Newid y cyfeiriad ar eich trwydded yrru

Sgipio cynnwys

Gwneud cais drwy鈥檙 post

Gallwch hefyd newid eich cyfeiriad ar eich trwydded drwy鈥檙 post. Mae鈥檙 broses yn wahanol yn ddibynnol os oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun neu bapur.

Bydd eich trwydded yrru fel arfer yn cyrraedd o fewn 3 wythnos. Gallai gymryd yn hirach os bydd angen i DVLA wirio eich hunaniaeth neu鈥檆h manylion meddygol. Cysylltwch 芒 DVLA os nad yw wedi cyrraedd o fewn 3 wythnos.

Mae鈥檔 rhaid ichi hefyd:

Gallwch gael dirwy i fyny at 拢1,000 os nad ydych yn rhoi gwybod i DVLA pan fydd eich cyfeiriad yn newid.

Trwydded yrru cerdyn-llun

Cwblhewch yr adran 鈥榥ewidiadau鈥� ar y llythyr D741W a ddaeth gyda鈥檆h trwydded.

Wedyn anfonwch y drwydded yrru cerdyn-llun ynghyd 芒鈥檙 llythyr i DVLA.

DVLA
Abertawe
SA99 1BN

Os nad oes gennych eich D741W, defnyddiwch ffurflen gais trwydded yrru D1W ar gyfer ceir a beiciau modur neu D2W ar gyfer lor茂au a bysiau - gallwch gael y rhain yn y mwyafrif o .

Os ydych chi am newid eich ffotograff ar yr un pryd, cwblhewch D1W 鈥榗ais am drwydded yrru鈥�, sydd ar gael yn y mwyafrif o . Bydd hefyd angen ichi anfon:

  • ffotograff math pasbort diweddar wedi鈥檌 argraffu yn ddiweddar
  • siec neu archeb bost am 拢17, yn daladwy i DVLA (nid oes ffi os ydych dros 70 neu fod gennych drwydded cyfnod byr meddygol)

Ni dderbynnir sieciau sydd wedi cael eu difetha neu eu newid.

Os ydych chi am newid eich enw ar yr un pryd, cwblhewch D1W 鈥榗ais am drwydded yrru鈥�, sydd ar gael yn y mwyafrif o .

Bydd hefyd angen ichi anfon dogfennau gwreiddiol yn eich enw newydd.

Trwydded yrru bapur

Anfonwch y canlynol i DVLA:

  • ffurflen D1W 鈥楥ais am drwydded yrru鈥� wedi ei chwblhau am drwyddedau car a beic modur, neu ffurflen D2W 鈥楥ais am drwydded yrru lori/bws鈥� wedi鈥檌 chwblhau am drwyddedau lori a bws, sydd ar gael yn y mwyafrif o
  • eich trwydded yrru
  • dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau eich hunaniaeth
  • ffotograff pasbort