Anghytuno 芒 phenderfyniad treth neu gosb

Sgipio cynnwys

Anghytuno 芒 phenderfyniad treth

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhoi gwybod i chi yn ei lythyr o benderfyniad beth i鈥檞 wneud os ydych yn anghytuno.

Fel arfer bydd gennych 30 diwrnod i ddyddiad y llythyr o benderfyniad i naill ai apelio neu dderbyn adolygiad.

Os byddwch yn methu鈥檙 dyddiad cau, bydd angen i chi ddarparu esgus rhesymol.

Mae sut rydych yn herio penderfyniad yn dibynnu a yw鈥檔 dreth uniongyrchol neu anuniongyrchol.

Treth uniongyrchol聽

Mae treth uniongyrchol yn cynnwys:

  • Treth Incwm (gan gynnwys TWE)
  • Treth Gorfforaeth
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • Treth Etifeddiant

Treth anuniongyrchol

Mae treth anuniongyrchol yn cynnwys:

  • TAW
  • Toll Ecs茅is
  • Toll Dramor
  • Trethi Amgylcheddol fel y Dreth Deunydd Pacio Plastig, Treth Dirlenwi neu鈥檙 Ardoll Newid yn yr Hinsawdd

Anghytuno 芒 phenderfyniad treth uniongyrchol

Bydd eich llythyr o benderfyniad yn rhoi gwybod i chi sut i wneud ap锚l ac erbyn pryd y mae鈥檔 rhaid i chi apelio. Mae鈥檙 dyddiad cau fel arfer cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad y llythyr.

Gallwch wneud y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:

  • defnyddio鈥檙 ffurflen apelio a gawsoch gyda鈥檆h llythyr o benderfyniad
  • ysgrifennu at CThEF gan ddefnyddio鈥檙 cyfeiriad ar y llythyr

Os nad oes gennych lythyr na ffurflen ap锚l, gallwch ysgrifennu at y swyddfa CThEF sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檆h Ffurflen Dreth.听

Bydd rhaid i chi roi gwybod i CThEF beth rydych yn anghytuno ag ef a pham.

Gallwch hefyd gynnwys:

  • eich enw neu enw鈥檆h busnes
  • eich cyfeirnod 鈥� er enghraifft eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
  • unrhyw wybodaeth ychwanegol neu unrhyw beth yr ydych yn meddwl bod CThEF wedi鈥檌 fethu
  • y ffigurau cywir yn eich barn chi, a sut yr ydych wedi鈥檜 cyfrifo

Ar 么l i chi anfon eich ap锚l

Bydd y gweithiwr achos a wnaeth y penderfyniad yn edrych ar eich achos eto ac yn ystyried eich ap锚l.听

Bydd eich gweithiwr achos yn ceisio dod i gytundeb 芒 chi. Datrysir y rhan fwyaf o anghytundebau drwy鈥檙 dull hwn. Bydd yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi beth sydd wedi ei benderfynu.

Os na fydd yn newid ei benderfyniad neu os na allwch ddod i gytundeb, bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi.

Byddwch yn cael 30 diwrnod i ddyddiad y cynnig i naill ai dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.听

Fel arfer, mae adolygiadau鈥檔 gynt nag apeliadau i鈥檙 tribiwnlys treth.

Gallwch hefyd ofyn am adolygiad ar unrhyw adeg ar 么l i chi wneud ap锚l 鈥� does dim rhaid i chi aros am ganlyniad yr ap锚l.

I ofyn am adolygiad, ysgrifennwch at yr un swyddfa CThEF yr ydych wedi anfon yr ap锚l ati.

Anghytuno 芒 phenderfyniad treth anuniongyrchol

Bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi gan CThEF yn y llythyr o benderfyniad.

Byddwch yn cael 30 diwrnod i ddyddiad y cynnig i naill ai dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.

Fel arfer, mae adolygiadau鈥檔 gynt nag apeliadau i鈥檙 tribiwnlys treth.

Os hoffech gael adolygiad ond bod angen mwy o amser arnoch (er enghraifft, i gasglu gwybodaeth i鈥檞 rhoi i鈥檙 swyddog adolygu), gallwch ofyn i CThEF ymestyn y dyddiad cau. Mae鈥檔 rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad y cynnig.

Ni allwch gael estyniad i鈥檙 dyddiad cau ar gyfer apelio ar y tribiwnlys treth.

Os yw鈥檆h eitemau wedi鈥檜 hatafaelu, gallwch ofyn am eu cael yn 么l (yn agor tudalen Saesneg).