Rhoi gwybod am farwolaeth heb gyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith

Cysylltwch 芒鈥檙 sefydliadau canlynol os nad ydych yn medru defnyddio鈥檙 gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Cyllid a Thollau EF (CThEF)

Cysylltwch 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF, a fydd yn cyfrifo a yw鈥檙 swm cywir o dreth wedi鈥檌 thalu gan y person a fu farw. Byddant yn rhoi gwybod i chi ynghylch y canlynol:

  • pa dreth sydd angen iddynt ei chasglu neu ei had-dalu
  • p鈥檜n a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar ran y person 鈥� er enghraifft pan fydd yr yst芒d yn parhau i gael incwm

Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i CThEF pwy sy鈥檔 delio ag arian, eiddo a meddiannau鈥檙 person a fu farw (ysgutor neu weinyddwr yr yst芒d). Yn ogystal, gallwch awdurdodi rhywun arall i weithredu ar eich rhan (er enghraifft, asiant neu gyfreithiwr).

Gall Treth Etifeddiant fod yn ddyledus ar yst芒d person ar 么l iddo farw.

Mae鈥檔 bosibl y gallwch gael cyngor treth yn rhad ac am ddim os ydych ar incwm isel.

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG)

Cysylltwch 芒鈥檙 Swyddfa Cyfraniadau YG (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn canslo taliadau YG person os oeddent yn hunangyflogedig neu yn talu YG gwirfoddol.

Swyddfa Budd-dal Plant

Cysylltwch 芒鈥檙 Swyddfa Budd-dal Plant os yw plentyn neu鈥檙 rhiant yn marw. Mae鈥檔 rhaid i chi wneud hyn cyn pen 8 wythnos o鈥檙 farwolaeth.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

Cysylltwch 芒鈥檙 gwasanaeth profedigaeth er mwyn canslo buddiannau a hawliau鈥檙 unigolyn, gan gynnwys ei Bensiwn y Wladwriaeth. Byddant yn gwirio os ydych yn gymwys i gael cymorth gyda chostau鈥檙 angladd, neu unrhyw fuddiannau eraill.

Gwasanaeth Profedigaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau
Ff么n: 0800 151 2012
Ff么n testun: 0800 731 0464
(os na allwch glywed na siarad dros y ff么n): 18001 yna 0800 151 2012
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur 鈥� dysgwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am hyd at 6pm
Yn y Gymraeg: 0800 731 0453
Ff么n testun Cymraeg: 0800 731 0456
Dysgwch am gostau galwadau

Os oedd y person a fu farw yn byw dramor ar y pryd, cysylltwch 芒鈥檙 Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg) yn lle.

Pensiynau personol, pensiynau gweithle a phensiynau鈥檙 lluoedd arfog

Bydd yr hyn y mae angen i chi ei wneud er mwyn rhoi鈥檙 gorau i daliadau pensiwn yn dibynnu ar y math o bensiwn.

Defnyddiwch y gwasanaeth Olrhain Pensiwn er mwyn dod o hyd i fanylion ynghylch pensiwn gweithle neu bensiwn personol yr unigolyn.

Cysylltwch 芒 Chyn-filwyr y DU (yn agor tudalen Saesneg) os oedd gan yr unigolyn bensiwn gyda鈥檙 lluoedd arfog.

Cerbydau a thrwyddedau gyrru

Cysylltwch ag Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) os oedd gan yr unigolyn drwydded yrru, neu os oedd yn berchen ar gerbyd.

Swyddfa Basbort EF (HMPO)

Llenwch y ffurflen 鈥榃hat to do with a passport when the passport holder has died ?鈥� (yn agor tudalen Saesneg), a鈥檌 hanfon at y cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

Nawdd Cymdeithasol yr Alban

Cysylltwch 芒 Nawdd Cymdeithasol yr Alban er mwyn canslo buddiannau a hawliau鈥檙 unigolyn gan Lywodraeth yr Alban, er enghraifft Taliadau Plant yr Alban. Byddant yn gallu gwirio os ydych yn gymwys i gael cymorth gyda chostau angladd.

Rhadff么n: 0800 182 2222
Rhif ff么n (os ydych y tu allan i鈥檙 DU): +44 (0)1382 931 000 鈥� bydd costau yn berthnasol, ond gallwch ofyn iddynt roi galwad yn 么l i chi
ar gyfer y rhai sy鈥檔 defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am hyd at 6pm
Dysgwch am gostau galwadau

Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC)

Cysylltwch 芒鈥檙 SLC os oedd yr unigolyn yn gwneud ad-daliadau benthyciad Myfyriwr iddynt.