Esgusodion rhesymol

Fel arfer, bydd angen i chi ddarparu esgus rhesymol os ydych:

  • yn dymuno herio rhai cosbau, er enghraifft cosbau am anfon Ffurflen Dreth neu daliad yn hwyr
  • yn methu dyddiad cau, er enghraifft bod yn hwyr i dderbyn y cynnig o adolygiad neu i apelio yn erbyn penderfyniad

Yr hyn a all gyfrif fel esgus rhesymol

Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth am reswm dilys, er enghraifft:

  • bu farw eich partner neu berthynas agos arall ychydig cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth neu wneud taliad
  • bu鈥檔 rhaid i chi aros yn yr ysbyty鈥檔 annisgwyl, a gwnaeth hynny eich atal rhag delio 芒鈥檆h materion treth
  • roedd gennych salwch difrifol neu salwch a oedd yn bygwth eich bywyd
  • methodd eich cyfrifiadur neu鈥檆h meddalwedd tra oeddech yn paratoi鈥檆h Ffurflen Dreth ar-lein
  • roedd problemau 芒 gwasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF)
  • gwnaeth t芒n, llifogydd neu ladrad eich atal rhag llenwi鈥檆h Ffurflen Dreth
  • roedd oedi gyda鈥檙 post na allech fod wedi鈥檌 ragweld
  • roedd oedi yn ymwneud ag anabledd neu salwch meddwl sydd gennych
  • nid oeddech yn ymwybodol o鈥檆h ymrwymiad cyfreithiol neu roeddech wedi鈥檌 gamddeall
  • roeddech yn dibynnu ar rywun arall (yn agor tudalen Saesneg) i anfon eich Ffurflen Dreth atom, ac ni wnaeth hynny

Mae鈥檔 rhaid i chi anfon eich Ffurflen Dreth neu鈥檆h taliad cyn gynted ag y gallwch.

Yr hyn na fydd yn cael ei gyfrif fel esgus rhesymol

Ni fydd y canlynol yn cael eu derbyn fel esgusodion rhesymol:

  • gwrthodwyd eich siec neu methodd eich taliad gan nad oedd gennych ddigon o arian
  • gwnaethoch ei chael hi鈥檔 rhy anodd defnyddio system ar-lein CThEF
  • ni chawsoch nodyn atgoffa gan CThEF
  • gwnaethoch gamgymeriad yn eich Ffurflen Dreth