Delio ag yst芒d rhywun sydd wedi marw

Sgipio cynnwys

Rhoi gwybod i CThEF am incwm yst芒d

Mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i chi anfon gwybodaeth at Gyllid a Thollau EF (CThEF) am incwm yr yst芒d o鈥檙 diwrnod ar 么l y farwolaeth hyd at y dyddiad yr oedd popeth wedi鈥檌 drosglwyddo i鈥檙 buddiolwyr (y 鈥榗yfnod gweinyddu鈥�).

Mae鈥檙 hyn y mae angen i chi ei anfon yn dibynnu ar y canlynol:

  • gwerth yr yst芒d
  • faint o incwm a gynhyrchwyd gan yr yst芒d yn ystod y cyfnod hwn
  • a oes unrhyw dreth i鈥檞 thalu

Pryd nad oes yn rhaid i chi roi gwybod am yr yst芒d

Hyd at 5 Ebrill 2024, os mai llog o gyfrif banc oedd yr unig incwm a gafodd yr yst芒d yn ystod y cyfnod gweinyddu, a hynny鈥檔 llai na 拢500, nid oes rhaid i chi roi gwybod i CThEF am yr yst芒d.

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, os yw incwm yr yst芒d yn llai na 拢500 o unrhyw ffynhonnell, nid oes angen i chi roi gwybod i CThEF am yr yst芒d.

Mae鈥檙 swm sy鈥檔 rhydd o dreth, sef 拢500, yn berthnasol i鈥檙 canlynol:

  • pob blwyddyn dreth yn ystod y cyfnod gweinyddu, ond ni allwch drosglwyddo unrhyw swm nas defnyddiwyd o un flwyddyn i鈥檙 un nesaf
  • pob math o incwm, heblaw am gyfrifon ISA, sy鈥檔 dal i fod yn esempt rhag Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf hyd nes bod yr yst芒d wedi鈥檌 chau neu hyd at 3 blynedd ar 么l marwolaeth y person

Rhoi gwybod am ystadau 鈥榮yml鈥�

Os yw pob un o鈥檙 canlynol yn berthnasol, dylech roi gwybod am dreth sy鈥檔 ddyledus yn ystod y cyfnod gweinyddu drwy ysgrifennu at CThEF (yr enw ar hyn yw 鈥榯refniadau anffurfiol鈥�):

  • cafodd gwerth yr yst芒d ei nodi fel llai na 拢2.5 miliwn pan fu鈥檙 person farw
  • mae cyfanswm y Dreth Incwm a鈥檙 Dreth Enillion Cyfalaf sy鈥檔 ddyledus yn llai na 拢10,000
  • ni wnaethoch werthu mwy na gwerth 拢500,000 o asedion mewn unrhyw flwyddyn dreth unigol yn ystod y cyfnod gweinyddu

I roi gwybod am yr yst芒d, anfonwch lythyr at CThEF ar ddiwedd y cyfnod gweinyddu gan gynnwys:

  • eich enw, cyfeiriad a rhif ff么n
  • enw, cyfeiriad, rhif Yswiriant Gwladol, a Chyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) y person a fu farw
  • unrhyw Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf sy鈥檔 ddyledus o hyd ar gyfer y cyfnod gweinyddu cyfan
  • unrhyw Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf yr ydych wedi rhoi gwybod amdanynt ac wedi eu talu yn ystod y cyfnod gweinyddu, er enghraifft os gwnaethoch werthu eiddo

Talu Wrth Ennill a Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Bydd CThEF wedyn yn anfon manylion atoch ar sut i dalu unrhyw dreth sy鈥檔 ddyledus gan yr yst芒d.

Rhoi gwybod am ystadau 鈥榗ymhleth鈥�

Os na allwch ddefnyddio trefniadau anffurfiol mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru鈥檙 yst芒d ar-lein ac anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer yr yst芒d.

Mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru erbyn 5 Hydref ar 么l y flwyddyn dreth rydych yn anfon Ffurflen Dreth ar ei chyfer.

Er enghraifft, i anfon Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 (sy鈥檔 dod i ben ar 5 Ebrill 2024) mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru erbyn 5 Hydref 2024.

I gofrestru yst芒d, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfrif Porth y Llywodraeth fel 鈥楽efydliad鈥� 鈥� gallwch greu hyn cyn i chi fewngofnodi am y tro cyntaf
  • cyfeiriad e-bost
  • eich manylion, gan gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol neu rif pasbort
  • manylion y person a fu farw, gan gynnwys rhif Yswiriant Gwladol y person hwnnw

Bydd arnoch angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth ar wah芒n ar gyfer pob yst芒d yr ydych yn ei chofrestru.

Os ydych yn asiant bydd angen i chi ddefnyddio鈥檆h cyfrif gwasanaethau asiant. Bydd angen caniat芒d gan y cynrychiolydd personol arnoch i allu cael at fanylion yr yst芒d.

.

Ar 么l i chi gofrestru, byddwch yn gallu cadw rheolaeth ar wybodaeth am yr yst芒d.

Mewngofnodwch i鈥檆h cyfrif er mwyn:

  • diweddaru eich manylion
  • diweddaru manylion yr yst芒d
  • penodi asiant
  • cau鈥檙 yst芒d ar 么l iddi gael ei rhannu

Ar 么l i chi gofrestru yst芒d

Bydd CThEF yn anfon UTR atoch ar gyfer yr yst芒d cyn pen 15 diwrnod gwaith. Defnyddiwch hwn i wneud un o鈥檙 canlynol:

Mae鈥檔 rhaid i chi dalu unrhyw dreth sy鈥檔 ddyledus erbyn y 31 Ionawr nesaf yn dilyn y flwyddyn dreth yn eich Ffurflen Dreth (yr un dyddiad cau sydd ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth ar-lein).