Gwirio鈥檆h cofnod Yswiriant Gwladol

Gallwch wirio鈥檆h cofnod Yswiriant Gwladol ar-lein er mwyn gweld:

  • yr hyn yr ydych wedi鈥檌 dalu hyd at ddechrau鈥檙 flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2025)
  • unrhyw gredydau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi鈥檜 cael
  • a oes bylchau o ran cyfraniadau neu gredydau sy鈥檔 golygu bod yna flynyddoedd nad ydynt yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth (nid ydynt yn 鈥榝lynyddoedd cymhwysol鈥�)
  • a allech elwa ar dalu cyfraniadau gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau
  • sut bydd y rhagolwg o鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth yn newid os byddwch yn dewis talu cyfraniadau gwirfoddol
  • a allwch dalu cyfraniadau gwirfoddol ar-lein, a faint y bydd hyn yn ei gostio

Mae鈥檙 gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn gwirio鈥檆h cofnod Yswiriant Gwladol. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Wrth i chi fewngofnodi, cewch wybod a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw鈥檆h manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.

Ffyrdd eraill o wneud cais

Gallwch ofyn am ddatganiad Yswiriant Gwladol ar bapur:

Bydd angen i chi roi gwybod pa flynyddoedd yr ydych am i鈥檆h datganiad eu cwmpasu. Ni allwch ofyn am ddatganiadau ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol na鈥檙 un flaenorol.

Gallwch hefyd ysgrifennu at Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Gweithrediadau Treth Bersonol
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Os ydych wedi talu Yswiriant Gwladol ar Ynys Manaw

Ni fydd eich cofnod yn dangos cyfraniadau Yswiriant Gwladol o Ynys Manaw os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 么l 5 Ebrill 2016.

Anfonwch e-bost i swyddfa Yswiriant Gwladol Ynys Manaw i gael gwybod faint yr ydych wedi鈥檌 dalu.

Swyddfa Yswiriant Gwladol Ynys Manaw
nationalinsurance.itd@gov.im

Gallwch hefyd anfon llythyr i鈥檙 swyddfa.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol / National Insurance contributions
Income Tax Division
Government Office
Bucks Road
Douglas
Isle of Man
IM1 3TX