Gwneud penderfyniadau dros rywun

Sgipio cynnwys

Sut i wneud penderfyniadau

Fel atwrnai neu ddirprwy rhywun, rhaid i chi:

  • roi鈥檙 holl gymorth sydd ei angen arnynt i wneud bob penderfyniad cyn penderfynu nad oes ganddynt alluedd meddyliol i wneud y penderfyniad hwnnw drostynt eu hunain
  • gwneud penderfyniadau ar sail eu lles gorau bob tro
  • gwneud penderfyniadau sy鈥檔 cyfyngu cyn lleied 芒 phosib ar eu hawliau dynol a sifil

Helpu rhywun i wneud penderfyniadau

Rhoi鈥檙 holl wybodaeth sydd ei angen arnynt i wneud penderfyniad.

Dylech ei gwneud yn hawdd iddynt ddeall a phwyso a mesur y wybodaeth, er enghraifft:

  • drwy roi digon o amser iddynt
  • drwy ddewis amser sy鈥檔 addas iddynt
  • drwy siarad yn rhywle cyfarwydd 鈥� er enghraifft yn eu cartref
  • drwy wneud i ffwrdd ag unrhyw aflonyddwch, fel s诺n cefndir
  • drwy egluro pethau mewn ffordd wahanol 鈥� drwy luniau neu iaith arwyddion er enghraifft

Dylech awgrymu ffyrdd gwahanol y medrant gyfleu eu penderfyniad i chi os na fedrant ddefnyddio geiriau 鈥� er enghraifft, drwy bwyntio, gwasgu eich llaw, blincio neu amneidio鈥檙 pen.

Gwneud penderfyniadau ar sail lles gorau rhywun

Rhaid i unrhyw benderfyniad a wnewch dros rywun fod ar sail lles gorau (鈥榖eth fyddai er lles gorau iddynt鈥�). Rhaid ystyried:

  • beth y bydden nhw wedi鈥檌 benderfynu pe gallent wneud hynny
  • eu gwerthoedd a鈥檜 dymuniadau blaenorol a phresennol, gan gynnwys barn foesol, wleidyddol a chrefyddol y person

Peidiwch 芒 rhagdybio pethau ar sail eu hoed, rhywedd, cefndir ethnig, rhywioldeb, ymddygiad neu iechyd.

Gall fod o gymorth os byddwch yn:

  • nodi ar bapur beth a ddywedodd y person sy鈥檔 bwysig iddyn nhw
  • edrych ar bethau eraill y gwnaethant ei roi ar bapur neu ei gofnodi (fel cyllideb y cartref neu fideos cartref)
  • siarad gyda ffrindiau, teulu neu gydweithwyr sy鈥檔 eu hadnabod yn dda
  • siarad gydag unrhyw un sy鈥檔 rhan o鈥檜 gofal, er enghraifft, gofalwyr personol neu staff cartref gofal
  • sylwi ar eu hymddygiad ac ymatebion 鈥� gall hyn ddweud wrthych beth yw eu dymuniadau neu deimladau os na fedrant fynegi hynny mewn geiriau

Hawliau dynol a sifil

Rhaid i鈥檆h penderfyniadau gyfyngu cyn lleied 芒 phosib ar hawliau dynol a sifil y person. Mae gan Cyngor ar Bopeth .

Ni allwch byth wneud penderfyniadau dros rywun ynghylch rhai pethau fel:

  • pleidleisio
  • perthnasoedd 鈥� er enghraifft cydsynio i gael rhyw, i briodi neu cael ysgariad

Dylid dilyn cod ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol wrth wneud penderfyniadau.

Penderfyniadau anodd ac anghytuno

Dylid trafod gyda鈥檙 person a hefyd gyda鈥檜 teulu, ffrindiau a gofalwyr. Bydd cynnwys pawb mewn cyfarfod 鈥榣les gorau鈥� yn eich helpu i ddod i gytundeb.

Os na allwch ddod i gytundeb, gallwch: