Talu鈥檆h bil treth Hunanasesiad
Drwy'ch cod treth
Gallwch dalu鈥檆h bil treth Hunanasesiad drwy鈥檆h cod treth TWE, cyn belled 芒 bod yr holl amodau isod yn berthnasol:
- mae arnoch lai na 拢3,000 ar eich bil treth (ni allwch wneud taliad rhannol er mwyn cyrraedd y trothwy hwn)
- rydych eisoes yn talu treth drwy TWE, er enghraifft, rydych yn gyflogai neu鈥檔 cael pensiwn cwmni
- gwnaethoch gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth ar bapur erbyn 31 Hydref, neu鈥檆h Ffurflen Dreth ar-lein erbyn 30 Rhagfyr
Sut mae鈥檔 gweithio
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn casglu鈥檙 hyn sydd arnoch yn awtomatig drwy鈥檆h cod treth os ydych yn bodloni pob un o鈥檙 3 amod, oni bai eich bod wedi gofyn yn benodol iddynt beidio 芒 gwneud hynny (ar eich Ffurflen Dreth).
Os nad ydych yn gymwys, ni fyddwch yn gallu talu yn y ffordd hon.
Pryd na allwch dalu drwy鈥檆h cod treth
Ni fyddwch yn gallu talu鈥檆h bil treth drwy鈥檆h cod treth TWE os yw鈥檙 amodau isod yn berthnasol:
- nid oes gennych ddigon o incwm TWE i CThEF allu casglu鈥檙 dreth sydd arnoch
- byddech yn talu mwy na 50% o鈥檆h incwm TWE mewn treth
- yn y pen draw, byddech yn talu mwy na dwywaith cymaint o dreth ag yr ydych yn ei thalu fel arfer
- roedd arnoch 拢3,000 neu fwy, ond gwnaethoch daliad rhannol i ostwng y swm sydd arnoch i lai na 拢3,000
Os ydych yn hunangyflogedig, ni allwch dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 drwy鈥檆h cod treth, oni bai bod yr Yswiriant Gwladol wedi bod yn ddyledus ers cyn 6 Ebrill 2015. Mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio un o鈥檙 dulliau talu eraill erbyn y dyddiad cau yn lle hynny.
Sut y gwneir didyniadau
Bydd y dreth sydd arnoch yn cael ei thynnu oddi wrth eich cyflog neu鈥檆h pensiwn fesul rhandaliad cyfartal dros 12 mis, ynghyd 芒鈥檆h didyniadau treth arferol.