bydd DAPO bob amser yn cynnwys gofynion hysbysu gorfodol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gyflawnwr sy鈥檔 destun DAPO roi ei enw a鈥檌 gyfeiriad i鈥檙 heddlu a dweud wrth yr heddlu am unrhyw newidiadau i鈥檙 rhain. Mae鈥檔 ofynnol i鈥檙 cyflawnwr sy鈥檔 destun DAPO roi ei enw a鈥檌 gyfeiriad i鈥檙 heddlu am y tro cyntaf o fewn 3 diwrnod i DAPO gael ei wneud, ac ar 么l hynny, o fewn 3 diwrnod i unrhyw newidiadau i鈥檙 rhain.
- Gall y llys benderfynu gosod gofyniad monitro electronig (a elwir yn 鈥榯agio鈥�) ar gyflawnwr i fonitro a yw鈥檔 dilyn rhai rheolau鈥檙 DAPO, er enghraifft y rhai sy鈥檔 atal cyflawnwr rhag dod o fewn pellter penodol i gartref y dioddefwr.
- Gall y llys hefyd benderfynu gosod gofyniad cadarnhaol sy鈥檔 galw ar y cyflawnwr i gymryd camau cadarnhaol, megis mynychu rhaglen newid ymddygiad.
Pa mor hir y mae DAPO yn para?
Nid oes gan DAPO isafswm neu uchafswm o ran hyd. Bydd y llys yn ystyried pa mor hir y mae angen i DAPO bara i ddiogelu dioddefwr rhag camdriniaeth neu鈥檙 risg o gamdriniaeth a bydd yn nodi hyd y gorchymyn pan fydd yn gwneud DAPO.
Beth sy鈥檔 digwydd os na chaiff amodau鈥檙 DAPO eu dilyn?
Mae DAPO yn gyfreithiol rwymol ac mae torri unrhyw rai o鈥檌 reolau gyfystyr 芒 thoriad. Mae torri DAPO yn drosedd a dylid ei adrodd bob amser. Os ydych yn ymwybodol bod unrhyw un o amodau neu reolau DAPO wedi鈥檜 torri, dylech gysylltu 芒鈥檙 heddlu.
Pan adroddir am dorri DAPO, bydd yr heddlu yn ymchwilio iddo ac yn gweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron i benderfynu a fydd yr achos yn un troseddol. Bydd yr heddlu yn rhoi gwybod i chi sut mae鈥檙 achos yn mynd yn ei flaen.
Os bydd cyflawnwr yn torri amodau eu 鈥榯ag鈥� electronig, er enghraifft drwy fynd i mewn i ardal y maent wedi鈥檜 gwahardd ohoni, bydd yr heddlu鈥檔 cael rhybudd gan y darparwr monitro electronig erbyn 10:00am y diwrnod canlynol. Bydd yr heddlu wedyn yn penderfynu pa gamau i鈥檞 cymryd. Ni fydd hyn yn digwydd ar unwaith 鈥� os ydych mewn perygl, dylech ffonio 999.
Pan fyddwch yn rhoi gwybod am doriad, bydd yr heddlu yn rhoi rhif cyfeirnod trosedd i chi. Gwnewch nodyn ohono rhag ofn y byddwch ei angen yn hwyrach ymlaen.
Sut ydw i鈥檔 gwneud cais am DAPO?
Mae sawl ffordd y gallwch wneud cais am DAPO neu ofyn amdano:
- Gallwch adrodd am gam-drin domestig i鈥檙 heddlu a gofyn iddynt roi DAPN neu wneud cais am DAPO ar eich rhan. Bydd yr heddlu yn penderfynu p鈥檜n a fydd angen DAPN yn gyntaf.
- Gallwch wneud cais am DAPO eich hun yn y llys teulu. Bydd arnoch angen llenwi ffurflen llys N244 i wneud hyn. Gallwch ddod o hyd i鈥檙 ffurflen a rhestr o鈥檙 llysoedd sy鈥檔 derbyn ceisiadau yn:聽Gwneud cais am orchymyn diogelu rhag cam-drin domestig mewn llys teulu:
- Os ydych chi a鈥檙 unigolyn rydych yn ceisio eich diogelu rhagddynt eisoes yn gysylltiedig ag achos llys teulu arall, gallwch hefyd wneud cais yn uniongyrchol i鈥檙 llys hwnnw, gan ddefnyddio ffurflen DA1. Os ydych yn cymryd rhan mewn achos sifil, darganfyddwch聽sut i wneud cais mewn llys sirol.
- Os oes achos troseddol yn erbyn y cyflawnwr am drosedd arall a effeithiodd arnoch chi, gall y llys hefyd wneud DAPO er eich diogelwch, ni waeth p鈥檜n a yw鈥檙 cyflawnwr wedi鈥檌 gael yn euog neu鈥檔 ddieuog am y drosedd honno.
Gall 鈥榯rydydd parti鈥� hefyd wneud cais am DAPO ar eich rhan. Mae 鈥榯rydydd parti鈥� yn rhywun nad yw鈥檔 ymwneud yn uniongyrchol 芒鈥檙 cam-drin. Er enghraifft, gallai hyn fod yn aelod o鈥檙 teulu, yn ffrind, neu鈥檔 weithiwr cymdeithasol. Yn ogystal ag adrodd am gam-drin domestig i鈥檙 heddlu, gall trydydd parti wneud cais i lys teulu peilot, cyn belled 芒 bod ganddynt ganiat芒d gan y llys. I wneud hyn, bydd angen i drydydd parti lenwi ffurflenni聽DA1 (Cais am Orchymyn Diogelu Rhag Cam-drin Domestig)听补听DA2 (Cais am ganiat芒d i wneud cais am Orchymyn Diogelu Rhag Cam-drin Domestig).
Gallwch geisio unrhyw ofyniad a all gael ei ystyried yn angenrheidiol i鈥檆h diogelu rhag cam-drin domestig neu鈥檙 risg o gam-drin domestig. Bydd y llys yn ystyried y ceisiadau hyn wrth wneud DAPO.
A oes unrhyw gost yn gysylltiedig 芒 gwneud cais am DAPO?
Nid oes rhaid i ddioddefwyr dalu ffi llys i wneud cais am DAPO.
Ble gallaf wneud cais am DAPO?
Dim ond mewn rhai ardaloedd penodol y mae DAPNs a DAPOs ar gael ar hyn o bryd. Yr ardaloedd ar hyn o bryd yw:
O 27 Tachwedd 2024
- Bwrdeistrefi Croydon, Sutton, a Bromley yn Llundain
- Manceinion Fwyaf
- Mae鈥檙 Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig hefyd yn gallu gwneud cais am DAPO
O 5 Mawrth 2025
- Hartlepool, Middlesbrough, Redcar, Cleveland a Stockton-on-Tees
O 28 Ebrill 2025
- Gogledd Cymru (Ynys M么n, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam)
Dim ond os yw鈥檙 cyflawnwr yn byw mewn ardal beilot y gellir gwneud DAPN a DAPO. Mae hyn yn golygu, os ydych chi鈥檔 ddioddefwr cam-drin domestig, gellir gwneud cais am DAPO waeth ble rydych chi鈥檔 byw, cyn belled 芒 bod y cyflawnwr yn byw mewn ardal beilot. Os nad ydych chi鈥檔 gwybod ble mae鈥檙 troseddwr yn byw, bydd y llys neu鈥檙 heddlu yn eich helpu i ganfod a allwch chi wneud cais am DAPO.
Os nad ydych yn byw mewn ardal beilot, mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i chi deithio i fynychu gwrandawiadau llys yn y llys teulu neu鈥檙 llys sirol peilot. Os yw hyn yn wir, gallwch gysylltu 芒鈥檙 llys i ofyn am wrandawiad o bell. Bydd y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried gan y barnwr a鈥檜 caniat谩u fesul achos.
Os na allwch deithio i lys peilot, efallai yr hoffech ystyried gwneud cais am Orchymyn Rhag Molestu yn eich llys teulu agosaf. Gallwch hefyd ofyn i鈥檙 heddlu helpu i鈥檆h diogelu 鈥� gall yr heddlu wneud cais am orchmynion gwahanol y tu allan i ardaloedd peilot DAPO. I gael rhagor o fanylion am wneud cais am Orchymyn Rhag Molestu, ewch i:聽Gwneud cais am orchymyn rhag molestu neu orchymyn anheddu. Ffurflen FL401
Mae DAPO wedi鈥檌 wneud ar fy rhan, beth mae hyn yn ei olygu i mi?
Os ydych yn ddioddefwr cam-drin domestig, gellir rhoi DAPN neu DAPO ar waith neu gellir gwneud cais amdanynt ar eich rhan ac er eich diogelwch. Mewn rhai amgylchiadau, bydd DAPN yn cael ei roi neu bydd DAPO yn cael ei wneud heb eich caniat芒d os credir eich bod mewn risg o niwed.
Os ydych eisoes yn rhan o achos llys arall, gall y llys wneud DAPO os bydd y llys yn penderfynu bod angen eich diogelu. Gall y llys wneud hyn hyd yn oed os nad yw鈥檙 achos yn ymwneud 芒 cham-drin domestig. Bydd y llys yn ystyried eich barn cyn gwneud hynny.
Mae鈥檙 gyfraith hefyd yn caniat谩u i鈥檙 heddlu gyhoeddi DAPN neu wneud cais am DAPO i鈥檆h diogelu. Byddant yn gwneud hyn os ydynt yn ystyried bod y cyflawnwr wedi eich cam-drin neu eich bod mewn risg o gael eich cam-drin. Mae gan yr heddlu ddyletswydd i ystyried eich barn cyn parhau.
Pan fydd yr heddlu yn gwneud cais am DAPO ar eich rhan, efallai y byddant yn gofyn i chi p鈥檜n a hoffech gyflwyno tystiolaeth lafar neu ysgrifenedig i gefnogi eu cais. Gall unrhyw dystiolaeth a gyflwynir gael ei hystyried gan y llys yn y gwrandawiad. Os bydd yr heddlu鈥檔 gwneud cais am DAPO ar eich rhan, ni ellir eich gorfodi i fynychu鈥檙 gwrandawiad llys, oni bai eich bod wedi cyflwyno tystiolaeth.
Beth sy鈥檔 digwydd pan ddaw鈥檙 DAPO i ben?
Os bydd DAPO yn dod i ben yn fuan, a鈥檆h bod yn poeni am eich diogelwch, gallwch gysylltu 芒鈥檙 heddlu neu wasanaeth cymorth cam-drin domestig. Gallwch chi neu鈥檙 heddlu wneud cais i newid (amrywio) y gorchymyn i wneud iddo bara鈥檔 hirach. Os yw鈥檙 gorchymyn eisoes wedi dod i ben, gallwch chi neu鈥檙 heddlu wneud cais am orchymyn newydd.
Beth os nad wyf yn cytuno 芒鈥檙 DAPO neu eisiau ei newid?
Gallwch wneud cais i鈥檙 llys a wnaeth y gorchymyn i鈥檞 newid neu i ddod ag ef i ben (a elwir yn diddymu). Gofynnwch i鈥檙 llys a wnaeth y DAPO sut i wneud hyn.
Gallwch hefyd apelio yn erbyn DAPO. Gofynnwch i鈥檙 llys a wnaeth y DAPO sut y gallwch apelio.
Efallai y byddwch am gael cymorth neu gyngor cyfreithiol os nad ydych yn cytuno 芒 DAPO neu am ei newid.
A allaf gael cyngor cyfreithiol am ddim?
Efallai yr hoffech geisio cyngor cyfreithiol. Gall cymorth cyfreithiol helpu i dalu costau cyngor cyfreithiol ac mae ar gael i ddioddefwyr sydd am wneud cais am DAPO, yn amodol ar brofion modd a theilyngdod. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch a allwch gael cymorth cyfreithiol yn:聽www.gov.uk/legal-aid.
Os ydych eisoes yn ymwneud ag achos llys teulu neu lys sirol gyda鈥檙 troseddwr, bydd eich cynghorydd cyfreithiol fel arfer yn gwneud cais am gymorth cyfreithiol ar eich rhan.
Pwy all fy helpu i wneud cais am DAPO?
Mae FLOWS (Finding Legal Options for Women Survivors) yn cynnig cymorth a chyngor cyfreithiol am ddim i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig ar sut i wneud cais am DAPO. Nid oes rhaid i chi fod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol er mwyn cael cymorth gan FLOWS. Gallwch gysylltu 芒 FLOWS ar 0203 745 7707, drwy e-bost聽[email protected]聽neu drwy聽.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael help gan sefydliadau eraill sy鈥檔 cynnig cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig.
Updates to this page
-
Where can I apply for a DAPO? section updated and Welsh translation published.
-
Updated section 'Where can I apply for a DAPO?' - changed 'Cleveland' to 'Hartlepool, Middlesbrough, Redcar, Cleveland and Stockton-on-Tees'
-
Where can I apply for a DAPO? section updated.
-
First published.