Cymhwyster

I fod yn gymwys am JSA Dull Newydd bydd angen i chi fod wedi:

  • gweithio fel cyflogai
  • talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 blynedd diwethaf. Gall (Credydau Yswiriant Gwladol hefyd gyfrif)

Ni fyddwch yn gymwys os oeddech yn hunangyflogedig a dim ond wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, oni bai roeddech yn gweithio fel pysgotwr ar y cyd neu weithiwr datblygu gwirfoddol.

Mae yna reolau cymhwysedd gwahanol .

Rhaid i chi hefyd:

  • fod yn 18 oed neu鈥檔 h欧n
  • bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • bod ym Mhrydain Fawr
  • peidio 芒 bod yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos

Ni fyddwch yn gymwys os ydych chi鈥檔 rhan o anghydfod gyda鈥檆h cyflogwr ynghylch materion sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chyflogaeth (鈥榓nghydfod masnachu鈥�).

Ni fyddwch yn gymwys os oes gennych salwch neu anabledd sy鈥檔 eich atal rhag gweithio. Gwiriwch a allwch chi gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle.

Ni fydd eich cynilion a chynilion eich partner yn effeithio ar eich cais.

Os ydych chi鈥檔 gweithio

Fel arfer, ni allwch chi gael JSA Dull Newydd os ydych chi鈥檔 gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos.

Gall eich enillion leihau faint o JSA Dull Newydd a gewch.

Gwiriwch beth sydd angen i chi ei ddweud wrth eich anogwr gwaith os ydych chi neu鈥檆h partner yn gwneud unrhyw waith tra byddwch chi鈥檔 cael JSA Dull Newydd.

Os ydych chi mewn addysg

Os ydych chi鈥檔 astudio鈥檔 rhan-amser efallai y byddwch chi鈥檔 gymwys i gael JSA.

Os ydych chi鈥檔 astudio鈥檔 llawn amser, efallai y byddwch chi鈥檔 gymwys os yw鈥檙 canlynol i gyd yn berthnasol:

  • mae鈥檙 cymhwyster rydych chi鈥檔 astudio ar ei gyfer ar Lefel 4 neu鈥檔 is
  • nid ydych chi鈥檔 cael benthyciad cynhaliaeth, grant na bwrsariaeth ar gyfer y cymhwyster rydych chi鈥檔 ei astudio
  • gallwch chi fodloni鈥檙 gofynion sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith y cytunwyd arnynt gyda鈥檆h anogwr gwaith

Hawlio Credyd Cynhwysol a JSA Dull Newydd

Efallai y byddwch yn gallu cael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd neu yn lle JSA Dull Newydd.

Os ydych yn cael y ddau fudd-dal, bydd eich taliadau JSA Dull Newydd yn:

  • cyfrif fel incwm wrth hawlio Credyd Cynhwysol
  • lleihau swm y Credyd Cynhwysol a gewch

Bydd eich JSA Dull Newydd fel arfer yn cael ei dalu鈥檔 fwy rheolaidd na Chredyd Cynhwysol. Byddwch hefyd yn cael credydau Yswiriant Gwladol gwahanol sy鈥檔 cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth ac yn eich helpu i fod yn gymwys i gael budd-daliadau eraill.

Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol