Yswiriant Gwladol os ydych yn gweithio dramor

Os ydych yn gweithio dramor, byddwch fel arfer yn talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol (a elwir yn gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU) yn y wlad lle rydych yn gweithio ynddi.

Efallai y bydd angen i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU tra鈥檆h bod yn gweithio dramor. Efallai y bydd angen i chi gael tystysgrif i ddangos eich bod yn talu yn y DU. Mae鈥檔 dibynnu ar ble a pha mor hir yr ydych yn gweithio.

Gwiriwch yr arweiniad ynghylch nawdd cymdeithasol dramor (NI38) i weld rhestr o wledydd sydd 芒 chytundeb nawdd cymdeithasol gyda鈥檙 DU.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gweithio mewn gwlad sydd 芒 chytundeb nawdd cymdeithasol gyda鈥檙 DU

Os oes gan y wlad rydych chi鈥檔 gweithio ynddi gytundeb nawdd cymdeithasol gyda鈥檙 DU, mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU.

Bydd angen i chi gael 鈥榯ystysgrif yswiriant鈥� i ddangos eich bod yn talu Yswiriant Gwladol yn y DU a does dim angen i chi dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad rydych yn gweithio ynddi.

Ewch ati i gael gwybod sut i wneud cais am dystysgrif

Gwiriwch a oes gan wlad gytundeb nawdd cymdeithasol gyda鈥檙 DU, a sut i wneud cais os ydych yn gymwys i gael tystysgrif yswiriant.

Gweithio mewn gwlad sydd heb gytundeb nawdd cymdeithasol gyda鈥檙 DU

Mae angen i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU am y 52 wythnos gyntaf o weithio dramor os ydych yn bodloni pob un o鈥檙 amodau canlynol:

  • rydych yn gweithio dramor dros dro
  • mae gan eich cyflogwr leoliad busnes yn y DU
  • rydych yn breswylydd yn y DU gan amlaf
  • roeddech yn byw yn y DU yn union cyn dechrau gweithio dramor

Bydd eich cyflogwr yn tynnu eich Yswiriant Gwladol o鈥檆h enillion.

Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol

Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yn y DU tra鈥檆h bod yn gweithio dramor.

Gwiriwch a ydych yn gymwys i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol tra ydych dramor.

Bydd eich taliadau鈥檔 diogelu:

Nid yw cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yn cynnwys eich yswiriant iechyd yn y wlad lle rydych yn byw.