Rhoi gwybod am Doll Ecs茅is ar fiodanwyddau ac amnewidion tanwydd eraill (HO930)
Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein os ydych chi鈥檔 cynhyrchu, defnyddio neu neilltuo mwy na 2,500 litr o fiodanwydd y flwyddyn.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod am y biodanwydd a鈥檙 amnewidiadau tanwydd eraill rydych chi wedi鈥檜 defnyddio neu wedi鈥檜 neilltuo (yn agor tudalen Saesneg):
- fel tanwydd ar gyfer unrhyw injan, modur neu beiriannau eraill
- fel ychwanegyn neu estynnydd mewn unrhyw sylwedd a ddefnyddir fel tanwydd
- ar gyfer cynhyrchu biogyfuniad neu gymysgedd bioethanol
Cyn i chi ddechrau
I roi gwybod, mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Dynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn rhoi gwybod am y Doll Ecs茅is.
I ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn, bydd angen:
- eich cyfeirnod unigryw a chod post eich busnes cofrestredig
- manylion eich cyfeiriad busnes a鈥檆h cod post
- dyddiadau dechrau a dod i ben eich hawliad
Bydd angen i chi nodi鈥檙 canlynol yn ogystal:
- faint o fiodanwydd, yr amnewidyn tanwydd neu鈥檙 ychwanegyn tanwydd y mae angen i chi dalu toll arno
- faint o dollau sydd arnoch
Cyflwyno鈥檆h datganiad
Gallwch hefyd gyflwyno鈥檆h ffurflen gan ddefnyddio鈥檙 . Bydd angen i chi lenwi鈥檙 ffurflen cyn y gallwch ei hargraffu gan na ellir cadw ffurflenni sydd heb ei orffen.