Pensiwn Newydd y Wladwriaeth

Sgipio cynnwys

Etifeddu neu gynyddu Pensiwn y Wladwriaeth gan briod neu bartner sifil

Efallai y byddwch yn gallu etifeddu taliad ychwanegol ar ben eich Pensiwn newydd y Wladwriaeth os ydych yn weddw.

Ni fyddwch yn gallu etifeddu unrhyw beth os byddwch yn ailbriodi neu鈥檔 ffurfio partneriaeth sifil newydd cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Efallai y byddwch yn etifeddu rhan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth eich partner ymadawedig os dechreuodd eich priodas neu bartneriaeth sifil gyda nhw cyn 6 Ebrill 2016 ac mae un o鈥檙 canlynol yn berthnasol:

  • cyrhaeddodd eich partner oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
  • gwnaethant farw cyn 6 Ebrill 2016 ond byddent wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar 么l y dyddiad hwnnw

Bydd yn cael ei dalu gyda鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth.

Etifeddu taliad a ddiogelir

Byddwch yn etifeddu hanner taliad a ddiogelir eich partner os dechreuodd eich priodas neu bartneriaeth sifil gyda nhw cyn 6 Ebrill 2016 a:

  • 聽bu iddynt gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar 么l 6 Ebrill 2016
  • gwnaethant farw ar neu ar 么l 6 Ebrill 2016

Bydd yn cael ei dalu gyda鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth.

Etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfandaliad

Efallai y byddwch yn etifeddu rhan o neu holl Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol eich partner neu gyfandaliad os:

  • bu iddynt farw tra roedd eu Pensiwn y Wladwriaeth wedi鈥檌 oedi (cyn gwneud cais amdano) neu eu bod wedi dechrau ei hawlio ar 么l gohirio
  • bu iddynt gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
  • roeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil pan fu iddynt farw

Cofnod Yswiriant Gwladol eich partner a鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth

Mae Pensiwn newydd y Wladwriaeth yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol chi.

Os gwnaethoch dalu cyfraniadau cyfradd is i ferched priod, efallai y byddwch yn gallu cynyddu eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth os ydych yn gymwys.

Os byddwch yn ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil

Gall y llysoedd wneud 鈥榞orchymyn rhannu pensiwn鈥� os ydych yn ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil.

Byddwch yn cael taliad ychwanegol ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth os yw eich cyn-bartner yn cael gorchymyn i rannu eu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth neu daliad a ddiogelir gyda chi

Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei leihau os cewch orchymyn i rannu eich Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth neu daliad a ddiogelir gyda鈥檆h partner.