Treth cerbyd ar gyfer ceir a gofrestrwyd o 1 Ebrill 2017
Mae sut y cyfrifir treth cerbyd yn wahanol i geir a gofrestrwyd am y tro cyntaf gyda DVLA o 1 Ebrill 2017.
Pan fydd eich car yn cael ei gofrestru am y tro cyntaf, byddwch hefyd yn talu鈥檙 dreth (treth car) am y 12 mis cyntaf. Bydd y flwyddyn gyntaf o dreth yn dibynnu ar allyriadau carbon deuocsid (CO2) y cerbyd.
O鈥檙 ail dro y trethir y cerbyd byddwch yn talu cyfradd safonol, oni bai eich bod yn berchen ar gar allyriadau sero a fyddwch yn talu 拢0 amdano. Mae鈥檙 gyfradd safonol yn dibynnu ar p鈥檜n ai bod eich cerbyd yn defnyddio petrol, diesel neu danwydd amgen.
Cael gwybod mwy am gyfraddau treth cerbyd ar gyfer ceir a gofrestrwyd o 1 Ebrill 2017.
Bydd cerbydau a gofrestrwyd cyn 1 Ebrill 2017 yn parhau i fod yn seiliedig ar y math o danwydd ac allyriadau CO2, ac ni fydd hynny鈥檔 newid. Gallwch wirio鈥檙 cyfraddau treth cerbyd ar gyfer ceir a gofrestrwyd cyn 1 Ebrill 2017 i sicrhau eich bod yn gwybod faint fydd angen i chi ei dalu.
Os yw pris rhestr eich car yn fwy na 拢40,000
Os yw pris rhestr eich cerbyd yn fwy na 拢40,000 cyn unrhyw ostyngiadau pan gaiff ei gofrestru am y tro cyntaf, bydd y flwyddyn gyntaf o dreth yn dibynnu ar allyriadau carbon deuocsid (CO2) y cerbyd.
O鈥檙 ail dro y trethir y cerbyd byddwch yn talu cyfradd safonol a bydd angen i chi dalu鈥檙 gyfradd ychwanegol hefyd.
Bydd angen i chi dalu鈥檙 gyfradd ychwanegol am 5 mlynedd.
Er enghraifft, os cofrestrwyd eich car am y tro cyntaf ar 1 Ebrill 2017 ac nad yw鈥檔 cael ei werthu neu ei ddatgan fel oddi ar y ffordd (HOS) o fewn y 12 mis cyntaf, byddwch yn talu鈥檙 gyfradd ychwanegol o 1 Ebrill 2018 tan 1 Ebrill 2023. Ar 么l y dyddiad hwn, byddwch yn talu鈥檙 gyfradd safonol.
Gallwch wirio ar-lein i weld os bydd angen i chi dalu鈥檙 gyfradd ychwanegol neu edrych yn eich llyfr log cerbyd (V5CW). Gallwch hefyd wirio鈥檙 pris rhestr gyda鈥檆h deliwr modur er mwyn i chi wybod faint o dreth cerbyd fydd rhaid i chi ei thalu.
Nid oes angen i chi dalu鈥檙 gyfradd ychwanegol os oes gennych gerbyd allyriadau sero.
Ar 么l talu鈥檙 gyfradd ychwanegol am 5 mlynedd
Ni fyddwch yn talu鈥檙 gyfradd ychwanegol mwyach. Bydd eich cerbyd yn cael ei drethu ar un o鈥檙 cyfraddau safonol yn dibynnu ar os yw鈥檔 defnyddio petrol, diesel neu danwydd amgen.
Os nad yw鈥檙 dyddiad adnewyddu eich treth yr un peth 芒鈥檙 dyddiad y bydd y gyfradd ychwanegol yn dod i ben, bydd y taliad treth cerbyd yn cael ei addasu i gymryd hwn i ystyriaeth.
Os byddwch yn gwneud taliad unigol, yna bydd hwn yn cael ei gyfrifo i chi a bydd y gyfradd ychwanegol sy鈥檔 weddill yn cael ei chynnwys.
Os byddwch yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol misol, bydd y gwerthoedd yn cael eu haddasu er mwyn talu鈥檙 gyfradd ychwanegol yn y misoedd sy鈥檔 weddill. Er enghraifft, os oes gennych 3 mis ar 么l i dalu鈥檙 gyfradd ychwanegol, bydd y 3 mis cyntaf o鈥檆h taliadau Debyd Uniongyrchol yn cael eu pwysoli i鈥檞 cynnwys.