Treth Enillion Cyfalaf: yr hyn yr ydych yn talu’r dreth arno, cyfraddau a lwfansau
Printable version
1. Trosolwg
Mae Treth Enillion Cyfalaf yn dreth ar yr elw pan fyddwch yn gwerthu (neu’n ‘gwaredu�) rhywbeth (‘ased�) y mae ei werth wedi cynyddu.
Yr ennill a wnewch sy’n cael ei drethu, nid swm yr arian a gewch. Er enghraifft, os gwnaethoch brynu llun am £5,000 a’i werthu yn ddiweddarach am £25,000, rydych wedi gwneud elw o £20,000 (£25,000 minws £5,000).
Mae rhai asedion yn rhydd o dreth. Hefyd, does dim rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf os yw’ch holl enillion mewn blwyddyn o dan eich lwfans rhydd o dreth.
Os gwnaethoch werthu eiddo preswyl yn y DU ar neu ar ôl 6 Ebrill 2020 a bod gennych dreth ar enillion i’w talu, gallwch adrodd a thalu gan ddefnyddio Treth Enillion Cyfalaf ar gyfrif eiddo’r DU.
²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gwaredu ased
Mae gwaredu ased yn cynnwys:
- ei werthu
- ei roi i ffwrdd fel rhodd, neu ei drosglwyddo i rywun arall
- ei gyfnewid am rywbeth arall
- cael iawndal ar ei gyfer � er enghraifft, taliad yswiriant os yw’r ased wedi’i golli neu wedi’i ddinistrio
2. Yr hyn rydych yn talu’r doll arno
Rydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar yr ennill pan fyddwch yn gwerthu (neu’n �gwaredu�):
- y rhan fwyaf o eiddo personol (yn agor tudalen Saesneg) sy’n werth £6,000 neu fwy, ac eithrio eich car
- eiddo nad yw’n brif gartref
- eich prif gartref, os ydych wedi ei roi ar osod neu ei ddefnyddio ar gyfer busnes, neu os yw’n fawr iawn (yn agor tudalen Saesneg)
- unrhyw gyfranddaliadau (yn agor tudalen Saesneg) nad ydynt mewn ISA na PEP
- asedion busnes (yn agor tudalen Saesneg)
Yr enw ar y rhain yw ‘asedion trethadwy�.
Os byddwch yn gwerthu crypto-asedion (megis crypto-arian neu bitcoin) neu’n eu rhoi i ffwrdd, dylech wirio a oes yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg).
Yn dibynnu ar yr ased, efallai y byddwch yn gallu gostwng unrhyw dreth rydych yn ei thalu drwy hawlio rhyddhad.
Os byddwch yn gwaredu ased rydych yn berchen arno ar y cyd â rhywun arall, mae’n rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar eich cyfran o’r ennill.
Pryd na fyddwch yn ei thalu
Dim ond ar gyfanswm eich enillion sydd dros lwfans rhydd o dreth blynyddol y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf.
Fel arfer, ni fyddwch yn talu treth ar roddion i’ch gŵr, i’ch gwraig, i’ch partner sifil neu i elusen.
Yr hyn nad ydych yn talu’r dreth arno
Nid ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar asedion penodol, gan gynnwys enillion a wnewch yn sgil:
- ISAs neu PEPs
- giltiau llywodraeth y DU a Bondiau Premiwm
- enillion o fetio, y loteri ²Ô±ð³Ü’r pyllau pêl-droed
Pan fo rhywun yn marw
Pan fyddwch yn etifeddu ased, fel arfer telir Treth Etifeddiant gan ystâd y person sydd wedi marw. Dim ond os byddwch yn gwaredu’r ased yn nes ymlaen y bydd yn rhaid i chi gyfrifo a oes angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf.
Asedion tramor
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf, hyd yn oed os yw’ch ased dramor.
Mae rheolau arbennig (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn breswylydd yn y DU ond nad yw’ch cartref parhaol yn y DU.
Os ydych dramor
Mae’n rhaid i chi dalu treth ar enillion a wnewch ar eiddo a thir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) hyd yn oed os ydych yn ddibreswyl at ddibenion treth (yn agor tudalen Saesneg).
Nid ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar asedion eraill yn y DU � er enghraifft, cyfranddaliadau mewn cwmnïau yn y DU � oni bai:
- rydych yn dychwelyd i’r DU (yn agor tudalen Saesneg) cyn pen 5 mlynedd ar ôl gadael
- rydych yn gwerthu cyfranddaliadau mewn cwmni sy’n ‘gyfoethog yn eiddo’r DU� ac rydych yn bodloni’r amodau ar gyfer gwarediad anuniongyrchol
Mae cwmni yn gyfoethog yn eiddo’r DU os yw 75% neu fwy o werth asedau gros y cwmni yn dir y DU. Dysgwch ragor am werthu neu waredu eiddo a thir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) i wirio a ydych yn gwneud gwarediad anuniongyrchol.
3. Lwfansau Treth Enillion Cyfalaf
Dim ond ar gyfanswm eich enillion sydd dros eich lwfans rhydd o dreth (a elwir yn Swm Eithriedig Blynyddol) y mae’n rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf.
Y lwfans rhydd o dreth ar gyfer Enillion Cyfalaf yw:
- £3,000
- £1,500 ar gyfer ymddiriedolaethau
Gallwch weld lwfansau rhydd o dreth ar gyfer blynyddoedd blaenorol.
Hefyd, efallai y byddwch yn gallu gostwng eich bil treth drwy ddidynnu colledion neu drwy hawlio rhyddhad � mae hyn yn dibynnu ar yr ased.
4. Rhoddion i’ch priod neu i elusen
Mae rheolau arbennig ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf ar roddion neu ar asedion rydych yn eu gwaredu i’r canlynol:
- eich priod neu bartner sifil
- elusen
²Ñ²¹±ð’r rheolau arferol yn berthnasol ar gyfer rhoddion i bobl eraill.
Eich priod neu bartner sifil
Nid ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar asedion rydych yn eu rhoi neu eu gwerthu i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil, oni bai bod un o’r canlynol yn wir:
- gwnaethoch wahanu ac ni wnaethoch fyw gyda’ch gilydd (yn agor tudalen Saesneg) ar unrhyw adeg yn y flwyddyn dreth honno
- gwnaethoch roi nwyddau iddo, er mwyn i’w fusnes eu gwerthu
²Ñ²¹±ð’r flwyddyn dreth o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
Os bydd yn gwerthu’r ased yn nes ymlaen
Efallai y bydd yn rhaid i’ch priod neu bartner sifil dalu treth ar unrhyw ennill, os bydd yn gwaredu’r ased yn nes ymlaen.
Cyfrifir ei ennill ar sail y gwahaniaeth rhwng gwerth yr ased pan ddaeth yn eiddo i chi am y tro cyntaf a’i werth pan wnaeth ei waredu.
Os mai cyn mis Ebrill 1982 oedd hyn, dylai’ch priod neu bartner sifil gyfrifo’i ennill gan ddefnyddio’r gwerth marchnadol ar 31 Mawrth 1982 yn lle hynny.
Dylai gadw cofnod o’r hyn a dalwyd gennych am yr ased.
Rhoddion i elusennau
Does dim rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar asedion rydych yn eu rhoi i ffwrdd i elusennau.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu os byddwch yn gwerthu ased i elusen, os yw’r ddau beth canlynol yn wir:
- rydych yn ei werthu am fwy na’r hyn a dalwyd gennych amdano
- rydych yn ei werthu am lai na’r gwerth marchnadol
Cyfrifwch eich ennill gan ddefnyddio’r swm y mae’r elusen yn ei dalu i chi mewn gwirionedd, yn hytrach na gwerth yr ased.
5. Cyfrifo a oes angen i chi dalu
Mae’n rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch yn gwerthu ased, os yw cyfanswm eich enillion trethadwy dros eich lwfans Treth Enillion Cyfalaf blynyddol.
Cyfrifo cyfanswm eich enillion trethadwy
-
Cyfrifwch yr ennill ar gyfer pob ased (neu ar gyfer eich cyfran chi o ased, os ydyw mewn perchnogaeth ar y cyd). Gwnewch hyn ar gyfer yr eiddo personol (yn agor tudalen Saesneg), y cyfranddaliadau neu fuddsoddiadau (yn agor tudalen Saesneg), yr eiddo yn y DU ²Ô±ð³Ü’r asedion busnes (yn agor tudalen Saesneg) rydych wedi’u gwaredu yn y flwyddyn dreth.
-
Adiwch yr enillion o bob ased at ei gilydd.
-
Didynnwch unrhyw golledion caniataol.
²Ñ²¹±ð’r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
Bydd angen i chi roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf a’i thalu os yw’ch enillion trethadwy dros eich lwfans.
Os yw cyfanswm eich enillion yn llai na’r lwfans rhydd o dreth
Does dim rhaid i chi dalu treth os yw cyfanswm eich enillion trethadwy yn llai na’ch lwfans Treth Enillion Cyfalaf.
Mae angen i chi roi gwybod am eich enillion o hyd, a hynny ar eich Ffurflen Dreth, os yw’r ddau beth canlynol yn wir:
- roedd y cyfanswm y gwnaethoch werthu’r asedion amdano dros £50,000Â
- rydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
²Ñ²¹±ð’r rheolau hyn yn berthnasol o flwyddyn dreth 2023 i 2024 ymlaen.
Ar gyfer y blynyddoedd treth cyn 2023 i 2024, mae angen i chi roi gwybod am eich enillion o hyd, a hynny ar eich Ffurflen Dreth, os yw’r ddau beth canlynol yn wir:
- roedd y cyfanswm y gwnaethoch werthu’r asedion amdano dros 4 gwaith yn fwy na’ch lwfansÂ
- rydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
Mae rheolau gwahanol ar gyfer rhoi gwybod am golled.
Os ydych yn ddibreswyl
Mae angen i chi roi gwybod i CThEF pan fyddwch yn gwerthu eiddo neu dir (yn agor tudalen Saesneg), hyd yn oed os yw’ch ennill o dan y lwfans rhydd o dreth neu os ydych yn gwneud colled. Nid yw pobl sy’n ddibreswyl yn talu treth ar enillion cyfalaf eraill.
6. Rhoi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf a’i thalu
Nid ydych yn cael bil ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf. Mae’n rhaid i chi gyfrifo a yw cyfanswm eich enillion yn uwch na’ch lwfans sy’n rhydd o dreth.
Os yw cyfanswm eich enillion trethadwy yn uwch na’ch lwfans bydd angen i chi adrodd a thalu Treth Enillion Cyfalaf.
Mae’n bosibl y cewch ostyngiad treth os oeddech yn gwerthu eiddo a oedd yn brif gartref i chi (yn agor tudalen Saesneg).
Pryd i adrodd a thalu
Mae’n rhaid i chi adrodd am unrhyw enillion cyfalaf a thalu unrhyw arian sy’n ddyledus gennych erbyn y dyddiad cau.
Dyddiad gwerthu (neu ‘gwaredu�) | Pryd mae’n rhaid i chi adrodd a thalu |
---|---|
Os gwnaethoch werthu eiddo preswyl yn y DU gyda dyddiad cwblhau ar neu ar ôl 27 Hydref 2021 | Cyn pen 60 diwrnod |
Os gwnaethoch werthu eiddo preswyl yn y DU gyda dyddiad cwblhau rhwng 6 Ebrill 2020 a 26 Hydref 2021 | Cyn pen 30 diwrnod |
Os oes gennych enillion eraill i’w hadrodd | Yn y flwyddyn dreth ar ôl i chi werthu neu waredu ased os ydych yn defnyddio Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Os ydych chi’n gymwys, mae’n bosibl y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Treth Enillion Cyfalaf ‘amser real i adrodd erbyn 31 Rhagfyr yn y flwyddyn dreth ar ôl y gwerthiant |
Peidiwch ag aros tan y flwyddyn dreth nesaf i adrodd am enillion ar eiddo preswyl y DU a werthwyd ers 6 Ebrill 2020. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosb, fel arall.
Os nad ydych yn breswylydd yn y DU
Mae’n rhaid i chi adrodd holl werthiannau eiddo neu dir y DU (yn agor tudalen Saesneg) (preswyl a Dibreswyl) os nad ydych yn breswyl yn y DU, hyd yn oed os nad oes gennych dreth i’w thalu.
7. Cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf
Mae’n bosibl y byddwch yn talu cyfradd dreth ar enillion o eiddo preswyl sy’n wahanol i’r gyfradd rydych yn ei thalu ar asedion eraill ar gyfer gwarediadau sy’n digwydd ar neu cyn 29 Hydref 2024.
Fel arfer, nid ydych yn talu treth pan fyddwch yn gwerthu’ch cartref (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn talu Treth Incwm cyfradd uwch
Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch neu’n drethdalwr cyfradd ychwanegol, bydd y swm yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar ddyddiad a math eich enillion.
Enillion o 6 Ebrill 2025 ymlaenÂ
Byddwch yn talu’r canlynol:
- 24% ar eich enillion o eiddo preswyl
- 32% ar eich enillion o�‘buddiant a drosglwyddir� (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn rheoli cronfa buddsoddi
- 24% ar eich enillion o asedion trethadwy eraill
Gallwch weld y cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol.
Os ydych yn talu Treth Incwm cyfradd sylfaenol
Os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol, mae’r gyfradd rydych yn ei thalu yn dibynnu ar faint o enillion a gewch, ar eich incwm trethadwy, ac ar p’un a yw’ch enillion o eiddo preswyl neu o asedion eraill.
Enillion o 6 Ebrill 2025 ymlaenÂ
Byddwch yn talu’r canlynol: Â
- 18% ar eich enillion o eiddo preswyl
- 32% ar eich enillion o�‘buddiant a drosglwyddir� (yn agor tudalen Saesneg) os ydych y rheoli cronfa ariannol
- 18% ar eich enillion o asedion trethadwy eraill
Gallwch weld y cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol.
I gyfrifo’ch cyfradd:Â
-
Cyfrifwch faint o incwm trethadwy sydd gennych � dyma’ch incwm llai’ch Lwfans Personol ac unrhyw ryddhad Treth Incwm arall y mae gennych hawl iddo.
-
Cyfrifwch gyfanswm eich enillion trethadwy.
-
Didynnwch eich lwfans rhydd o dreth oddi wrth gyfanswm eich enillion trethadwy.
-
Adiwch y swm hwn at eich incwm trethadwy.
-
Os yw’r swm hwn o fewn y band Treth Incwm sylfaenol, byddwch yn talu 18% ar yr enillion a wnewch o 6 Ebrill 2025 ymlaen (neu 32% ar fuddiant a drosglwyddir).
-
Ar gyfer unrhyw swm sydd dros y band Treth Incwm sylfaenol, byddwch yn talu 24% ar enillion a wneir o 6 Ebrill 2025 ymlaen (neu 32% ar fuddiant a drosglwyddir).
Enghraifft 1
Rydych yn gwneud enillion (nid o fuddiant a drosglwyddir) ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025. Mae’ch incwm trethadwy (sef eich incwm llai’ch Lwfans Personol ac unrhyw ryddhad Treth Incwm) yn £20,000, ac mae’ch enillion trethadwy yn £12,600.  �
Yn gyntaf, didynnwch y lwfans rhydd o Dreth Enillion Cyfalaf oddi wrth eich enillion trethadwy. Ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, y lwfans yw £3,000 sy’n gadael £9,600 i dalu treth arno.�
Adiwch hwn at eich incwm trethadwy. Oherwydd bod y swm cyfunol, sef £29,600, yn llai na £37,700 (sef y band cyfradd sylfaenol ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026), rydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar gyfradd o 18%.  �
Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu £1,728 mewn Treth Enillion Cyfalaf.
Enghraifft 2
Rydych yn gwneud enillion (nid o fuddiant a drosglwyddir) ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025. Mae’ch incwm trethadwy (sef eich incwm llai’ch Lwfans Personol ac unrhyw ryddhad Treth Incwm) yn £20,000, ac mae’ch enillion trethadwy yn £52,600.
Yn gyntaf, didynnwch y lwfans rhydd o Dreth Enillion Cyfalaf oddi wrth eich enillion trethadwy. Ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, y lwfans yw £3,000 sy’n gadael £49,600 i dalu treth arno. �
Adiwch hwn at eich incwm trethadwy. Oherwydd bod y swm cyfunol, sef £69,600, yn fwy na £37,700 (sef y band cyfradd sylfaenol ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026), rydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar gyfradd o 18% ar £30,270 ac yna 24% ar £19,330.
Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu £10,087.80.
Os oes gennych enillion o eiddo preswyl ac o asedion eraill
Gallwch ddefnyddio’ch lwfans rhydd o dreth yn erbyn yr enillion a fyddai’n cael eu trethu ar y cyfraddau uchaf (er enghraifft, lle y byddech yn talu treth ar gyfradd o 24% neu 32%).
Gallwch weld y cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol.
Os ydych yn ymddiriedolwr, yn gynrychiolydd personol neu’n fusnes
Mae ymddiriedolwyr, neu gynrychiolwyr personol rhywun sydd wedi marw, o 6 Ebrill 2025 yn talu:
- 24% ar eiddo preswyl
- 24% ar asedion trethadwy eraill
Mae cynrychiolwyr personol rhywun sydd wedi marw yn talu 32% ar fuddiant a drosglwyddir.
O 6 Ebrill 2025, byddwch yn talu 14% os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth a bod eich enillion yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch weld y cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol.
8. Os byddwch yn gwneud colled
Gallwch roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am golledion ar ased trethadwy er mwyn gostwng cyfanswm eich enillion trethadwy.
Yr enw ar golledion a ddefnyddir fel hyn yw ‘colledion caniataol�.
Defnyddio colledion i ostwng eich ennill
Pan fyddwch yn rhoi gwybod am golled, mae’r swm yn cael ei ddidynnu oddi wrth yr enillion a wnaethoch yn yr un flwyddyn dreth.
Os yw cyfanswm eich ennill trethadwy yn dal i fod dros y lwfans rhydd o dreth, gallwch ddidynnu colledion sydd heb eu defnyddio o flynyddoedd treth blaenorol. Os byddant yn gostwng eich ennill i’r lwfans rhydd o dreth, gallwch gario’r colledion sy’n weddill ymlaen i flwyddyn dreth yn y dyfodol.
Rhoi gwybod am golledion
Hawliwch am eich colled drwy ei gynnwys ar eich Ffurflen Dreth. Os nad ydych wedi gwneud ennill ar unrhyw adeg, ac os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad, gallwch ysgrifennu i CThEF yn lle hynny.
Does dim rhaid i chi roi gwybod am golledion ar unwaith � gallwch hawlio hyd at 4 blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y gwnaethoch waredu’r ased.
Mae eithriad ar gyfer colledion a wnaed cyn 5 Ebrill 1996 � gallwch hawlio am y rhain o hyd. Mae’n rhaid i chi ddidynnu’r rhain ar ôl unrhyw golledion mwy diweddar.
Colledion wrth waredu asedion i’r teulu a phobl eraill
Eich gŵr, gwraig neu bartner sifil
Fel arfer, nid ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar asedion rydych yn eu rhoi neu’n eu gwerthu i’ch priod neu i’ch partner sifil. Ni allwch hawlio colledion yn erbyn yr asedion hyn.
Aelodau eraill o’r teulu a ‘phobl gysylltiedig�
Ni allwch ddidynnu colled sy’n deillio o roi, gwerthu na gwaredu ased i aelod o’r teulu, oni bai eich bod yn gwrthbwyso ennill o’r un person.
Mae hyn hefyd yn berthnasol i ‘bobl gysylltiedig� megis partneriaid busnes.
Pobl gysylltiedig
Yn ôl diffiniad CThEF, mae pobl gysylltiedig yn cynnwys:
-
eich brodyr, chwiorydd, rhieni, neiniau a theidiau, plant ac wyrion, a’u gwŷr, gwragedd neu bartneriaid sifil
- brodyr, chwiorydd, rhieni, neiniau a theidiau, plant ac wyrion eich gŵr, gwraig neu bartner sifil � a’u gwŷr, gwragedd neu bartneriaid sifil
- partneriaid busnes
- cwmni rydych yn ei reoli
- ymddiriedolwyr, lle mai chi (neu rywun sy’n gysylltiedig â chi) yw’r ‘setlwr�
Hawlio am ased sydd wedi colli ei werth
Gallwch hawlio colledion ar asedion rydych yn dal i berchen arnynt os ydynt yn dod yn ddiwerth, neu’n ‘swm pitw�.
Mae gan CThEF arweiniad ynghylch sut i gyflwyno hawliad am swm pitw (yn agor tudalen Saesneg).
Rheolau arbennig
Mae gan CThEF arweiniad ar y rheolau arbennig ar gyfer colledion:
- pan fo rhywun yn marw (yn agor tudalen Saesneg)
- os ydych yn ddibreswyl ac yn gwerthu eiddo neu dir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg)
- os ydych wedi byw dramor dros dro fel person �dibreswyl (yn agor tudalen Saesneg)�
- o’ch incwm ar gyfranddaliadau sydd heb eu rhestru (yn agor tudalen Saesneg) neu sy’n rhan o’r Cynllun Buddsoddiad Menter (yn agor tudalen Saesneg)
- ar asedion tramor os nad yw’ch ‘domisil� yn y DU a’ch bod wedi hawlio’r �sail trosglwyddo (yn agor tudalen Saesneg)�
9. Cadw cofnodion
Mae angen i chi gasglu cofnodion er mwyn cyfrifo’ch enillion a llenwi’ch Ffurflen Dreth. Mae’n rhaid i chi eu cadw am o leiaf blwyddyn ar ôl y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad.
Bydd angen i chi gadw cofnodion yn hirach os ydych wedi anfon eich Ffurflen Dreth yn hwyr, neu os yw Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi dechrau gwiriad o’ch Ffurflen Dreth.
Mae’n rhaid i fusnesau gadw cofnodion am 5 mlynedd ar ôl y dyddiad cau.
Cofnodion y bydd eu hangen arnoch
Cadwch dderbynebau, biliau ac anfonebau sy’n dangos y dyddiad a’r symiau canlynol:
- faint a daloch am ased
- swm unrhyw gostau ychwanegol fel ffioedd ar gyfer cyngor proffesiynol, Tollau Stamp, costau gwella, neu gostau pennu’r gwerth marchnadol
- faint a gawsoch am yr ased � gan gynnwys pethau fel taliadau a gewch yn nes ymlaen fesul rhandaliad, neu iawndal os cafodd yr ased ei ddifrodi
Dylech hefyd gadw unrhyw gontractau mewn perthynas â phrynu a gwerthu’r ased (er enghraifft, oddi wrth gyfreithwyr neu froceriaid stoc), ynghyd â chopïau o unrhyw brisiadau.
Os nad oes gennych gofnodion
Mae’n rhaid i chi geisio ail-greu’ch cofnodion os na allwch eu hailosod ar ôl iddynt gael eu colli, eu dwyn neu eu dinistrio.
Os byddwch yn llenwi’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio cofnodion sydd wedi’u hail-greu, bydd angen i chi ddangos:
- pan fo ffigurau wedi’u hamcangyfrif � eich bod am i CThEF eu derbyn fel ffigurau terfynol
- pan fo ffigurau’n rhai dros dro � y byddwch yn eu diweddaru’n nes ymlaen gyda’r ffigurau gwirioneddol
10. Gwerth marchnadol
Fel arfer, eich ennill yw’r gwahaniaeth rhwng yr hyn y gwnaethoch ei dalu am eich ased a’r hyn y gwnaethoch ei werthu amdano.
Mae rhai sefyllfaoedd lle y byddwch yn defnyddio’r gwerth marchnadol yn lle hynny.
Sefyllfa | Defnyddiwch y gwerth marchnadol ar y dyddiadau isod |
---|---|
Rhoddion | Dyddiad y rhodd |
Asedion a werthwyd am lai na’u gwerth er mwyn helpu’r prynwr | Dyddiad y gwerthiant |
Asedion a etifeddwyd pan nad ydych yn gwybod gwerth y Dreth Etifeddiant | Dyddiad y farwolaeth |
Asedion yr oeddech yn berchen arnynt cyn mis Ebrill 1982 | 31 Mawrth 1982 |
Gwirio’r gwerth marchnadol
Gall Cyllid a Thollau EM (CThEF) wirio’ch prisiad.
Ar ôl i chi waredu’r ased, llenwch ffurflen �gwiriad prisio ôl-drafodyn (yn agor tudalen Saesneg)�. Dylech ei dychwelyd i’r cyfeiriad sydd ar y ffurflen � dylech ganiatáu o leiaf 3 mis i CThEF ymateb.