Lwfans Gweini
Trosolwg
Mae Lwfans Gweini yn helpu gyda chostau ychwanegol os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy鈥檔 ddigon difrifol fel bod angen rhywun arnoch i helpu i ofalu amdanoch.
Mae yna ffordd wahanol o wneud cais os ydych yn nes谩u at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd bod gennych salwch sy鈥檔 cyfyngu ar fywyd).
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) a fformat hawdd i鈥檞 ddarllen.
Mae鈥檔 cael ei dalu ar 2 gyfradd wahanol ac mae faint a gewch yn dibynnu ar lefel y gofal sydd ei angen arnoch oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd.
Gallech gael 拢73.90 neu 拢110.40 yr wythnos i helpu gyda chymorth personol os yw鈥檙 ddau o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- mae gennych anabledd corfforol, anabledd meddwl, neu gyflwr iechyd
- rydych yn Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu鈥檔 h欧n
Nid yw鈥檔 cynnwys anghenion symudedd.
Gallech gael Credyd Pensiwn ychwanegol, Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor os ydych yn cael Lwfans Gweini.
Nid oes rhaid i chi gael rhywun yn gofalu amdanoch er mwyn gwneud cais.
Os oes gennych ofalwr, efallai y gallent cael Lwfans Gofalwr os oes gennych anghenion gofal sylweddol.
Os ydych yn byw yn yr Alban
Bydd angen i chi wneud cais am yn lle Lwfans Gweini.
Os ydych yn cael Lwfans Gweini ar hyn o bryd
Nid oes angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn - byddwch yn cael eich symud yn awtomatig i Daliad Anabledd Oed Pensiwn o wanwyn 2025.
Pan fydd y symud yn dechrau, byddwch yn cael llythyrau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Social Security Scotland.
.
Os ydych yn symud o鈥檙 Alban i Gymru neu Loegr
Os ydych yn cael Taliad Anabledd Oedran Pensiwn, rhaid i chi:
Bydd eich Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn dod i ben 13 wythnos ar 么l i chi symud. Gwnewch gais am Lwfans Gweini cyn gynted ag y byddwch yn symud i Gymru neu Loegr. Os na wnewch hynny, gallai eich taliadau gael eu heffeithio.