Canllawiau

Cyfrifo rhyddhad treth neu gredydau gwariant y diwydiant creadigol ar gyfer eich cynhyrchiad

Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gyfrifo faint o ryddhad treth neu gredydau gwariant y diwydiant creadigol y gallech gael ar gyfer eich cynhyrchiad a ble i鈥檞 hawlio ar eich Ffurflen Treth Gorfforaeth.

Cyn i chi ddechrau

Os yw鈥檆h cyfnod cyfrifyddu yn hirach na 12 mis, bydd angen i chi ei rannu yn 2 gyfnod cyfrifyddu neu fwy, hyd at 12 mis yr un. Mae angen i chi wneud cyfrifiad ar wah芒n ar gyfer bob cyfnod cyfrifyddu.

Ar gyfer hawliadau鈥檔 ymwneud 芒 rhyddhad treth cerddorfeydd, neu ryddhad treth arddangosfeydd orielau ac amgueddfeydd, os yw鈥檆h cyfnod cyfrifyddu yn dechrau cyn 1 Ebrill 2025 ac yn dod i ben ar neu ar 么l 1 Ebrill 2025, bydd angen i chi gwblhau cyfrifiad ar wah芒n ar gyfer pob cyfnod cyn ac ar 么l 1 Ebrill 2025.

Enghraifft

Os yw鈥檆h cyfnod cyfrifyddu o 28 Mawrth 2025 i 8 Ebrill 2025, bydd angen i chi gyfrifo 2 gyfnod ar wah芒n:

  • 28 Mawrth 2025 i 31 Mawrth 2025
  • 1 Ebrill 2025 i 8 Ebrill 2025

I ddefnyddio鈥檙 gyfrifiannell ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:

  • dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu

  • manylion yr hawliad blaenorol am ryddhad treth neu gredyd gwariant, os yw hyn yn berthnasol, gan gynnwys cyfanswm y canlynol:
    • incwm a enillwyd

    • gwariant a dalwyd

    • gwariant craidd

    • gwariant craidd yn y DU

    • gwariant nad yw鈥檔 wariant craidd

    • didyniad ychwanegol a hawliwyd neu wariant cymhwysol hyd yn hyn

    • colled a ildiwyd, os yw鈥檔 berthnasol

  • incwm a chostau amcangyfrifedig

  • cyfanswm y gwariant cymhwysol yn y DU a鈥檙 gwariant cymhwysol nad yw yn y DU

  • unrhyw golledion a ddygwyd ymlaen

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Mai 2025

Argraffu'r dudalen hon