Yswiriant Gwladol Gwirfoddol

Printable version

1. Trosolwg

Os na fyddwch yn talu Yswiriant Gwladol, mae鈥檔 bosibl y bydd gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gallai hyn fod oherwydd:

  • roeddech yn gyflogedig, ond ag enillion isel

  • roeddech yn ddi-waith ac nid oeddech yn hawlio budd-daliadau

  • roeddech yn cael credydau Yswiriant Gwladol am lai na blwyddyn dreth lawn

  • roeddech yn hunangyflogedig, ond ni wnaethoch dalu cyfraniadau o ganlyniad i elw bychan

  • roeddech yn byw neu鈥檔 gweithio y tu allan i鈥檙 DU

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gall bylchau olygu na fydd gennych ddigon o flynyddoedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn:

Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau ac ychwanegu at eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Pwy na all dalu cyfraniadau gwirfoddol

Ni allwch dalu cyfraniadau gwirfoddol os yw鈥檙 canlynol yn berthnasol:

  • nid oes gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol - oni bai eich bod yn cael credydau Dosbarth 3 ac yn gymwys i dalu cyfraniadau Dosbarth 2

  • rydych yn fenyw briod neu鈥檔 weddw sy鈥檔 talu Yswiriant Gwladol ar gyfradd is (yn agor tudalen Saesneg)

  • rydych wedi mynd heibio鈥檙 dyddiad cau ar gyfer talu cyfraniadau am y cyfnod sydd 芒 bylchau wedi pasio

Gwirio鈥檆h cofnod am fylchau

Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael gwybod:

  • a oes gennych unrhyw fylchau

  • faint y bydd yn ei gostio i dalu cyfraniadau gwirfoddol

  • a fyddech yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol

  • a allwch dalu ar-lein

Os oes gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, gwiriwch a ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol cyn penderfynu talu cyfraniadau gwirfoddol.

Cysylltwch 芒 Chyllid a Thollau EF (CThEF) os ydych yn credu bod eich cofnod Yswiriant Gwladol yn anghywir.

Penderfynu a ydych am dalu cyfraniadau gwirfoddol

Nid yw cyfraniadau gwirfoddol bob amser yn cynyddu鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth, er enghraifft os cawsoch eich contractio allan.

Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gwiriwch ragolwg o鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol. Gallwch hefyd gysylltu 芒 Chanolfan Pensiwn y Dyfodol.

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch 芒鈥檙 Gwasanaeth Pensiwn i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.

Os ydych yn byw neu鈥檔 gweithio dramor a鈥檆h bod dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu o fewn 6 mis o鈥檌 gyrraedd, cysylltwch 芒鈥檙 Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg) i gael cyngor.

Pam efallai yr hoffech dalu cyfraniadau gwirfoddol

Mae鈥檔 bosibl y byddwch am dalu cyfraniadau gwirfoddol oherwydd:

Pobl hunangyflogedig gyda swyddi penodol

Nid yw pawb yn cael eu cyfraniadau Dosbarth 2 wedi鈥檜 trin fel pe baent wedi鈥檜 talu, ond efallai y bydd y bobl hyn am dalu cyfraniadau gwirfoddol. Mae鈥檙 rhain fel a ganlyn:

  • yn arholwr, safonwr, goruchwyliwr neu berson sy鈥檔 gosod cwestiynau arholiad

  • landlordiaid sy鈥檔 gymwys i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2

  • yn weinidog yr efengyl nad yw鈥檔 cael cyflog na th芒l

  • yn berson sy鈥檔 gwneud buddsoddiadau 鈥� ond nid fel busnes a heb gael ffi na chomisiwn

2. Gwirio pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol y gallwch eu talu

Dysgwch a allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn seiliedig ar bethau fel eich statws cyflogaeth, oedran a ble rydych chi鈥檔 byw.

Os ydych yn gyflogedig

Gallwch dalu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol os ydych yn gyflogedig ac mae鈥檙 ddau beth canlynol yn wir:

Os ydych yn hunangyflogedig

Gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 os ydych yn hunangyflogedig a bod gennych naill ai:

  • incwm gros o 拢1,000 neu lai
  • incwm gros dros 拢1,000, ond gydag elw o lai na 拢6,845

Os ydych chi鈥檔 hunangyflogedig fel arholwr, gweinidog yr efengyl, landlord neu mewn busnes buddsoddi, gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3.

Mae cyfraniadau gwirfoddol yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau. Gallwch wirio pa fudd-daliadau y mae鈥檆h cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cyfrif tuag atynt.

Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig

Gallwch wirio rhagolwg o鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol os:

  • ydych yn ennill llai na 拢125 o gyflogaeth
  • oes gennych elw sy鈥檔 llai na 拢6,845 y flwyddyn o hunangyflogaeth

Gallwch hefyd gysylltu 芒 Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i wirio os oes gennych flwch mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac yn rhoi gwybod i chi a fydd o fudd i chi wneud taliad.

Os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd angen i chi gysylltu 芒鈥檙 Gwasanaeth Pensiwn i wirio a oes gennych fwlch. Byddant hefyd yn gallu rhoi gwybod i chi a fydd o fudd i chi wneud taliad.

Os ydych yn ddi-waith

Gallwch dalu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol os ydych yn ddi-waith ac mae鈥檙 ddau beth canlynol yn wir:

  • nid ydych yn hawlio budd-daliadau
  • nid ydych yn cael credydau Yswiriant Gwladol

Os ydych yn byw neu鈥檔 gweithio dramor (neu wedi gwneud yn flaenorol)

I dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 mae鈥檔 rhaid i chi naill ai:

  • wedi byw yn y DU am 3 blynedd yn olynol
  • fod wedi talu cyfraniadau, neu wedi trin cyfraniadau Dosbarth 2 fel pe baent wedi鈥檜 talu am o leiaf 3 blynedd

I dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 ddau o鈥檙 canlynol fod yn berthnasol hefyd:

  • roeddech yn gweithio yn y DU yn syth cyn gadael
  • rydych yn gweithio dramor ar hyn o bryd (neu wedi bod yn gweithio tra roeddech dramor)

Rhwng Tachwedd 2017 ac Ebrill 2019, roedd arweiniad CThEF yn anghywir. Mae鈥檔 dweud bod yn rhaid i鈥檙 holl amodau hyn fod yn wir. Os na wnaethoch gais neu os gwrthodwyd eich cais o ganlyniad i鈥檙 arweiniad anghywir, mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu talu ar y cyfraddau gwreiddiol. Esboniwch eich sefyllfa pan fyddwch yn gwneud cais.

Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wirio rhagolwg o鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth neu gysylltu 芒 Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y 6 mis nesaf, cysylltu 芒鈥檙 Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg). Byddant yn gwirio a oes gennych fwlch mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac yn rhoi gwybod i chi faint sydd angen i chi ei dalu.

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg) ac am lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, gallwch dalu:

3. Cyfraddau

Y cyfraddau ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 yw:

  • 拢3.50 yr wythnos ar gyfer Dosbarth 2

  • 拢17.75 yr wythnos ar gyfer Dosbarth 3

Fel arfer, byddwch yn talu鈥檙 gyfradd bresennol pan fyddwch yn gwneud cyfraniad gwirfoddol.

Pan fyddwch yn talu cyfraddau gwahanol

Os ydych yn talu cyfraniadau Dosbarth 2 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol, neu gyfraniadau Dosbarth 3 ar gyfer y 2 flwyddyn dreth flaenorol, byddwch yn talu鈥檙 gyfradd wreiddiol ar gyfer y blynyddoedd hynny:

Os ydych yn talu ar gyfer blynyddoedd cynharach, byddwch yn talu鈥檙 gyfradd 2025 i 2026.

Os oes gennych fath penodol o swydd

Byddwch yn talu cyfradd Dosbarth 2 (yn agor tudalen Saesneg) arbennig os ydych yn un o鈥檙 canlynol:

  • pysgotwr cyfran

  • gweithiwr datblygu gwirfoddol

4. Sut a phryd i dalu

Os ydych yn byw yn y DU, dysgwch sut i wneud y canlynol:

Os ydych yn byw neu鈥檔 gweithio y tu allan i鈥檙 DU

Os ydych chi鈥檔 byw neu鈥檔 gweithio dramor (neu os ydych chi wedi gwneud hynny鈥檔 flaenorol), dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud cyn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.

Dyddiadau cau

Gallwch ond talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer y 6 blwyddyn flaenorol yn unig. Bob blwyddyn, y dyddiad cau yw 5 Ebrill.

Er enghraifft, mae gennych hyd at 5 Ebrill 2031 i lenwi鈥檙 bylchau ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.

Mae鈥檔 bosibl yn y gorffennol y byddech wedi gallu talu i lenwi bylchau ar gyfer blynyddoedd a oedd dros 6 blynedd yn 么l - y dyddiad cau ar gyfer talu oedd 5 Ebrill 2025.

Gallwch ddarllen yr arweiniad neu gael help i benderfynu os ddylai chi dalu cyfraniadau gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau.

Cael help

Cysylltwch 芒 Chyllid a Thollau EF (CThEF) (yn agor tudalen Saesneg) os oes gennych gwestiynau am Yswiriant Gwladol gwirfoddol.