Defnyddio atwrneiaeth arhosol

Printable version

1. Trosolwg

Gallwch wneud penderfyniadau ar ran rhywun os byddant yn eich penodi gan ddefnyddio atwrneiaeth arhosol (LPA). Dylech eu cefnogi i wneud eu penderfyniadau eu hunain pan fo hynny’n bosibl.

Gelwir yr unigolyn sy’n eich penodi yn ‘rhoddwr�. Chi yw ei ‘atwrnai�.

Nid oes angen unrhyw brofiad cyfreithiol arnoch i weithredu fel atwrnai.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyn i chi ddechrau gweithredu fel atwrnai

Paratowch drwy siarad â’r rhoddwr fel eich bod yn barod i wneud penderfyniadau er eu lles gorau. Er enghraifft, gofynnwch am eu cynlluniau ar gyfer eu harian neu sut y maent am gael gofal os ydynt yn mynd yn ddifrifol wael.

Gwnewch yn siŵr bod yr LPA wedi’i chofrestru � ni allwch ddechrau gweithredu hyd nes y bydd hyn wedi’i wneud. Gall gymryd hyd at 16 wythnos i gofrestru atwrneiaeth arhosol. Bydd LPA gofrestredig yn cael ei stampio gyda ‘wedi’i dilysu gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus�.

Gwiriwch y mathau o benderfyniadau y gallwch wneud a phryd y gallwch ddechrau gweithredu fel:

Ar ôl i chi ddechrau gweithredu fel atwrnai

Mae’n rhaid i chi:

  • ddilyn unrhyw ddewisiadau a chyfarwyddiadau (a elwir yn ‘cyfyngiadau ac amodauâ€�) y mae’r rhoddwr wedi’u cynnwys yn yr LPA
  • gweithredu er budd gorau’r rhoddwr a’u helpu i wneud eu penderfyniadau eu hunain lle bo modd
  • cadw arian ac eiddo’r rhoddwr ar wahân i’ch eiddo a’ch arian chi (oni bai eich bod eisoes yn rhannu cyfrif banc)
  • parchu cyfrinachedd y rhoddwr
  • rhoi gwybod i’r rhoddwr a Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) os nad ydych chi am weithredu fel atwrnai mwyach
  • rhoi gwybodaeth i’r OPG am sut mae’r LPA yn cael ei defnyddio, os gofynnir i chi wneud hynny
  • cadw cofnod o’r hyn a wnewch

Ni ddylech:

  • ddefnyddio’ch swyddogaeth er eich lles eich hun
  • gadael i bobl eraill d»å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r LPA i wneud penderfyniadau
  • »å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r LPA oni bai ei bod wedi’i chofrestru

Darllenwch fwy am sut i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall gan gynnwys sut i gael help i wneud penderfyniadau anodd. Mae modd gwirio eich penderfyniadau.

Os nad chi yw’r unig atwrnai

Bydd yr LPA yn dweud wrthych p’un a allwch wneud penderfyniadau ar eich pen eich hun neu ar y cyd ag atwrneiod eraill.

Gwneud penderfyniadau ar y cyd ac yn unigol

Mae hyn yn golygu y gallwch wneud penderfyniadau ar eich pen eich hun neu gydag atwrneiod eraill. Gallwch rannu tasgau. Os na all un o’r atwrneiod weithredu, yna gellir dal gwneud penderfyniadau hebddynt.

Gwneud penderfyniadau ar y cyd

Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r holl atwrneiod gytuno ar y penderfyniad. Os na all un o’r atwrneiod weithredu mwyach, yna ni all unrhyw un o’r atwrneiod eraill weithredu ychwaith oni bai bod y rhoddwr yn nodi fel arall yn eu cyfyngiadau ac amodau (a elwir weithiau’n ‘dewisiadau a chyfarwyddiadau�).

Gwneud penderfyniadau ar y cyd ac ar y cyd ac yn unigol

Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r atwrneiod gytuno ar rai penderfyniadau penodol ond gallant wneud penderfyniadau eraill ar eu pen eu hunain. Os na all un o’r atwrneiod weithredu mwyach, ni fydd yr atwrneiod eraill yn gallu gwneud y penderfyniadau ar y cyd hebddynt oni bai bod y rhoddwr yn nodi fel arall yn eu cyfyngiadau ac amodau (a elwir weithiau’n ‘dewisiadau a chyfarwyddiadau�).

Er enghraifft, gallai’r rhoddwr ddatgan bod rhaid i’r holl atwrneiod gytuno os byddant am werthu cartref y rhoddwr, ond y gallant wneud penderfyniadau eraill ar eu pen eu hunain.

Darllenwch fwy am beth i’w wneud os byddwch yn gwneud penderfyniadau ar y cyd â rhywun sy’n rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai.

2. Atwrneiod eiddo a materion ariannol

Fel atwrnai eiddo a materion ariannol, byddwch yn gwneud (neu’n helpu’r rhoddwr i wneud) penderfyniadau am bethau fel:

  • arian, treth a biliau
  • cyfrifon banc a chyfrifon cymdeithasau adeiladu
  • eiddo a buddsoddiadau
  • pensiynau a budd-daliadau

Gallwch ddechrau gwneud penderfyniadau tra bo’r rhoddwr dal i fod â galluedd meddyliol os yw’r ddau beth canlynol yn wir:

  • mae’r atwrneiaeth arhosol (LPA) yn dweud y cewch wneud hynny

  • mae’r rhoddwr yn rhoi caniatâd i chi wneud hynny

Fel arall, dim ond pan nad oes ganddynt alluedd meddyliol y gallwch ddechrau gwneud penderfyniadau.

Gallwch ddefnyddio arian y rhoddwr i edrych ar ôl eu cartref a phrynu unrhyw beth y mae arnynt ei angen o ddydd i ddydd (er enghraifft, bwyd).

Trafodwch benderfyniadau sy’n effeithio ar drefniadau byw’r rhoddwr, eu gofal meddygol neu eu trefn ddyddiol gyda’r atwrnai iechyd a lles, os oes ganddynt un.

Enghraifft

Os byddwch yn penderfynu gwerthu cartref y rhoddwr, trafodwch ble y bydd y rhoddwr yn byw gyda’i atwrnai iechyd a lles.

Edrych ar ôl arian ac eiddo

Mae’n rhaid i chi gadw arian y rhoddwr ar wahân i’ch arian chi, oni bai bod gennych rywbeth gyda’ch gilydd yn barod fel cyfrif banc ar y cyd neu eich bod yn berchen ar gartref gyda’ch gilydd.

Rheoli arian a chyfrifon y rhoddwr

Bydd banciau a sefydliadau eraill (fel cwmnïau cyfleustodau a darparwyr pensiynau) yn gofyn am brawf eich bod yn atwrnai. Defnyddiwch eich atwrneiaeth arhosol i brofi y gallwch weithredu ar ran y rhoddwr.

Efallai y bydd angen i chi brofi manylion eraill, megis:

  • eich enw, cyfeiriad a’ch dyddiad geni

  • enw neu gyfeiriad y rhoddwr

Efallai y bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth arall hefyd, fel rhif cyfrif.

Gwario arian ar anrhegion a rhoddion

Oni bai bod yr LPA yn dweud fel arall, gallwch wario arian ar:

  • anrhegion i ffrind, aelod o deulu neu rai sy’n adnabod y rhoddwr ar adegau pan fyddech fel arfer yn rhoi anrhegion (fel pen-blwyddi neu unrhyw ddathliad arall)
  • rhoi rhoddion i elusen na fyddai’r rhoddwr yn ei gwrthwynebu, er enghraifft elusen y maent wedi rhoi rhoddion iddi o’r blaen

Mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod am unrhyw fath arall o rodd, hyd yn oed os yw’r rhoddwr wedi eu rhoi o’r blaen. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • talu ffioedd ysgol neu brifysgol rhywun
  • gadael i rywun fyw yn eiddo’r rhoddwr heb dalu rhent y farchnad (mae unrhyw beth y maent yn ei dalu islaw rhent y farchnad yn cyfrif fel rhodd)
  • benthyciadau di-log

Mae’n rhaid i chi wirio bod y rhoddwr yn gallu fforddio rhoi’r anrheg neu rodd, hyd yn oed os yw wedi gwario arian ar y mathau hyn o bethau o’r blaen. Er enghraifft, ni allwch roi eu harian i ffwrdd pe bai hynny’n golygu na allant fforddio talu eu costau gofal.

Darllenwch y canllawiau i gael mwy o wybodaeth am roi anrhegion neu roddion.

Prynu a gwerthu eiddo

Bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol:

  • os yw’r gwerthiant yn is na gwerth y farchnad
  • os ydych am brynu’r eiddo eich hun
  • os ydych yn ei roi i rywun arall

Gwneud ewyllys

Gallwch wneud cais am ewyllys statudol os yw’r rhoddwr angen gwneud ewyllys ond na all ei gwneud ei hun.

Ni chewch newid ewyllys y rhoddwr.

Gellir eich gorchymyn i ad-dalu arian y rhoddwr os ydych yn ei gamddefnyddio neu’n gwneud penderfyniadau er lles eich hun.

3. Atwrneiod iechyd a lles

Fel atwrnai iechyd a lles, byddwch yn gwneud (neu’n helpu’r rhoddwr i wneud) penderfyniadau am bethau fel:

  • trefn ddyddiol y rhoddwr, er enghraifft ymolchi, gwisgo a bwyta
  • gofal meddygol
  • lle mae’r rhoddwr yn byw

Dim ond pan nad yw’r rhoddwr yn meddu ar alluedd meddyliol y gallwch wneud penderfyniadau ar eu rhan.

Rhaid i chi ddweud wrth y bobl sy’n ymwneud â gofal y rhoddwr pan fyddwch yn dechrau gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys:

  • ffrindiau a theulu’r rhoddwr

  • meddyg a staff gofal iechyd eraill y rhoddwr

  • gweithwyr gofal, gweithiwr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol eraill y rhoddwr

Efallai y byddwch angen defnyddio’ch atwrneiaeth arhosol (LPA) i brofi i staff y gallwch weithredu ar ran y rhoddwr.

Defnyddio arian y rhoddwr

Efallai y bydd angen i chi wario arian y rhoddwr ar bethau sy’n cynnal neu’n gwella ansawdd eu bywyd. Gall hyn gynnwys:

  • dillad newydd neu drin gwallt
  • addurno eu cartref neu eu hystafell mewn cartref gofal
  • talu am gymorth ychwanegol fel y gall y rhoddwr fynd allan yn amlach, er enghraifft, i ymweld â ffrindiau neu berthnasau neu i fynd ar wyliau

Mae’n rhaid i chi ofyn am arian gan yr unigolyn sy’n gyfrifol am arian y rhoddwr.

Gwrthod neu gydsynio i driniaeth

Gwiriwch yr LPA am gyfarwyddiadau ynghylch gwrthod neu gydsynio i driniaeth.

Bydd angen i chi:

Ni allwch wneud penderfyniadau am driniaeth feddygol y rhoddwr bob amser, er enghraifft os yw’r rhoddwr wedi gwneud ewyllys byw neu wedi’u cadw mewn ysbyty am resymau iechyd meddwl.

Ewyllysiau byw (‘penderfyniadau ymlaen llaw�)

Mae hwn yn ddatganiad cyfreithiol gan y rhoddwr ynghylch pa driniaethau meddygol nad oes arnynt eu heisiau. Bydd angen i chi roi hwn i’r staff gofal ynghyd â’r LPA.

Mae gan NHS Choices .

Gwneud cais am benderfyniad unwaith ac am byth

Efallai y bydd angen i chi wneud cais am benderfyniad unwaith ac am byth gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniad am driniaeth feddygol:

  • os yw’r ewyllys byw a’r LPA yn rhoi cyfarwyddiadau gwahanol
  • mae’r staff meddygol neu ffrindiau a theulu’r rhoddwr yn anghytuno ynghylch a ddylid parhau â’r driniaeth

4. Dechrau defnyddio atwrneiaeth arhosol

Rhaid i chi gofrestru’r atwrneiaeth arhosol (LPA) cyn i chi allu dechrau gweithredu fel atwrnai.

Os ydych chi’n atwrnai neu’n rhoddwr ar LPA, gallwch d»å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r gwasanaeth hwn i:

  • weld crynodeb un tudalen o LPA

  • gadael i gwmnïau neu sefydliadau weld crynodeb un tudalen o LPA

  • gwirio pwy sydd wedi cael mynediad i LPA

  • gweld faint o bobl a enwir ar LPA sy’n »å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r gwasanaeth

  • gofyn am allwedd actifadu os nad ydych wedi cael un

  • gofyn am allwedd actifadu newydd os ydych wedi colli’ch un chi neu os yw wedi dod i ben

Dim ond ar gyfer LPA a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016 y gallwch d»å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r gwasanaeth hwn.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi greu cyfrif y tro cyntaf y byddwch yn »å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r gwasanaeth hwn.

Yna bydd angen i chi ychwanegu LPA i’ch cyfrif. Byddwch angen:

  • cyfeirnod yr LPA
  • eich allwedd actifadu

Os cafodd yr LPA ei chofrestru ar neu ar ôl 17 Gorffennaf 2020, bydd eich allwedd actifadu yn y llythyr a gawsoch i ddweud wrthych bod yr LPA wedi’i chofrestru.

Os cafodd yr LPA ei chofrestru ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016, gallwch d»å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r gwasanaeth hwn i ofyn am allwedd actifadu newydd neu am un arall. Byddwch angen cyfeirnod yr LPA.

Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein

Os cafodd yr LPA ei chofrestru cyn 1 Ionawr 2016

Ni allwch d»å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer LPA a gofrestrwyd cyn 1 Ionawr 2016. Yn hytrach, bydd angen i chi ddangos yr LPA bapur i bobl neu sefydliadau.

5. Profi eich bod yn atwrnai ar atwrneiaeth arhosol

Gall unrhyw gwmni neu sefydliad rydych yn delio ag o ar ran rhoddwr ofyn i chi brofi eich bod yn atwrnai ar atwrneiaeth arhosol (LPA). Gallwch

  • adael iddynt weld crynodeb ar-lein o’r LPA
  • dangos yr LPA gofrestredig wreiddiol iddynt
  • dangos copi ardystiedig o’r LPA iddynt

Efallai y byddant hefyd yn gofyn i chi brofi manylion eraill, megis:

  • eich enw, cyfeiriad a dyddiad geni
  • enw neu gyfeiriad y rhoddwr
  • gwybodaeth y mae’r sefydliad yn ei defnyddio, megis rhif cyfrif

Gwiriwch pa fath o brawf sydd ei angen arnynt, a sut y dylech ei rannu gyda nhw, cyn i chi anfon unrhyw ddogfennau.

Rhannu crynodeb ar-lein o’r LPA

Os cafodd eich LPA ei chofrestru ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016, gallwch adael i gwmnïau a sefydliadau weld crynodeb ar-lein o fersiwn ddiweddaraf yr LPA.

Bydd angen i chi i gynhyrchu cod mynediad ar gyfer pob LPA.

Gall cwmnïau a sefydliadau d»å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r cod mynediad i weld crynodeb o’ch LPA sy’n cynnwys:

  • os yw dal yn ddilys ac wedi’i chofrestru
  • enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r rhoddwr
  • enwau, cyfeiriadau a dyddiadau geni’r atwrneiod
  • sut y gwneir penderfyniadau gan yr atwrneiod
  • cyfyngiadau ac amodau’r rhoddwr (a elwir weithiau’n ‘dewisiadau a chyfarwyddiadauâ€�)

Mae cod mynediad yn ddilys am 30 diwrnod o’r dyddiad rydych yn ei greu. Mae’r cod yn cynnwys 13 nod ac yn dechrau gyda V.

Os byddwch yn rhoi’r cod mynediad anghywir i sefydliad, efallai na fyddant yn gallu dilysu penderfyniadau y gallwch wneud fel atwrnai.

Defnyddio fersiwn bapur o’r LPA

I brofi eich bod yn atwrnai ar yr LPA, gallwch ddangos fersiwn bapur cofrestredig neu gopi ardystiedig o’r LPA i gwmni neu sefydliad.

6. Cofnodion a dyletswyddau atwrnai

Cadwch gofnod o:

  • benderfyniadau pwysig rydych yn eu gwneud a phryd fyddwch yn eu gwneud, er enghraifft gwerthu cartref y rhoddwr neu gytuno i driniaeth feddygol
  • asedau ac incwm y rhoddwr a sut rydych yn gwario eu harian - os ydych yn atwrnai eiddo a materion ariannol

Dylech gynnwys manylion pwy y gwnaethoch ofyn am gyngor ganddynt ac unrhyw anghydfodau.

Peidiwch a chynnwys penderfyniadauau bychan a wneir bob dydd.

Treuliau

Gallwch ond hawlio treuliau am bethau y mae’n rhaid i chi wneud fel rhan o’ch rôl fel atwrnai, er enghraifft:

  • cyflogi gweithiwr proffesiynol i wneud pethau fel llenwi ffurflen dreth y rhoddwr
  • costau teithio
  • deunydd ysgrifennu
  • costau postio
  • galwadau ffôn

Gellir gorchymyn eich bod yn ad-dalu arian y rhoddwr os byddwch yn ei gamddefnyddio neu’n gwneud penderfyniadau er eich lles chi.

Cadwch eich derbynebau ac anfonebwch y rhoddwr am eich treuliau. Bydd yr arian yn cael ei dalu gan bwy bynnag sy’n gyfrifol am arian y rhoddwr.

Gwiriadau ac ymweliadau

Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) a’r Llys Gwarchod wirio eich penderfyniadau. Efallai y byddant yn:

  • trefnu ymweld â chi a’r rhoddwr gyda’ch gilydd, neu’r rhoddwr ar ei ben ei hun

  • cysylltu â phobl eraill megis teulu, banc neu weithwyr gofal y rhoddwr

Gallant ymchwilio a’ch stopio rhag gweithredu fel atwrnai os, er enghraifft:

  • rydych wedi gwneud rhywbeth mae’r atwrneiaeth arhosol (LPA) yn dweud na allwch ei wneud

  • nid ydych wedi gwneud rhywbeth y mae’r LPA wedi eich cyfarwyddo i’w wneud

  • nid ydych wedi bod yn gweithredu er lles pennaf y rhoddwr

  • rydych yn camddefnyddio arian y rhoddwr neu’n gwneud penderfyniadau er lles eich hun

  • rydych yn gwneud rhywbeth sy’n mynd yn groes i hawliau dynol neu hawliau sifil y rhoddwr

  • nid yw’r rhoddwr yn cael eu trin yn dda

  • gwnaeth y rhoddwr yr LPA dan bwysau neu fe’i twyllwyd i’w gwneud

7. Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt

Mae’n rhaid ichi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG):

  • os ydych chi neu’r rhoddwr yn newid eich enw neu’ch cyfeiriad
  • os yw’r rhoddwr, neu atwrnai arall, yn marw
  • os ydych chi’n dechrau gweithredu fel atwrnai wrth gefn
  • os ydych chi’n dewis rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai

Gall y rhoddwr hefyd roi gwybod am newidiadau i atwrneiaeth arhosol (LPA) os oes ganddynt alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau.

Os ydych chi neu’r rhoddwr yn newid eich enw neu’ch cyfeiriad

Rhaid i chi roi gwybod i OPG os byddwch chi neu’r rhoddwr yn newid enw ac anfon copi o’r dystysgrif priodas neu’r ddogfen gweithred newid enw sy’n dangos yr enw newydd. Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau gwreiddiol.

Rhaid i chi ddweud wrth OPG os byddwch chi neu’r rhoddwr yn newid cyfeiriad, ond nid oes angen i chi anfon unrhyw ddogfennau ategol.

Peidiwch â gwneud newidiadau i’r ddogfen LPA ei hun, oherwydd gallai hynny achosi iddi fod yn annilys.

Os yw’r rhoddwr, neu atwrnai arall, yn marw

Rhaid i chi roi gwybod i OPG ac anfon atynt yr LPA wreiddiol a phob copi ardystiedig.

Os bu farw’r rhoddwr neu’r atwrnai y tu allan i’r Deyrnas Unedig, rhaid i chi hefyd anfon copi o’r dystysgrif marwolaeth.

Beth fydd yn digwydd i’r LPA gyfredol

Bydd OPG yn canslo’r LPA os bydd y rhoddwr yn marw, neu os bydd atwrnai yn marw ac naill ai:

  • roedd rhaid i’r atwrneiod wneud yr holl benderfyniadau gyda’i gilydd â€� gelwir hyn yn gweithredu ‘ar y cydâ€�
  • roedd dim ond un atwrnai

Bydd LPA a ganslwyd yn cael ei dinistrio. Os hoffech i OPG ei hanfon yn ôl atoch yn lle hyn, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am ei dychwelyd a chynnwys cyfeiriad dychwelyd.

Os bydd atwrnai yn marw a bod yr atwrneiod yn gallu gwneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain (a elwir yn gweithredu ‘ar y cyd ac yn unigol�), bydd OPG yn diweddaru’r LPA yn lle ei dinistrio. Dylech gynnwys cyfeiriad dychwelyd pan fyddwch yn anfon yr LPA.

Os ydych chi’n dechrau gweithredu fel atwrnai wrth gefn

Rhaid i chi roi gwybod i OPG pan fyddwch yn dechrau gweithredu fel atwrnai wrth gefn. Bydd angen i chi hefyd anfon y canlynol iddynt:

  • yr LPA wreiddiol
  • pob copi ardystiedig o’r LPA
  • cyfeiriad dychwelyd i OPG anfon eich dogfennau’n ôl atoch

Byddwch yn gallu dechrau helpu rhoddwr i wneud penderfyniadau cyn gynted ag y bydd yr atwrnai rydych chi’n cymryd ei le yn rhoi’r gorau i weithredu.

Edrychwch ar yr LPA i weld a oes angen i chi wneud penderfyniadau gydag atwrneiod eraill ar ôl i chi ddechrau gweithredu fel atwrnai.

Cysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
[email protected]
Rhif ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Rhif ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch e-bost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus/Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Os byddwch yn anfon e-bost neu’n ysgrifennu at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, dylech gynnwys:

  • eich enw llawn, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni
  • nodi’n glir ai chi yw’r atwrnai neu’r rhoddwr
  • enw llawn y rhoddwr, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni (os mai chi yw’r atwrnai)
  • y cyfeirnod ar eich LPA

8. Pan ddaw atwrneiaeth arhosol i ben

Gall atwrneiaeth arhosol (LPA) ddod i ben mewn sawl ffordd. Fel arfer daw i ben oherwydd bod y rhoddwr wedi marw. Rhaid i chi roi gwybod am farwolaeth rhoddwr i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).

Mae yna hefyd ffyrdd y gall LPA ddod i ben tra bydd rhoddwr dal yn fyw.

Rhoi’r gorau i weithredu cyn i’r rhoddwr farw

Gallwch ddewis rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai � gelwir hyn weithiau yn ‘ildio atwrneiaeth�.

Hefyd, ceir rhai achosion lle mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i chi roi’r gorau i weithredu fel atwrnai.

Os byddwch yn rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai, bydd unrhyw atwrneiod wrth gefn a restrir yn yr LPA yn cymryd eich lle.

Os nad oes rhai wrth gefn ar gael, gall fod ffyrdd eraill o helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau.

Os ydych chi’n dewis rhoi’r gorau i weithredu

Llenwch ac anfonwch ffurflen hysbysu at:

  • y rhoddwr - os nad yw’r LPA wedi’i chofrestru

  • y rhoddwr ac OPG (i’r cyfeiriad ar y ffurflen) - os yw’r LPA wedi’i chofrestru

  • unrhyw atwrneiod eraill a benodir ar yr LPA

Pan fydd yn rhaid i chi roi’r gorau i weithredu fel atwrnai

Rhaid i chi roi’r gorau i weithredu fel atwrnai:

  • os bydd y rhoddwr yn tynnu eich enw oddi ar eu LPA - a elwir weithiau yn ‘diddymu atwrnaiâ€�

  • os byddwch yn colli galluedd meddyliol ac yn methu â gwneud penderfyniadau mwyach

  • rydych yn atwrnai ar gyfer eiddo a materion ariannol a’ch bod yn mynd yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn rhyddhad dyledion

  • rydych yn briod â’r rhoddwr neu mewn partneriaeth sifil ag ef/â hi a’ch bod yn cael ysgariad neu ddirymiad (oni bai bod yr LPA yn dweud y gallwch barhau i weithredu fel atwrnai)

  • rydych yn atwrnai ar y cyd ac mae’r atwrnai arall yn rhoi’r gorau i weithredu, oni bai bod yr LPA yn dweud y gallwch barhau i wneud penderfyniadau

Pan fydd y rhoddwr yn terfynu’r LPA

Gall y rhoddwr ddod â’r LPA i ben os oes ganddynt alluedd meddyliol i wneud y penderfyniad hwnnw.

Bydd angen iddynt anfon y canlynol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG):

  • yr LPA wreiddiol
  • datganiad ysgrifenedig o’r enw ‘gweithred diddymuâ€�

Gweithred diddymu

Defnyddiwch y geiriad canlynol ar gyfer y weithred diddymu. Rhowch y manylion perthnasol yn y cromfachau sgwâr.

“Gwneir y weithred diddymu hon gan [enw’r rhoddwr] o [cyfeiriad y rhoddwr].

1: Mi wnes i ganiatáu atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol/iechyd a lles (dilëwch fel sy’n briodol) ar [dyddiad llofnodi’r atwrneiaeth arhosol gan y rhoddwr] yn penodi [enw’r atwrnai cyntaf] o [cyfeiriad yr atwrnai cyntaf] a [enw’r ail atwrnai] o [cyfeiriad yr ail atwrnai] i weithredu fel fy atwrnai/atwrneiod.

2: Rwy’n diddymu’r atwrneiaeth arhosol a’r awdurdod a roddwyd ganddi.

Llofnodwyd a’i danfon fel gweithred [llofnod y rhoddwr]

Dyddiad llofnodi [dyddiad]

Tystiwyd gan [llofnod tyst]

Enw llawn y tyst [enw’r tyst]

Cyfeiriad y tyst [cyfeiriad y tyst]�