Chwiliad gwaith a hyfforddiant

Gall eich anogwr gwaith y Ganolfan Byd Gwaith rhoi mwy o wybodaeth i chi am hyfforddiant a鈥檆h helpu i baratoi am, dod o hyd i ac aros mewn gwaith.

Help ar gyfer mathau penodol o waith

Mae academ茂au gwaith sy鈥檔 seiliedig ar y sector yn cynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith am hyd at 6 wythnos mewn diwydiant neu faes gwaith penodol.

Mae鈥檙 rhan fwyaf o academ茂au hefyd yn cynnig cyfweliad gwarantedig ar gyfer swydd neu brentisiaeth.

Maent ar gael i chi os ydych yn hawlio unrhyw un o鈥檙 canlynol oherwydd eich bod yn ddi-waith:

Clybiau gwaith

Gall unrhyw un sy鈥檔 ddi-waith ymuno 芒 Chlwb Gwaith. Maent yn cael eu rhedeg gan sefydliadau lleol fel cyflogwyr a grwpiau cymunedol ac yn rhoi鈥檙 cyfle i chi rhannu gwybodaeth, profiad ac awgrymiadau chwilio am waith.