Mabwysiadu llysblentyn

Mae angen i chi hysbysu鈥檆h cyngor lleol os ydych chi eisiau mabwysiadu plentyn eich priod neu鈥檆h partner. Mae鈥檔 rhaid i chi wneud hyn o leiaf 3 mis cyn i chi wneud cais i鈥檙 llys am orchymyn mabwysiadu.

Hefyd, mae鈥檔 rhaid bod y plentyn wedi bod yn byw gyda鈥檙 ddau ohonoch am o leiaf 6 mis.

Yr asesiad mabwysiadu

Mae鈥檙 broses fabwysiadu yn debyg i asesiad gan asiantaeth fabwysiadu.

Fe ddefnyddir yr asesiad i helpu鈥檙 llys i benderfynu a allwch chi fabwysiadu鈥檙 plentyn (yn hytrach nag anfon y cais i鈥檞 benderfynu gan banel mabwysiadu annibynnol).

Bydd y llys yn gofyn i鈥檆h cyngor lleol ddarparu adroddiad ar:

  • eich partner
  • y plentyn
  • y rhiant genedigol arall

Bydd yr adroddiad yn cael ei baratoi gan weithiwr cymdeithasol ac fe鈥檌 ddefnyddir i helpu鈥檙 llys i wneud penderfyniad.

Os cymeradwyir y cais, bydd y gorchymyn llys mabwysiadu yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i chi am y plentyn - ochr yn ochr 芒鈥檆h priod neu鈥檆h partner.

Bydd y gorchymyn hefyd yn dileu cyfrifoldeb rhiant:

  • rhiant genedigol arall y plentyn
  • unrhyw un arall sydd 芒 chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn

Mae gorchymyn mabwysiadu yn canslo unrhyw fath arall o orchymyn llys, er enghraifft, sut a phryd all rhiant genedigol plentyn ymweld 芒鈥檙 plentyn.