Canllawiau

Sut mae鈥檙 cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus yn effeithio ar gyfraniadau gwirfoddol

Dysgwch sut i drin cyfraniadau pensiwn gwirfoddol aelodau yn dilyn y cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus (a elwir hefyd yn McCloud).

Yn ystod y cyfnod pontio (1 Ebrill 2015 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2022), efallai y bydd aelodau鈥檙 cynllun pensiwn wedi gwneud cyfraniadau gwirfoddol i鈥檆h cynllun pensiwn er mwyn gwneud y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:

  • prynu pensiwn ychwanegol, gan gynnwys budd-daliadau sy鈥檔 cronni ar gyfradd sy鈥檔 uwch na chyfradd gronni safonol y cynllun
  • caniat谩u i鈥檞 pensiwn gael ei dalu鈥檔 gynharach heb ostyngiad, a elwir yn oedran pensiwn effeithiol (EPA) neu allbryniad gostyngiad ymddeol cynnar (ERRBO)

Bydd angen i chi wirio sut mae鈥檙 cynllun unioni wedi effeithio ar y taliadau hyn.

Sut mae cynlluniau pensiwn Pennod 1 wedi鈥檜 heffeithio

Nid yw鈥檙 cyfraniadau gwirfoddol a wneir i鈥檙 cynllun Pennod 1 newydd yn ystod y cyfnod pontio yn cael eu hychwanegu at y cynllun hanesyddol yn awtomatig. Mae hyn oherwydd o dan wasanaethau pensiynadwy鈥檙 cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus o gynllun Pennod 1 newydd i gynllun Pennod 1 hanesyddol nid fydd ychwanegu yn 么l ar gynllun blaenorol yn effeithio ar drefniadau cyfraniadau gwirfoddol.

Fodd bynnag, mae yna adegau lle y byddwch yn gallu newid sut mae cyfraniadau gwirfoddol yn cael eu trin.

Yn gyffredinol, bydd newidiadau i reoliadau鈥檙 cynllun pensiwn a wneir o dan y cynllun unioni yn golygu bydd hawliau鈥檙 cynllun o ran cyfraniadau gwirfoddol o dan gynlluniau Pennod 1 newydd yn cael eu diddymu, a bydd y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol yn digwydd:

  • bydd rheolwr y cynllun yn talu iawndal sy鈥檔 cyfateb i鈥檙 cyfraniadau gwirfoddol a dalwyd i鈥檙 cynllun Pennod 1 newydd, llai y swm sy鈥檔 cyfateb i unrhyw ryddhad treth a roddir ar y cyfraniadau hynny
  • bydd hawliau pensiwn yn cael eu rhoi o dan y cynllun Pennod 1 hanesyddol yn yr achosion canlynol:
    • pe bai鈥檙 hawliau pensiwn yr un gwerth 芒鈥檙 hawliau a ddelir o dan y cynllun Pennod 1 newydd
    • pe bai鈥檙 hawliau pensiwn hynny wedi cael eu dal os byddai鈥檙 cyfraniadau gwirfoddol wedi cael eu talu i鈥檙 cynllun hwnnw

Gall rhai rheoliadau cynllun newid sut mae鈥檙 cynllun unioni yn gweithredu, fel bod ychwanegu yn 么l at gynllun blaenorol yn berthnasol i gyfraniadau gwirfoddol a byddai hefyd yn cael ei gynnwys mewn dewis budd-daliadau鈥檙 cynllun newydd. Pan fydd rheoliadau cynllun yn gwneud y newidiadau hyn, bydd cyfraniadau gwirfoddol yn cael eu trin yn yr un modd 芒 hawliau pensiwn o wasanaeth pensiynadwy. Felly, gallai hyn effeithio ar symiau talu i mewn i bensiwn yr aelodau a鈥檙 sefyllfa o ran lwfans blynyddol neu lwfans oes.

Gall rheoliadau cynllun roi un opsiwn neu fwy. Gall yr aelod gael dewis, neu mae鈥檔 bosibl y gall y rheoliadau cynllun osod opsiwn. Y cynlluniau eu hun sy鈥檔 penderfynu pa opsiynau i鈥檞 cynnig i鈥檞 haelodau.

Os bydd aelod yn dewis budd-daliadau鈥檙 cynllun newydd, ni fydd y dewis hwn yn trosi budd-daliadau o gyfraniadau gwirfoddol yn fudd-daliadau鈥檙 cynllun newydd yn awtomatig. Bydd angen i reoliadau鈥檙 cynllun ganiat谩u i hawliau pensiwn o gyfraniadau gwirfoddol a wneir yn ystod y cyfnod pontio (i gynlluniau Pennod 1 hanesyddol neu gynlluniau Pennod 1 newydd) gael eu hamrywio, er mwyn iddynt ddod yn hawliau budd-daliadau cynllun newydd. Efallai na fydd y dyddiad y bydd yr hawliau cyfraniadau gwirfoddol yn dechrau yn dilyn yn awtomatig o鈥檙 dyddiad y bydd y dewis o ran budd-daliadau鈥檙 cynllun newydd yn dod i rym 鈥� bydd y dyddiad hwn yn dibynnu ar reoliadau鈥檙 cynllun.

Ychwanegu yn 么l at gynllun blaenorol

Bydd angen i weinyddwyr cynlluniau Pennod 1 newydd ail-gyfrifo鈥檙 symiau talu i mewn i bensiwn o dan eu cynllun yn ystod y cyfnod pontio, a hynny鈥檔 seiliedig ar y canlynol:

  • hawliau sy鈥檔 ymwneud 芒 chyfraniadau gwirfoddol a dalwyd i mewn i鈥檙 cynllun
  • hawliau a roddwyd o ganlyniad i drosglwyddiad i鈥檙 cynllun

Diddymu hawliau cyfraniadau gwirfoddol o dan gynllun Pennod 1 newydd

Nid yw diddymu cyfraniadau gwirfoddol o ganlyniad i鈥檙 cynllun unioni yn newid symiau talu i mewn i bensiwn ar gyfer cyfnodau talu i mewn i bensiwn (PIPs) ar gyfer blynyddoedd blaenorol. Yn ystod y PIPs lle y mae hawliau cyfraniadau gwirfoddol o dan y cynllun Pennod 1 newydd yn cael eu diddymu, dylech anwybyddu鈥檙 hawliau sy鈥檔 cael eu diddymu wrth gyfrifo鈥檙 swm terfynol ar gyfer y PIP hwnnw.

Bydd y gwerthoedd agoriadol a therfynol ar gyfer trefniant cynllun Pennod 1 newydd yn cael eu cyfrifo gyda鈥檙 hawliau pensiwn o鈥檙 cyfraniadau gwirfoddol. Yn ystod y PIPs canlynol, bydd yn rhaid i chi gyfrifo鈥檙 symiau talu i mewn i bensiwn yn y ffordd arferol (sef, yn seiliedig ar yr hawliau presennol a delir gan yr aelod o dan y trefniant).

Mae unrhyw ostyngiad mewn cynllun pensiwn sy鈥檔 cael ei dalu gan y cynllun newydd, oherwydd bod yr hawliau cyfraniadau gwirfoddol yn cael eu diddymu, yn cael ei awdurdodi

Iawndal am gyfraniadau gwirfoddol cynllun newydd

Bydd yn rhaid i reolwr y cynllun benderfynu鈥檙 canlynol:

  • a fydd yr aelod yn cael iawndal oherwydd bod eu cyfraniadau gwirfoddol yn cael eu diddymu
  • y swm o iawndal i鈥檞 dalu

Ni fydd angen talu Treth Incwm na Threth Enillion Cyfalaf ar yr iawndal hwn

Os yw鈥檙 aelod am ddefnyddio鈥檙 iawndal hwn i brynu cyfraniadau gwirfoddol yn y cynllun newydd, neu鈥檙 cynllun hanesyddol, bydd y driniaeth dreth arferol yn berthnasol. Bydd unrhyw hawliau pensiwn a gronnir o ganlyniad i鈥檙 cyfraniadau gwirfoddol hynny yn cyfrif tuag at swm talu i mewn i bensiwn yr aelodau yn y flwyddyn dreth y maent yn cael eu talu, ac efallai y byddant hefyd yn gymwys i gael rhyddhad treth.

Disodli cyfraniadau gwirfoddol

Gallai rhai cynlluniau Pennod 1 hanesyddol roi鈥檙 opsiwn i ddisodli cyfraniadau gwirfoddol a wnaed i gynllun Pennod 1 newydd.

Os bydd aelod yn dewis gwneud hyn, bydd angen i weinyddwr y cynllun hanesyddol greu鈥檙 hawliau cyfraniadau gwirfoddol newydd mewn un trafodyn. Ni ddylid creu鈥檙 opsiwn i ddisodli鈥檙 cyfraniadau gwirfoddol ar sail blwyddyn ar 么l blwyddyn, gan eu bod wedi cael eu talu dros y cyfnod pontio.

Triniaeth treth o ran disodli cyfraniadau gwirfoddol

Pe bai鈥檙 cyfraniadau gwirfoddol wedi cael eu talu er mwyn prynu pensiwn ychwanegol o dan y cynllun newydd, bydd y budd-daliadau ychwanegol wedi cael eu profi yn erbyn lwfans blynyddol yr aelod yn y flwyddyn y talwyd y cyfraniadau gwirfoddol hynny. Yn ystod y PIP pan gafodd yr hawliau pensiwn ychwanegol newydd eu creu o dan y cynllun hanesyddol, dylid eu hanwybyddu wrth gyfrifo鈥檙 swm talu i mewn i bensiwn. Mae gwneud hyn yn sicrhau ni fydd y budd-daliadau yn cael eu profi ddwywaith yn erbyn lwfans blynyddol yr aelod.

Ar gyfer triniaeth dreth aelodau gohiriedig (yn agor tudalen Saesneg), dylid anwybyddu鈥檙 cyfraniadau newydd wrth gyfrifo eu symiau talu i mewn i bensiwn. Dylai鈥檙 aelod barhau i gael swm talu i mewn i bensiwn sero o dan drefniant cynllun Pennod 1 hanesyddol yn y PIP pan gr毛wyd yr opsiwn i ddisodli鈥檙 cyfraniadau gwirfoddol, ac yn ystod PIPs yn y dyfodol.

Pe bai鈥檙 cyfraniadau gwirfoddol yn cael eu talu ar gyfer budd-daliadau cynharach (oedran pensiwn effeithiol (EPA) neu allbryniad gostyngiad ymddeol cynnar (ERRBO)) o dan y cynllun newydd, ni fyddai鈥檙 rhain wedi cynyddu swm y pensiwn sy鈥檔 daladwy ar oedran pensiwn arferol y cynllun. Felly, ni fyddai鈥檙 cyfraniadau gwirfoddol wedi cynyddu swm talu i mewn i bensiwn yr aelod o dan drefniant y cynllun Pennod 1 newydd, ac felly ni fyddai鈥檙 cyfraniadau gwirfoddol hyn wedi cael eu profi yn erbyn y lwfans blynyddol pan gawsant eu talu.

Bydd angen i chi gynnwys y cyfraniadau gwirfoddol newydd yn eich cyfrifiadau ar gyfer y swm talu i mewn i bensiwn ar gyfer trefniant cynllun Pennod 1 hanesyddol yn y PIP y cawsant eu creu. Ar gyfer PIPs yn y dyfodol, dylid anwybyddu鈥檙 cyfraniadau gwirfoddol newydd wrth gyfrifo swm talu i mewn i bensiwn os yw鈥檙 aelod yn bodloni amodau鈥檙 dorri ffordd ar gyfer yr aelod gohiriedig.

Amrywiad o hawliau cyfraniadau gwirfoddol i fudd-daliadau鈥檙 cynllun newydd

Pan fo aelod yn gwneud dewis budd-daliadau cynllun newydd, bydd angen i chi ystyried y gall unrhyw gyfraniadau gwirfoddol a delir yn ystod y cyfnod pontio, p鈥檜n a dalir i gynllun hanesyddol neu gynllun newydd, amrywio i ddod yn hawliau budd-dal cynllun newydd.

Gellir anwybyddu鈥檙 amrywiad hwn wrth gyfrifo swm talu i mewn i bensiwn yr aelod yn y PIP pan ddigwyddodd yr amrywiad (os yw鈥檔 rhoi swm talu i mewn i bensiwn uwch).

Yn y flwyddyn pan fydd yr hawliau cyfraniadau gwirfoddol yn cael eu hamrywio, bydd y gwerth agoriadol yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio budd-daliadau a gronnwyd o gynllun hanesyddol.

Pan fo鈥檙 gwahaniaeth rhwng y gwerthoedd agoriadol a鈥檙 gwerthoedd terfynol (yn seiliedig ar fudd-daliadau a gronnwyd o gyfraniadau gwirfoddol y cynllun newydd) yr un fath neu鈥檔 llai na鈥檙 gwahaniaeth rhwng y gwerthoedd agoriadol a鈥檙 gwerthoedd terfynol (yn seiliedig ar fudd-daliadau a gronnwyd o gyfraniadau gwirfoddol y cynllun hanesyddol), bydd y gwerth terfynol a fydd yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo鈥檙 swm talu i mewn i bensiwn yr un sy鈥檔 seiliedig ar fudd-daliadau a gronnwyd o鈥檙 cynllun newydd.

Pan fo鈥檙 gwahaniaeth rhwng y gwerthoedd agoriadol a鈥檙 gwerthoedd terfynol (yn seiliedig ar fudd-daliadau a gronnwyd o gyfraniadau gwirfoddol y cynllun newydd) yn fwy na鈥檙 gwahaniaeth rhwng y gwerthoedd agoriadol a鈥檙 gwerthoedd terfynol (yn seiliedig ar fudd-daliadau a gronnwyd o gyfraniadau gwirfoddol y cynllun hanesyddol), bydd y gwerth terfynol a fydd yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo鈥檙 swm talu i mewn i bensiwn yr un sy鈥檔 seiliedig ar fudd-daliadau a gronnwyd o鈥檙 cynllun hanesyddol.

Ar gyfer aelodau gohiriedig (yn agor tudalen Saesneg), bydd hawliau cyfraniadau gwirfoddol sy鈥檔 cael eu hamrywio yn cael eu hanwybyddu wrth gyfrifo鈥檙 swm talu i mewn i bensiwn. Dylai鈥檙 aelod barhau i gael swm talu i mewn i bensiwn sero o dan drefniant cynllun Pennod 1 hanesyddol yn y PIP pan gr毛wyd yr opsiwn i ddisodli鈥檙 cyfraniadau, ac yn ystod cyfnodau yn y dyfodol.

Pan fydd aelod sydd 芒 hawliau cyfraniadau gwirfoddol wedi ymddeol yn rhannol, ac nad yw鈥檔 aelod gweithredol mwyach, bydd yr eithriad ar gyfer aelodau gohiriedig yn berthnasol iddynt yn yr un modd ag aelod heb hawliau cyfraniadau gwirfoddol sy鈥檔 dewis budd-daliadau cynllun newydd.

Mae unrhyw ostyngiad mewn cynllun pensiwn sy鈥檔 cael ei dalu gan y cynllun hanesyddol, oherwydd bod yr hawliau cyfraniadau gwirfoddol yn cael eu hamrywio, yn cael ei awdurdodi.

Sut mae cynlluniau pensiwn Pennod 2 wedi鈥檜 heffeithio

Nid yw cyfraniadau gwirfoddol yn cael eu heffeithio os yw aelod o gynllun Pennod 2 yn dewis cynllun hanesyddol.

Pan fydd aelod yn dewis cynllun hanesyddol, bydd angen i chi ail-gyfrifo symiau talu i mewn i bensiwn ar ei gynllun 2015 yn seiliedig ar y canlynol:

  • ei hawliau sy鈥檔 ymwneud 芒 chyfraniadau gwirfoddol a dalwyd i mewn i鈥檙 cynllun
  • unrhyw hawliau a roddwyd o ganlyniad i drosglwyddiad i鈥檙 cynllun

Os yw aelod wedi ychwanegu pensiwn

Mae鈥檔 rhaid i chi wneud yn si诺r y bydd cynllun 2015 yn parhau i ddarparu budd-daliadau i aelodau am y cyfraniadau a wnaethant er mwyn prynu pensiwn ychwanegol.

Os yw aelod wedi gwneud cyfraniadau oedran pensiwn effeithiol

Ar gyfer aelod sydd wedi gwneud cyfraniadau oedran pensiwn effeithiol (EPA), ac sy鈥檔 dewis cynllun hanesyddol, mae鈥檔 rhaid i chi dalu iawndal i鈥檙 aelod sy鈥檔 cyfateb i鈥檞 gyfraniadau, llai y swm sy鈥檔 cyfateb i unrhyw ryddhad treth a roddir ar y cyfraniadau hynny. Ni fydd yr iawndal yn agored i dreth incwm na threth enillion cyfalaf.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mai 2025 show all updates
  1. Welsh translation has been added.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon