Gwrthwynebu cofrestru atwrneiaeth arhosol
Printable version
1. Atwrneiaeth arhosol
Gallwch wrthwynebu cofrestru atwrneiaeth arhosol (LPA).
Rhaid i chi ddweud wrth Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).
Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd ddweud wrth y Llys Gwarchod.
Mae sut rydych yn gwrthwynebu yn dibynnu ar bwy ydych chi a pham eich bod yn gwrthwynebu.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gwrthwynebu os mai chi yw鈥檙 rhoddwr
Llenwch y ffurflen wrthwynebu (LPA006) a鈥檌 hanfon at OPG. Mae鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen.
Gwrthwynebu os ydych yn atwrnai neu鈥檔 鈥榰nigolyn i鈥檞 hysbysu鈥�
Byddwch yn cael llythyr gan y rhoddwr neu un o鈥檜 hatwrneiod yn dweud wrthych eu bod eisiau cofrestru鈥檙 LPA. Gallwch wneud 鈥榞wrthwynebiad ffeithiol鈥� neu wrthwynebiad ar 鈥榮eiliau rhagnodedig鈥�.
Gwrthwynebiadau ffeithiol
Gallwch wrthwynebu os:
- yw鈥檙 rhoddwr neu鈥檙 atwrnai wedi marw
- roedd y rhoddwr a鈥檙 atwrnai yn briod neu mewn partneriaeth sifil ond maent wedi ysgaru neu wedi dod 芒鈥檙 bartneriaeth sifil i ben
- nid oes gan atwrnai y gallu meddyliol i fod yn atwrnai
- mae鈥檙 atwrnai wedi dewis rhoi鈥檙 gorau i weithredu (a elwir weithiau yn 鈥榶mwrthod 芒鈥檜 penodiad 鈥�)
- mae鈥檙 rhoddwr neu鈥檙 atwrnai yn fethdalwr, yn fethdalwr dros dro neu鈥檔 destun gorchymyn rhyddhad dyled (atwrneiod eiddo a materion ariannol yn unig)
Llenwch y ffurflen wrthwynebu (LPA007) a鈥檌 hanfon at OPG. Mae鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen.
Mae鈥檔 rhaid i chi wrthwynebu cyn pen 3 wythnos ar 么l cael gwybod am y cofrestriad.
Gwrthwynebiadau rhagnodedig
Gallwch wrthwynebu鈥檙 cofrestriad os ydych yn meddwl:
- nad yw鈥檙 LPA yn gywir yn gyfreithiol
- nad ydych yn credu bod gan y rhoddwr alluedd meddyliol i wneud LPA
- bod y rhoddwr wedi diddymu eu LPA pan oeddent wedi adennill eu galluedd
- bod twyll wedi digwydd, e.e. rhywun wedi ffugio llofnod y rhoddwr
- roedd pwysau ar y rhoddwr i wneud LPA
- bod atwrnai yn gweithredu yn erbyn buddiannau pennaf y rhoddwr
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi unrhyw rai o鈥檙 gwrthwynebiadau hyn.
Llenwch y canlynol:
- ffurflen hysbysu (LPA008) a鈥檌 hanfon at OPG (mae鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen)
- ffurflen wrthwynebu (COP7), gwnewch gopi ohoni ac anfonwch y gwreiddiol a鈥檙 copi i鈥檙 Llys Gwarchod (mae鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen)
Nid yw鈥檔 costio dim i wrthwynebu os ydych yn atwrnai neu鈥檔 unigolyn i鈥檞 hysbysu.
Gwrthwynebu os nad ydych yn atwrnai neu鈥檔 鈥榰nigolyn i鈥檞 hysbysu鈥�
Llenwch y ffurflen wrthwynebu (COP1), gwnewch gopi ohoni ac anfonwch y gwreiddiol a鈥檙 copi i鈥檙 Llys Gwarchod.
Anfonwch siec o 拢421 yn daladwy i 鈥榃asanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM鈥� gyda鈥檆h ffurflenni.
Llys Gwarchod
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA
Gostyngiad neu esemptiad o鈥檙 ffi
Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu鈥檙 ffioedd os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.
Lawrlwythwch y ffurflen i gadarnhau eich bod yn gymwys ac i wneud cais.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Ar 么l i chi anfon y ffurflenni ac unrhyw ffioedd, bydd OPG neu鈥檙 Llys Gwarchod yn cysylltu 芒 chi. Byddant yn dweud wrthych os:
- byddant yn atal y cofrestriad
- bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal i drafod eich gwrthwynebiad
2. Atwrneiaeth barhaus
Gallwch wrthwynebu cofrestru atwrneiaeth barhaus (EPA).
Mae 2 ffordd i wrthwynebu - mae鈥檙 un a ddefnyddiwch yn dibynnu ar p鈥檜n a ydych wedi cael llythyr swyddogol yn dweud bod rhywun eisiau cofrestru鈥檙 EPA.
Gwrthwynebu os ydych wedi cael llythyr swyddogol
Bydd y rhoddwr a rhai o鈥檜 perthnasau yn cael llythyr yn dweud wrthynt bod atwrnai鈥檔 bwriadu cofrestru EPA.
Os ydych chi yn un o鈥檙 bobl hyn, gallwch wrthwynebu鈥檙 cofrestriad os ydych yn credu:
- nad yw鈥檙 EPA yn gywir yn gyfreithiol, e.e. nid oedd wedi鈥檌 lofnodi鈥檔 gywir ac nid oedd tyst yn bresennol
- nid oedd gan y rhoddwr alluedd meddyliol pan wnaed yr EPA
- diddymodd y rhoddwr eu EPA pan oedd ganddynt alluedd meddyliol
- roedd twyll wedi digwydd, e.e. cafodd llofnod y rhoddwr ar yr EPA ei ffugio
- roedd pwysau ar y rhoddwr i wneud EPA
- mae gan y rhoddwr alluedd meddyliol o hyd felly ni ddylai鈥檙 EPA gael ei chofrestru
- mae atwrnai鈥檔 gweithredu uwchlaw ei awdurdod neu yn erbyn buddiannau gorau鈥檙 rhoddwr
Llenwch ac anfonwch y:
- ffurflen wrthwynebu (EP3PG) i Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) - mae鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen
- ffurflen wrthwynebu (COP8) i鈥檙 Llys Gwarchod
Llys Gwarchod
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA
Rhaid i chi wrthwynebu o fewn 5 wythnos i chi gael y llythyr yn dweud wrthych am y cofrestriad.
Gwrthwynebu os na gawsoch lythyr swyddogol
Gallwch wrthwynebu os nad ydych yn credu y dylid cofrestru鈥檙 EPA.
Llenwch ac anfonwch ffurflen gais (COP1) i鈥檙 Llys Gwarchod. Mae鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen.
Anfonwch siec o 拢421 yn daladwy i鈥檙 鈥楲lys Gwarchod鈥�.
Rhaid i chi hefyd ysgrifennu at yr OPG i ddweud wrthynt pam eich bod yn gwrthwynebu鈥檙 cofrestriad.
Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Gostyngiad neu esemptiad o鈥檙 ffi
Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu鈥檙 ffioedd os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.
Gwnewch gais am ostyngiad neu esemptiad Os ydych yn gymwys.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Bydd OPG neu鈥檙 Llys Gwarchod yn cysylltu 芒 chi o fewn 5 diwrnod iddynt dderbyn eich gwrthwynebiad. Byddant yn rhoi gwybod pa gamau y bydd angen i chi eu cymryd nesaf.