Rheoli aelodau o’r tîm gan ddefnyddio’ch cyfrif treth busnes CThEF
Dysgwch sut i ychwanegu aelod o’r tîm at eich cyfrif treth busnes a sut i roi mynediad i’r aelod hwnnw at dreth, toll neu gynllun.
Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif treth busnes i’ch helpu i reoli’ch holl drethi busnes ar-lein.
Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut y gallwch ychwanegu aelodau newydd o’r tîm at eich cyfrif treth busnes a newid pa wasanaethau y gallant gael mynediad atynt.
Ychwanegu aelod o’r tîm
Gallwch ychwanegu aelodau newydd o’r tîm at eich cyfrif treth busnes drwy ddilyn y camau hyn.
-
Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes fel gweinyddwr, a dewiswch ‘Rheoli’r cyfrif�.
-
Ychwanegwch yr aelod o’r tîm drwy ddewis ‘Gallwch roi caniatâd i eraill gael mynediad at eich cyfrif treth busnes�.
-
Dewiswch ‘Ychwanegu aelod o’r tîm�, a nodwch fanylion yr aelod. Ar ôl i chi ychwanegu’r aelod o’r tîm, cewch neges i gadarnhau hyn.
-
Ewch yn ôl i’r rhestr o aelodau’r tîm lle y byddwch yn dod o hyd i’r aelod o’r tîm sydd newydd ei ychwanegu.
-
Dewiswch ‘Yn ôl i CThEF�.
Rhoi mynediad i aelod o’r tîm at eich gwasanaethau
Gallwch roi mynediad i aelodau newydd neu bresennol o’r tîm at eich cyfrif treth busnes drwy ddilyn y camau hyn.
-
Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes fel gweinyddwr, a dewiswch ‘Rheoli’r cyfrif�.
-
Dewiswch ‘Rhoi’r gallu i aelod o’r tîm gael mynediad at dreth, toll neu gynllun�.
-
Ar y dudalen ‘Rheoli pwy all gael mynediad at eich trethi a’ch cynlluniau�, dewiswch y tab ‘trethi a chynlluniau�.
-
Ar y rhes ar gyfer eich gwasanaeth, dewiswch ‘rheoli aelodau o’r tîm�.
-
Dewiswch yr aelodau o’r tîm yr hoffech iddynt gael mynediad at y gwasanaeth, wedyn pwyswch ‘Cadw� i gadw’ch dewisiadau.