Dod yn unig fasnachwr
Printable version
1. Beth yw unig fasnachwr
Mae unig fasnachwr yn fath o fusnes. Dyma’r strwythur busnes symlaf i’w sefydlu a chadw cofnodion ar ei gyfer.
Fel unig fasnachwr byddwch:
- yn gweithio i chi’ch hun
- yn cael eich ystyried yn hunangyflogedig
- yn gwneud yr holl benderfyniadau busnes
Mae ffyrdd eraill o sefydlu busnes (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch fod yn unig fasnachwr fel eich unig swydd, neu fod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig ar yr un pryd.
Mae’r mwyafrif o bobl yn sefydlu fel unig fasnachwr wrth gychwyn fel busnes am y tro cyntaf.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cyfrifoldebau unig fasnachwr
Bydd gennych rai cyfrifoldebau cyfreithiol, ariannol, a chyfrifoldebau eraill wrth redeg busnes unig fasnachwr.
Risgiau cyfreithiol neu ‘rwymedigaeth�
Mae gan fusnesau unig fasnachwr rwymedigaeth ddiderfyn, sy’n golygu bod y perchnogion yn gyfrifol yn bersonol am holl ddyledion y busnes. Bydd gennych lai o ddiogelwch os bydd rhywbeth yn mynd o’i le. Efallai y bydd modd i chi gael mwy o ddiogelwch gydag .
Cyllid
Chi fydd yn cadw’r holl elw ar ôl talu treth.
Enwi’ch busnes
Cyn gynted ag y byddwch yn dechrau gweithio i chi’ch hun dylech ddewis enw’ch busnes � gallwch ddewis enw masnachu neu ddefnyddio eich enw eich hun.
Cadw cofnodion a chyfrifon
Pan fyddwch yn dechrau masnachu, bydd rhaid i chi gadw cofnodion. Bydd hyn yn eich helpu i gyfrifo eich elw neu golled ar gyfer eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Cofrestru fel unig fasnachwr
Gallwch ddechrau masnachu ar unwaith heb gofrestru. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad fel unig fasnachwr os ydych yn ennill dros £1,000 yn ystod blwyddyn dreth (o 6 Ebrill i 5 Ebrill). Gallwch ddewis cofrestru yn gynharach.
Ar ôl i chi gofrestru bydd angen i chi gyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad.
Trethi
Pan fyddwch yn cyflwyno eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cyfrifo a oes angen i chi dalu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ddibynnol ar eich elw.
Os ydych yn bodloni’r gofynion, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW. Gallwch ddewis cofrestru cyn eich bod yn bodloni’r gofynion os ydych eisiau adennill TAW ar dreuliau busnes.
Yn ddibynnol ar yr hyn yr ydych yn ei wneud, mae’n bosibl y bydd trethi eraill y bydd angen i chi gofrestru ar eu cyfer. Gwiriwch pa drethi all fod yn berthnasol i chi fel unig fasnachwr.
Dysgwch am ryddhadau treth ar gyfer unig fasnachwyr (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn lleihau eich bil treth.
Rheolau ar gyfer eich math o fusnes
Efallai bod gennych gyfrifoldebau eraill yn ddibynnol ar yr hyn y mae eich busnes yn ei wneud.
Gwiriwch a oes angen y canlynol arnoch:
- trwyddedau (yn agor tudalen Saesneg), er enghraifft i chwarae cerddoriaeth, gwerthu bwyd neu fasnachu ar y stryd
Mae rheolau i’w dilyn hefyd os ydych yn gwneud y canlynol:
- gwerthu nwyddau ar-lein (yn agor tudalen Saesneg)
- prynu nwyddau o dramor (yn agor tudalen Saesneg) neu werthu nwyddau dramor (yn agor tudalen Saesneg)
- storio neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol (yn agor tudalen Saesneg)
Y lle yr ydych yn gweithio
Gwiriwch beth yw eich cyfrifoldebau os ydych yn gwneud y canlynol:
- rhedeg eich busnes o gartref (yn agor tudalen Saesneg)
- rhentu rhywle i redeg eich busnes (yn agor tudalen Saesneg)
Os ydych yn rhentu neu’n prynu eiddo, mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu ardrethi busnes. Gall busnesau bach wneud cais am ostyngiad ar ardrethi busnes, a bydd rhai sydd ddim yn gorfod talu.
Gwiriwch a allwch hawlio swyddfa, eiddo ac offer fel treuliau.
Cyflogi pobl i helpu
Mae pethau y bydd angen eu gwneud os ydych yn croesawu eich cyflogeion eich hun. Bydd gennych fwy o gyfrifoldebau, gan gynnwys y canlynol:
- rhedeg y gyflogres
- talu am Yswiriant Gwladol eich staff � ond gallwch hawlio lwfans er mwyn lleihau eich bil (yn agor tudalen Saesneg)
- darparu pensiynau gweithle i staff cymwys
Os byddwch yn cyflogi gweithwyr asiantaeth (yn agor tudalen Saesneg) neu weithwyr llawrydd (yn agor tudalen Saesneg), mae gennych gyfrifoldebau fel eu hiechyd a’u diogelwch.
Help a chymorth
Gallwch gael help gyda sefydlu eich busnes (yn agor tudalen Saesneg).
2. Dewis enw ar gyfer eich busnes
Gallwch fasnachu o dan eich enw eich hun, neu gallwch ddewis enw arall ar gyfer eich busnes.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’n rhaid i enwau unig fasnachwyr beidio â:
- chynnwys ‘cyfyngedig� (‘limited�), ‘Cyf� (‘Ltd�), ‘partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig� (‘limited liability partnership�), ‘PAC� (‘LLP�), ‘cwmni cyfyngedig cyhoeddus� (‘public limited company�), na ‘ccc� (‘plc�)
- bod yn sarhaus
- bod yn rhy debyg i enw sydd â nod masnach gan gwmni arall (yn agor tudalen Saesneg) (oherwydd efallai y bydd yn rhaid i chi ei newid os bydd rhywun yn cwyno)
Mae’n rhaid i chi gynnwys eich enw ac enw’ch busnes (os oes gennych un) ar waith papur swyddogol, er enghraifft anfonebau a llythyrau.
3. Cofrestru fel unig fasnachwr
Mae’n rhaid i chi gofrestru fel unig fasnachwr os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn ennill dros £1,000 yn ystod blwyddyn dreth (o 6 Ebrill i 5 Ebrill)
- mae angen i chi brofi eich bod yn hunangyflogedig, er enghraifft i hawlio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
- rydych am wneud taliadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol i’ch helpu i fod yn gymwys am fudd-daliadau a Phensiwn y Wladwriaeth
Os byddwch yn cofrestru’n hwyr, neu os na fyddwch yn cofrestru, mae’n bosibl y gallech gael cosb.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Sut i gofrestru
Cofrestrwch fel unig fasnachwr drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad am reswm arall, bydd angen i chi gofrestru eto.
Gwiriwch sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad fel unig fasnachwr.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen rhif Yswiriant Gwladol arnoch er mwyn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad. Gallwch wneud cais am rif Yswiriant Gwladol os nad oes gennych un.
Darllenwch ragor am yr hyn y mae’r term ‘unig fasnachwr� yn ei olygu.