Canllawiau

Help gyda chyflogaeth ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Cael gwybodaeth ynghylch sut i lenwi adran cyflogaeth eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Fel cyflogai, mae鈥檔 bosibl:

Taflenni cymorth i鈥檆h helpu i lenwi鈥檆h Ffurflen Dreth

Mae taflenni cymorth yn rhoi gwybodaeth a all eich helpu i lenwi adrannau gwahanol o鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Gall y taflenni cymorth canlynol eich helpu i lenwi adran cyflogaeth eich Ffurflen Dreth. Er enghraifft, rhoi gwybod i CThEF am y treuliau a dalwyd gan eich cyflogwr a chyfrifo鈥檙 ffigurau y gallai fod angen i chi eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth.

Treuliau a buddiannau a dalwyd gan eich cyflogwr

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Hawlio am lwfansau cyfalaf

Dysgwch ragor o wybodaeth am lwfansau cyfalaf a thaliadau mantoli (HS252) (yn agor tudalen Saesneg) fel:

  • lwfansau offer a pheiriannau

  • gwaredu cyfarpar

  • ceir

  • cyfnodau cyfrifyddu sy鈥檔 wahanol i鈥檙 flwyddyn dreth

Didyniad Enillion Morwr

Dysgwch a ydych yn gymwys ar gyfer y Didyniad Enillion Morwr (HS205) (yn agor tudalen Saesneg). (Mae鈥檔 cwmpasu gwaith ar longau, ond nid gosodiadau alltraeth eraill.).

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU

Defnyddiwch Materion ynghylch cyflogaeth, preswylio a domisil (HS211) (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo鈥檙 symiau a gawsoch o bob cyflogaeth nad ydynt yn atebol am Dreth Incwm y DU.

Cydraddoldeb treth

Bwriad cydraddoldeb treth (HS212) (yn agor tudalen Saesneg) yw cynorthwyo ymgynghorwyr proffesiynol a chyflogwyr sy鈥檔 paratoi Ffurflenni Treth ar gyfer unigolion sy鈥檔 cael eu cyfatal 芒 threth. Mae鈥檔 darparu:

  • disgrifiad byr o gydraddoldeb treth

  • cyfarwyddiadau diwygiedig i helpu i lenwi鈥檙 adran Cyflogaeth o鈥檆h Ffurflen Dreth

Fideos YouTube CThEF

Gwyliwch weminar wedi鈥檌 recordio am lenwi adran cyflogaeth eich Ffurflen Dreth.

.

Byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • cadw cofnodion

  • sut i lenwi鈥檆h Ffurflen Dreth

  • rhyddhad treth ar gyfer treuliau cyflogaeth

  • ad-daliadau benthyciad myfyriwr a benthyciad 么l-raddedig

  • slipiau cyflog

Ffurflen Dreth bapur

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth ar bapur, mae鈥檔 bosibl y bydd angen i chi ddefnyddio tudalen atodol SA102 er mwyn cofnodi incwm o gyflogaeth ar eich Ffurflen Dreth SA100.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Ebrill 2025

Argraffu'r dudalen hon