15 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim i blant 3 a 4 oed

Gall pob plentyn 3 i 4 oed yn Lloegr gael 570 awr y flwyddyn yn rhad ac am ddim. Fel arfer, mae 15 awr yn cael eu cymryd bob wythnos dros 38 wythnos y flwyddyn. Gallwch ddewis cymryd llai o oriau dros fwy o wythnosau, os yw鈥檆h darparwr gofal plant yn cynnig yr opsiwn hwn.

Mae rhai plant 3 i 4 oed yn gymwys i gael 30 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim bob wythnos. Edrychwch i weld a ydych yn gymwys a chael gwybod sut i wneud cais.

Mae鈥檙 addysg gynnar a gofal plant yn rhad ac am ddim:

  • yn gorfod bod gyda darparwr gofal plant cymeradwy
  • yn dod i ben pan fydd eich plentyn yn dechrau yn y dosbarth derbyn (neu鈥檔 cyrraedd oedran ysgol gorfodol, os yw鈥檔 hwyrach)

Gallwch ei gael o鈥檙 tymor ar 么l pen-blwydd eich plentyn yn 3 oed, gan ddechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Medi.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am gostau ychwanegol megis:

  • prydau bwyd
  • cewynnau
  • oriau ychwanegol
  • gweithgareddau ychwanegol, megis teithiau

Holwch eich darparwr pa gostau ychwanegol bydd yn rhaid i chi eu talu.

Cysylltwch 芒鈥檆h darparwr gofal plant neu eich cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod mwy.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae , a .