Taliad Tanwydd Gaeaf
Bydd y Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer 2025 i 2026 yn cael ei wneud i bawb yng Nghymru a Lloegr a aned cyn 22 Medi 1959, oni bai eich bod yn dewis peidio 芒鈥檌 gael. Gallech gael naill ai 拢200 neu 拢300 i鈥檆h helpu i dalu eich biliau gwresogi ar gyfer y gaeaf.
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth - bydd taliadau鈥檔 cael eu gwneud yn awtomatig.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Os yw eich incwm dros 拢35,000, bydd eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei adennill yn ddiweddarach trwy CThEF.
Bydd manylion y taliad 2025 i 2026 ar gael erbyn diwedd mis Mehefin 2025.
Os ydych yn byw yn Yr Alban
Ni allwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf. Efallai y byddwch .
Help arall gyda biliau gwresogi
Gallech hefyd gael:
- Taliad Tywydd Oer - os ydych yn cael rhai budd-daliadau a bod y tymheredd yn gostwng i radd sero Celsius neu is am 7 diwrnod yn olynol
- y Disgownt Cartref Cynnes - mae hwn yn ostyngiad o 拢150 ar eich biliau os ydych yn cael Credyd Pensiwn neu os ydych yn byw mewn cartref incwm isel
- cymorth gan y Gronfa Cymorth i Gartrefi, os ydych yn gymwys o dan reolau eich cyngor lleol